Newyddion

Mwy na £10 miliwn i adfer natur ledled Cymru, wrth i'r Gweinidog nodi blaenoriaethau amgylcheddol a gwledig

Minister for Rural Resilience and Sustainability, Llyr Gruffydd, meets with schoolchildren in Barry

Heddiw (dydd Mawrth 23 Mehefin 2026), mae'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, natur a chymunedau gwledig ledled Cymru.

Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai dros £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a fydd yn adfer bioamrywiaeth, yn creu swyddi ac yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng cymunedau a'u hamgylchedd naturiol.

Cyhoeddodd hefyd fod gwaith eisoes wedi dechrau ar Gynllun Hinsawdd a Natur uchelgeisiol, i nodi'r camau gweithredu i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.

Bydd y cynllun yn sicrhau bod gweithredu ar hinsawdd a natur yn gyfrifoldebau ar lefel Cabinet ar draws pob portffolio, gan gynnwys tai, trafnidiaeth, iechyd a'r economi.

Mae'r camau gweithredu â blaenoriaeth yn cynnwys plannu coed ac adfer mawndiroedd, cyflawni'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol Ar Fawndiroedd, a datblygu Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd Llifogydd newydd i Gymru i gydlynu dull cenedlaethol o ymdrin â llifogydd.

Bydd cynigion ar gyfer dyletswydd statudol newydd ar brawfesur gwledig hefyd yn cael eu cyflwyno, a bydd Strategaeth Datblygu Gwledig yn mynd i'r afael â thlodi ac yn creu cyfleoedd newydd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth newydd Cymru yn gweithio i sicrhau cyllideb amlflwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er mwyn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned ffermio.

Bydd Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru hefyd yn meithrin diogelwch bwyd, yn atgyfnerthu cadwyni cyflenwi ac yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Mwy na £10 miliwn i adfer natur ledled Cymru, wrth i'r Gweinidog nodi blaenoriaethau amgylcheddol a gwledig | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.