Newyddion

Mannau Iechyd a Gofal a Ysbrydolir gan Natur

Healthcare and AI

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i chwyldroi gofal iechyd yng Nghymru drwy greu profiad iechyd cyfannol cynhwysfawr, saff a diogel sy'n ymgorffori Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ddi-dor ag arbenigedd dynol a thechnoleg arloesol.

Mae systemau gofal iechyd traddodiadol yng Nghymru wedi'u cyfyngu i leoliadau penodol, gan gyfyngu ar hygyrchedd i gleifion a chlinigwyr. Yn aml, bydd pobl mewn ardaloedd gwledig a'r henoed yn wynebu mynediad annigonol at wasanaethau gofal iechyd. Er y ceir enghreifftiau o bodiau iechyd / cabanau meddygol sydd eisoes wedi'u datblygu, ein gweledigaeth yw creu mannau sydd wedi'u hysbrydoli gan natur, wedi'u hadeiladu gyda dinasyddion Cymru ac ar eu cyfer, â ffocws sylfaenol ar addasu yn unol ag anghenion unigolion a gwella mynediad at ofal i bawb.

Ein her i Ddiwydiant ac Academia yw dylunio lle ble gall ein dinasyddion gyrchu gwasanaethau o bell. Lleoliad gofal iechyd creadigol hyblyg a symudol ble gellir darparu'r un gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel ble bynnag fo'r lleoliad, gan sicrhau bod gofal iechyd yn hygyrch i bawb. Rydym yn dymuno gallu defnyddio technoleg i wella arferion gofal iechyd presennol heb eu disodli, gan gynnig man gofal cynaliadwy ac ail-greu awyrgylch o hyder.

Drwy weithredu'r weledigaeth hon, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn fwy hygyrch ac effeithlon, a chanolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r her hon yn ceisio cynorthwyo â'r gwaith o lunio ac amlygu mannau iechyd arloesol, wedi'u hysbrydoli gan natur ac wedi'u cynllunio gan ystyried anghenion unigolion. I gynorthwyo i gyflawni'r nod hwn, bydd hwn yn brosiect dau gam a rhaid i ymgeiswyr gwblhau Cam 1; Rhaid i'r gwaith i ddatblygu'r prototeip, yn llwyddiannus i allu ymgeisio am gyllid Cam 2: Rhaid i arddangoswr.

Mae cyllid Cam 1 ar gael i gefnogi hyd at 5 prosiect, a gellir cynnig cyllideb gwerth hyd at £50,000 (gan gynnwys TAW) i bob prosiect. Dylai ymgeiswyr ganolbwyntio ar gyflawni Cam 1 ar hyn o bryd, oherwydd nid yw'r cyllid i ariannu Cam 2 wedi'i gadarnhau eto. Bydd cyllid Cam 2 yn amodol ar argaeledd ac yn dibynnu ar ganlyniadau Dichonoldeb Cam 1.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus y prosiect allu bod yn bresennol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam rhwng 2 a 9 Awst 2025, er mwyn cyflwyno a rhannu eu cynlluniau / modelau wrth raddfa / prototeipiau a chasglu adborth gan ddefnyddwyr terfynol posibl.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad gwybodaeth rhithwir, a gynhelir ar Dydd Gwener 16 Mai 2025 am 12:30pm

 Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Mehefin 2025.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Inspired by Nature Health and Care Spaces | SBRI Centre of Excellence


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.