Newyddion

Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl i sefyll yn erbyn casineb

worried person on the phone

Mae Llywodraeth Cymru yn annog tystion i gefnogi dioddefwyr ac i roi gwybod am droseddau casineb, wrth i ffigyrau newydd ddatgelu effaith barhaus casineb a rhagfarn ar unigolion a chymunedau.

Daw’r alwad ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae Ystadegau Troseddau Casineb ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2025 i 2026, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ar 8 Hydref 2026, yn dangos bod 6,157 o droseddau casineb wedi’u cofnodi gan yr heddlu ledled Cymru rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026. Bu cynnydd o 7% yn nifer y troseddau casineb ar draws Cymru a Lloegr yn gyffredinol.

Troseddau casineb yw troseddau sydd wedi’u hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn ar sail hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol.

Gall dioddefwyr a thystion roi gwybod yn uniongyrchol i’r heddlu am ddigwyddiadau o’r fath. Mae cymorth cyfrinachol ac am ddim hefyd ar gael, yn annibynnol ar yr heddlu, drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl i sefyll yn erbyn casineb | LLYW.CYMRU.

Mae bod yn gyfrifol o fewn y gweithle yn golygu gwneud mwy na dim ond y gofynion cyfreithiol safonol i ddarparu gweithle diogel ac iach ar gyfer gweithwyr.Darllenwch ein Canllaw ar greu gweithle cardarnhaol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.