Newyddion

Hwb ychwanegol gwerth £1.75 miliwn i helpu i groesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd

Bus Shelter

Bydd grantiau gwerth £1.75 miliwn yn helpu i sicrhau bod busnesau twristiaeth a lletygarwch bach ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd.

Yn dilyn llwyddiant y gronfa gychwynnol i liniaru effeithiau'r tywydd a ganiataodd i'r sector atyniadau twristiaeth fuddsoddi mewn mesurau diogelu rhag tywydd gwael, bydd ail gam newydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch bach i liniaru effaith pob math o dywydd a gwella'r profiad i ymwelwyr.

Mae grantiau o rhwng £5,000 a £20,000 fesul prosiect ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau diogelu rhag tywydd gwael, fel ardaloedd awyr agored newydd o dan do, podiau bwyta, neu arwynebau a draenio.

Pwy sy'n gymwys?

Rhaid i'ch busnes:

  • Fod yn fusnes twristiaeth neu letygarwch sydd wedi'i leoli yng Nghymru - edrychwch ar y rhestr o weithgarwch busnes cymwys yn y canllawiau.
  • Cyflogi rhwng 1 a 49 o weithwyr parhaol drwy'r flwyddyn trwy dalu drwy annil (PAYE).   
  • Wedi bod yn masnachu ers o leiaf flwyddyn.
  • Cael gwefan, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu restr safle teithio fel TripAdvisor i ddangos eich bod yn denu ymwelwyr o'r tu allan i'ch ardal leol.
     

Mae Ogofâu Arddangos Dan-yr-Ogof, un o'r atyniadau i dwristiaid a dderbyniodd gyllid yn y rownd flaenorol, wedi gosod cysgodfan i’w trên tir ynghyd â tho y tu allan i'w swyddfa docynnau i gadw ymwelwyr yn sych mewn ardaloedd aros allweddol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cyllid | Eich cefnogi | Croeso Cymru Diwydiant ac Hwb ychwanegol gwerth £1.75 miliwn i helpu i groesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd | LLYW.CYMRU.

Mae'r cynllun yn agor ar 29 Medi 2025 ac yn cau ar 10 Tachwedd 2025 am 5pm.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.