Mae penderfynu a oes yn rhaid i weithiwr weithio ar wyliau banc yn fater i'w gyflogwr. Gallai ddibynnu ar y diwydiant maen nhw'n gweithio ynddo. Er enghraifft, gallai bwytai a gwestai fod yn fwy tebygol o fod ar agor ar wyliau banc.
Gallai gŵyl banc ddisgyn ar ddiwrnod nad yw gweithiwr fel arfer yn gweithio.
Dylai cyflogwyr:
- ddweud wrth weithwyr beth yw rheolau'r sefydliad ar gyfer gwyliau banc – yn enwedig os ydyn nhw'n newydd, neu os ydyn nhw’n newid o weithio’n llawn amser i weithio’n rhan-amser neu weithio shifftiau
- trafod yn rheolaidd gyda gweithwyr sut y gallai cyfnodau pan fydd y busnes ar gau neu’n brysur effeithio ar y gwyliau maen nhw’n bwriadu eu cymryd
Gwyliau banc sydd ar ddod yng Nghymru a Lloegr.
2025
| Dyddiad | Diwrnod y wythnos | Gŵyl y banc |
|---|---|---|
| 25 Rhagfyr | Dydd Iau | Dydd Nadolig |
| 26 Rhagfyr | Dydd Gwener | Dydd San Steffan |
2026
| Dyddiad | Diwrnod y wythnos | Gŵyl y banc |
|---|---|---|
| 1 Ionawr | Dydd Iau | Dydd Calan |
| 3 Ebrill | Dydd Gwener | Gwener y Groglith |
| 6 Ebrill | Dydd Llun | Llun y Pasg |
| 4 Mai | Dydd Llun | Gŵyl banc dechrau Mai |
| 25 Mai | Dydd Llun | Gŵyl banc y gwanwyn |
| 31 Awst | Dydd Llun | Gŵyl banc yr haf |
| 25 Rhagfyr | Dydd Gwener | Dydd Nadolig |
| 28 Rhagfyr | Dydd Llun | Dydd San Steffan (Diwrnod amgen) |
Os yw gŵyl banc yn cwympo ar benwythnos, bydd dydd o'r wythnos yn dod yn ŵyl banc 'amgen' yn ei le, fel arfer y dydd Llun canlynol.
Mater i'ch cyflogwr yw penderfynu a oes rhaid i chi weithio ar wyliau banc ai peidio.
Nid oes yn rhaid i'ch cyflogwr roi gwyliau â thâl i chi ar wyliau banc neu gyhoeddus.
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn rhoi gwyliau banc i chi a'ch talu’n ychwanegol i wyliau blynyddol. Bydd hyn yn cael ei amlinellu yn eich contract. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Working on bank holidays - Cyngor ar Bopeth.
Efallai bydd gwyliau banc yn effeithio ar sut a phryd caiff eich budd-daliadau eu talu.