Newyddion

Gwobrau Technoleg Cymru 2022

Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn arddangos eich cwmni, ei gyflawniadau a'i bobl i'r sector busnes ehangach yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor drwy godi proffil eich cais yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.

Rydyn ni nawr yn derbyn enwebiadau ar gyfer y gwobrau ac mae croeso i bob sefydliad yng Nghymru sy’n gweithredu yn y sector technoleg gymryd rhan.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 21 Ionawr 2022. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 24 Mawrth 2022 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.  

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Wales Technology Awards | Technology Connected on Glue Up


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.