Newyddion

Gwobrau Rhagoriaeth Arloesi 2025

Printing machine operators

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Arloesi Stationers yn agored i bob sector ar draws y diwydiannau Cyfathrebu a Chynnwys, gan gynnwys:

  • Newyddiaduraeth
  • Cyhoeddi papurau newydd a chylchgronau
  • Pecynnu
  • Gwneud papur a throsi papur
  • Argraffu
  • Cyhoeddi academaidd a gwybodaeth
  • Deunydd ysgrifennu cain
  • Cardiau cyfarch
  • Nwyddau swyddfa ac eiddo deallusol cysylltiedig
  • Busnesau archifol a digidol

Anogir enwebiadau gan gwmnïau masnachol, busnesau newydd, elusennau, cymdeithasau masnach, sefydliadau addysgol, a chyrff cyhoeddus fel amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau ac archifau.

Mae'r gwobrau'n cydnabod llwyddiant ar draws chwe chategori ac nid oes rhaid i geisiadau fod wedi'u cofrestru yn y DU ond dylent fod â chynhyrchion a/neu wasanaethau sydd ym marchnad y DU. 

Dyma’r categorïau:

  • Proses Fusnes
  • Cyfathrebu gan gynnwys Marchnata
  • Profiad y Cwsmer
  • Technoleg Addysgol ('EdTech')
  • Dylunio Cynnyrch
  • Busnesau Newydd

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Innovation Excellence Awards Intro


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.