Daeth y Ddeddf Llety i Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) yn gyfraith ar 18 Medi 2025.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un syn codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Rhaid i bawb sy’n darparu llety i ymwelwyr gofrestru, hyd yn oed os na fydd eu cyngor yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal. Bydd cofrestru'n agor yn nhymor yr hydref 2026.
Mae’r gyfraith newydd hefyd yn rhoi’r dewis i gynghorau Cymru gyflwyno tâl am aros dros nos yn eu hardal. Ebrill 2027 yw’r dyddiad cynharaf y gellir cyflwyno’r ardoll, a rhaid i gynghorau roi 12 mis o rybudd i ACC cyn ei chyflwyno.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn gyfrifol am gasglu’r ardoll ymwelwyr ac am reoli’r gofrestr llety ymwelwyr.
O dymor yr hydref 2026 ymlaen, mae gofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy’n codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru, ac sy’n derbyn archebion am 31 noson neu lai, gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru.
Cyfraddau ardoll ymwelwyr:
- Mae’r ardoll yn 75 ceiniog y pen y noson i oedolion sy’n aros mewn meysydd gwersylla neu ystafelloedd a rennir (fel hosteli). Mae pobl dan 18 oed wedi’u heithrio.
- Ar gyfer pob math arall o lety, mae’r ardoll yn £1.30 y pen y noson. Mae hyn yn cynnwys pobl dan 18 oed.
Mae’n rhaid i chi gofrestru eich llety p’un ai bod eich cyngor yn cyflwyno Ardoll ymwelwyr neu beidio.
Bydd ACC yn cynnal gweminarau ym mis Tachwedd eleni i'ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau.
Ar gyfer Llwyfannau Archebu a Chyrff Twristiaeth:
Ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr:
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Yr ardoll ymwelwyr: cyfraniad bach ar gyfer etifeddiaeth barhaol | LLYW.CYMRU.