Bob blwyddyn ar 15 Gorffennaf, mae Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd yn dathlu pwysigrwydd cyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer cyflogaeth, gwaith teilwng ac entrepreneuriaeth.
Mae'r diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i gynnal trafodaeth rhwng pobl ifanc, sefydliadau addysg, hyfforddiant technegol a galwedigaethol, y sector preifat, llunwyr polisi a phartneriaid datblygu ar bwysigrwydd rôl sgiliau wrth greu cymdeithasau cynhwysol a chynaliadwy.
O dan thema 2026 'Sgiliau ar gyfer dyfodol gyda’n gilydd', bydd gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr angen i baratoi rhaglenni sgiliau ieuenctid arloesol sy'n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan yn llwyddiannus o fewn y gymdeithas a’r economi, sgiliau sy’n eu galluogi i arwain gydag empathi a chyfathrebu gydag eraill o bob diwylliant gan feithrin gwytnwch a chyfrannu at ddyfodol gwell.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: World Youth Skills Day 2026: Skills for a shared future | UNEVOC International Centre for TVET.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth ac arweiniad i helpu eich busnes i weld beth ydy’r anghenion o ran gofynion sgiliau ynghyd â’r gofynion o ran datblygu’r busnes: Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru.