
"Diogelwch, atebolrwydd, a lleisiau preswylwyr."
Dyma dair prif egwyddor Bil diogelwch adeiladau nodedig a osodwyd gerbron y Senedd Heddiw (7 Goffennaf 2025), yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant.
Mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn rhan o raglen ehangach o ddiwygiadau gyda'r nod o wella diogelwch mewn adeiladau, ac mae'n rhan o ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i drychineb Tŵr Grenfell sy'n ceisio atal trychineb o'r fath rhag digwydd eto. Mae'n cynnwys:
- Rhaglen waith gyda'r nod o fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth o 11m ac uwch
- Diwygiadau sylweddol i'r system rheolaeth adeiladu
- Cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer adeiladau risg uchel
- Cyfrifoldebau cliriach i ddeiliaid dyletswyddau
- Cofrestru a rheoleiddio gorfodol gweithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Deddfwriaeth newydd i wella diogelwch adeiladau yng Nghymru | LLYW.CYMRU