
Heddiw, (11 Gorffennaf, 2025) mae datblygwr ynni adnewyddadwy Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd, Trydan Gwyrdd Cymru, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer tair fferm wynt newydd sydd â'r potensial i gynhyrchu hyd at 400 MW o drydan glân – digon i bweru anghenion trydan cyfartalog blynyddol 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae hynny tua chwarter y cartrefi yng Nghymru.
Yn y cyhoeddiad prosiect cyntaf ers lansio Trydan yn 2024, bydd y cynlluniau a amlinellwyd heddiw yn helpu i ddiwallu'r angen cynyddol am ynni glân yng Nghymru. Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron yn treblu erbyn 2050.
Mae'n gam sylweddol tuag at uchelgais Trydan i ddatblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040.
Y tri safle arfaethedig cyntaf yw:
- Fferm Wynt Clocaenog Dau, Sir Ddinbych/Conwy (hyd at 132 MW)
- Fferm Wynt Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin (hyd at 162 MW)
- Fferm Wynt Carreg Wen, Rhondda Cynon Taf (hyd at 108 MW)
Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu er budd Cymru yn unig, gyda'r holl elw a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y ffermydd gwynt yn cael eu datblygu ar ystad goetir Llywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu 126,000 hectar - 6% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru - ac sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd sydd â'r potensial gorau yn y wlad ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae torri allyriadau carbon Cymru yn un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at Gymru'n cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i fodloni 70% o'r hyn a ddefnyddir yng Nghymru erbyn 2030, gan godi i 100% erbyn 2035.
Amcangyfrifir y bydd y datblygiadau yn creu cannoedd o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a'r cam gweithredu, gyda Trydan wedi ymrwymo i gynnwys cwmnïau o Gymru drwy gydol y broses.
Mae rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd yn bwrw ati gyda phrosiectau cyntaf | LLYW.CYMRU