Newyddion

Cyllid sgiliau i fynd â phobl ifanc greadigol i'r lefel nesaf

Culture Minister, Jack Sargeant

Mae'r bobl ifanc gyntaf i raddio o brosiect peilot i wella mynediad llawr gwlad i'r sectorau gemau ac animeiddio wedi sicrhau lleoedd i'w chwennych ar raddau datblygu gemau ynghyd â gwaith yn y diwydiant.

O'r 30 o fyfyrwyr a astudiodd ar Brosiect Gêm cychwynnol Media Academy Cymru (MAC), aeth 80% ymlaen i gyrsiau addysg bellach yn Ne Cymru, mae pedwar yn astudio cyrsiau sy'n gysylltiedig â gemau yn y brifysgol, ac ar hyn o bryd mae un yn gweithio fel profwr gemau i un o brif ddatblygwyr gemau Cymru.

Mae MAC yn darparu rhaglenni addysg amgen i bobl ifanc 16 i 25 oed nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth. Maent yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu gwaith yn dargyfeirio plant a phobl ifanc o'r system cyfiawnder troseddol.

Derbyniodd Prosiect Gêm dros £140,000 gan Lywodraeth Cymru, drwy rownd gyntaf Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol. Dyfeisiwyd tair rhaglen astudio newydd yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed, a rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, dysgu am lwybrau gyrfa posibl yng Nghymru a phrofi gemau newydd cyn iddynt gael eu lansio ar gyfer y cyhoedd.

Yn dilyn llwyddiant Prosiect Gêm (sydd bellach yn cael ei gynnig fel cwrs prif ffrwd mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a'r Fro), lansiwyd peilot animeiddio y llynedd a ariannwyd gan ail rownd o gyllid Sgiliau Creadigol. Mae'r Prosiect Animeiddio yn cynnig maes llafur strwythuredig i bobl ifanc sydd â phrofiadau addysgol amrywiol, ynghyd â'r cyfle i rwydweithio a chymryd rhan yn y gymuned animeiddio ehangach, gan ddangos eu gwaith yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd ac mewn nosweithiau animeiddiadau rheolaidd.

Mae cronfa Sgiliau Creadigol yn cefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y diwydiannau creadigol - o gerddoriaeth a sgrin i gemau, animeiddio, a thechnoleg ymgolli. Ar draws dwy rownd y gronfa, mae 34 o brosiectau wedi'u hariannu, gan fuddsoddi £3 miliwn.

Canfu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar brif elfennau'r rownd ariannu gyntaf fod dros 27,000 o unigolion a thros 300 o gwmnïau wedi elwa o'r gefnogaeth a ddarparodd 488 o gyrsiau hyfforddi a sicrhau 300 o leoliadau profiad gwaith.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cyllid sgiliau i fynd â phobl ifanc greadigol i'r lefel nesaf | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.