Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i’n Rheolwyr Perthnasoedd arbenigol. Y mis hwn, dewch i gwrdd â Geraint Hughes, ymgynghorydd angerddol sy’n cyfuno arbenigedd busnes gwledig dwfn â dull arloesol o helpu busnesau Cymru i dyfu’n hyderus.
Mae gan Geraint 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda busnesau gwledig ledled Cymru a’r DU. Yn Ysgolhaig Nuffield a Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn Cymru 2000, ef yw sylfaenydd Madryn Foods, y cwmni sydd wrth wraidd ceision Jones o Gymru a Chalon Lân, a chyd-sylfaenydd Dewin Tech, enillydd un o Wobrau Dechrau Busnes Cymru. Yn Gadeirydd a Phrif Ymgynghorydd Bwyd Amaeth yn Lafan, mae’n dod â chanfyddiad entrepreneuraidd uniongyrchol i’w waith gan gefnogi busnesau uchelgeisiol ar y Rhaglen Cyflymu Twf (RCT).
Fe ofynnon ni i Geraint rannu beth sy’n ei yrru a’r cyngor y mae’n ei gynnig fwyaf aml.
Beth a’ch denodd chi gyntaf i weithio gyda busnesau twf uchel?
Pan sylweddolais i effaith busnesau twf uchel ar greu cyfoeth, a’r ffordd maen nhw’n creu cyfleoedd ac yn cefnogi cymunedau. Mae gweithio gyda busnesau twf uchel trwy RCT yn caniatáu i mi fanteisio ar fy mhrofiad i wneud gwahaniaeth go iawn.
Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd?
Gweld yr effaith y mae busnes sy’n tyfu yn ei chreu, fel cyfleoedd gwaith lleol, ychwanegu cyfoeth at yr economi leol ac arloesi sy’n gwella cymunedau. Dwi wrth fy modd yn ymweld â busnesau a chlywed eu hanesion, fel sut maen nhw wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc ddychwelyd i gefn gwlad Cymru. Mae gwneud arian yn bwysig, ond yr effaith yw’r cymhelliant i mi. Mae pawb am weld Cymru gryfach, fwy bywiog ac mae busnesau twf uchel yn chwarae rhan enfawr yn hynny o beth.
Beth yw’r cyngor busnes gorau i chi ei gael erioed?
Mae fy narn gorau o gyngor wedi’i ysbrydoli gan ein nawdd sant, Dewi Sant: "Gwnewch y pethau bychain". Mewn byd llawn sŵn a tharfu, dwi’n meddwl yn aml am y geiriau doeth hynny. Daliwch ati i wneud y pethau bychain yn iawn a bydd popeth yn iawn yn y pen draw. Dwi hefyd yn dweud wrth gleientiaid am gadw llygad ar dri pheth: llif arian, eglurder o ran eich cenhadaeth a’ch gweledigaeth a chael y bobl iawn yn y seddi iawn.
Beth yw’r nodwedd a welwch chi yn yr arweinwyr mwyaf llwyddiannus?
Creadigrwydd. Hon yw’r nodwedd fwyaf cyffredin ymhlith y to newydd arweinwyr busnes yng Nghymru. Allwn ni ddim cystadlu ar gostau yng Nghymru bob tro, felly er mwyn arloesi a sefyll allan mae angen i chi fod yn greadigol. Yn aml byddaf yn dweud wrth fusnesau am fod yn hynod ofalus o’u pobl greadigol. Byddan nhw’n ychwanegu gwerth aruthrol!
Sut ydych chi’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Trwy symud, boed yn ddosbarthiadau ffitrwydd, beicio neu gerdded. Dwi’n lwcus o fyw rhwng yr arfordir a’r mynyddoedd. Dwi hefyd yn hoff o arddio, cadw gwenyn, gofalu am fy ieir a thyfu llysiau. Mae rhan fawr o’m calon i yn yr ardd, sy’n adlewyrchu fy ngwreiddiau ym myd ffermio. A dwi’n fwytäwr awchus hefyd, dwi’n hapus i dalu arian da i gogyddion lleol danio fy archwaeth. Mae gennym ni ddoniau cogyddol sylweddol yng Nghymru!
Beth yw’r un peth yr hoffech chi i bob un o fusnesau RCT ei wybod?
Gwerth brand cadarn. Mae’n drawsnewidiol.
Beth yw’r heriau rydych chi’n helpu gyda nhw fwyaf aml?
Codi cyfalaf, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac adeiladu tîm, ond mae’r ceisiadau mwy anarferol yn ddiddorol a’r hyn sy’n wych am RCT yw ein bod ni’n gallu ymateb i ofynion penodol iawn. Mae gennym ni gymaint o gryfder ac amrywiaeth ar draws ein tîm o Hyfforddwyr Twf. Dwi’n dweud wrth gleientiaid: cofiwch holi bob tro. Byddech chi’n rhyfeddu at yr arbenigedd y gallwn ni fanteisio arno.
Pa waith ydych chi fwyaf balch ohono?
Pan fydd busnes cyn-fasnachu rwy’n ei gynghori yn llwyddo i werthu am y tro cyntaf, mae’n deimlad rhyfeddol. Neu pan fydd cleient yn creu swydd a thrwy hynny, yn newid bywyd ac yn gwneud cyfraniad enfawr i’r gymuned.
Eich cyngor parod chi i berchnogion busnes uchelgeisiol?
CHSanwch eich busnes: “cadwch hi’n syml.” Yn bôn, ffordd o ddarganfod beth y mae pobl yn ei ddymuno a rhoi hyn iddyn nhw yn y ffordd maen nhw’n ei dymuno yw marchnata. Yn yr un modd, cydnabyddwch beth rydych chi’n anelu at ei gael o’r busnes a strwythurwch bethau mewn modd sy’n darparu hynny i chi.