Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- Cytundeb Setliad TWE – cytundebau a chau’r mewnflwch
- Diweddariad – bydd talu buddiannau drwy’r gyflogres yn cael eu lansio fesul cam
- Nodyn atgoffa – cyflwyno datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) misol neu wynebu cosbau am gyflwyno’n hwyr
- Taliad Pensiwn i’r Sawl sy’n Ennill Incwm Isel – yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
- Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 – camau i’w cymryd
- Helpu’ch gweithlu i ennill y blaen – anogwch anfon Ffurflenni Treth yn gynnar
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhifyn mis Mehefin 2026 o Fwletin y Cyflogwr - GOV.UK.