Newyddion

Cronfa Gweithwyr Llawrydd yn agor ar gyfer ceisiadau

Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd yn agor ar gyfer ceisiadau am hanner dydd ddydd Llun 17 Mai 2021.

Cefnogir y gronfa gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod:

  • Y Celfyddydau
  • Diwydiannau Creadigol
  • Y Celfyddydau a Threftadaeth
  • Digwyddiadau
  • Diwylliant a Threftadaeth

Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau chwaraeon.

Fel ag o’r blaen, gweinyddir y gronfa gan yr Awdurdodau Lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais ewch i dudalen Covid-19 Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru am hanner dydd dydd Llun 17 Mai.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.