Mae technolegau di-wifr uwch yn trawsnewid sawl diwydiant trwy ddarparu cysylltedd fwy sefydlog, fwy dibynadwy a chyflymach.
Mae Ucheglais Gogledd Cymru wedi lansio cronfa grant newydd i gefnogi busnesau yng ngogledd Cymru i uwchraddio neu ehangu eu systemau diwifr fel rhwydweithiau 5G, Rhyngrwyd Pethau (IoT), Wi-Fi a thechnoleg lloeren - uwch i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
Mae'r grantiau'n amrywio o £20,000 i £2 filiwn a bydd dyfarniadau yn amodol ar fodloni meini prawf y cynllun. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu cyllid cyfatebol o o leiaf 50% a dangos enillion ar fuddsoddiad a rhagolygon creu swyddi.
Bydd y cynllun grant yn cael ei strwythuro yn broses dau gam gyda rowndiau ariannu:
- Datganiad o Ddiddordeb (DoDd)
- Cais Llawn
Bydd y cyfnod Datganiad o Diddordeb yn cau am 12:00 (canol dydd) ar 11 Awst 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn yw 11:59pm (hanner nos) ar 31 Mawrth 2030.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Uchelgais Gogledd Cymru | Cronfa Grant Technoleg Di-wifr Uwch.