Newyddion

Cronfa Buddsoddi i Gymru – ar agor ar gyfer ceisiadau

Machynlleth, Cymru

Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n ymrwymo £130 miliwn o gyllid newydd i fusnesau.

Nod y gronfa yw sicrhau twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd ac sydd ar dwf ar draws Cymru.

Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol:

Mae’r gronfa’n cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cronfa Buddsoddi i Gymru | British Business Bank.

Gall fod yn anodd gwybod lle i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir o gyllid.

Mae ein parth cyllid yma i’ch helpu. Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes, darllenwch ganllawiau sy'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid, chwiliwch am wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr a darllenwch am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru: Canfod Cyllid | Drupal.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.