
Mae'r Adran Drafnidiaeth, mewn partneriaeth ag Innovate UK wedi lansio cystadleuaeth First of a Kind (FOAK).
Mae cystadleuaeth FOAK yn hybu arloesi ar y rheilffyrdd, gan wella profiad teithwyr trwy’r dechnoleg ddiweddaraf.
Gall sefydliadau wneud cais am gyfran o hyd at £4.7 miliwn gan gynnwys TAW, ar draws pedair thema i ddatblygu prototeip, cynnal profion maes a dangos eu datrysiad
Mae'r gystadleuaeth yn mynd i'r afael â 4 thema.
- rhyngwyneb trenau a phlatfformau
- diogelwch personol
- taro pontydd
- deallusrwydd artiffisial ar gyfer prosesau cymhleth
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Mai 2025.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Passenger experience put first in multimillion pound competition driving rail innovation - GOV.UK
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.