
Ar 18 Medi 2025, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf sy'n caniatáu i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr dros nos i godi arian ar gyfer twristiaeth leol.
Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno tâl bach ar gyfer arosiadau dros nos, gyda'r holl arian yn cael ei ailfuddsoddi'n lleol i gefnogi twristiaeth. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar gyfer cynghorau.
Mae'r gyfraith hefyd yn creu cofrestr genedlaethol ar gyfer yr holl ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, a fydd yn cael ei chynnal gan ACC.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni canlynol:
- Ardoll ymwelwyr i gefnogi twristiaeth yn dod yn gyfraith | LLYW.CYMRU
- Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 | LLYW.CYMRU
- Ardoll ymwelwyr a chofrestr o ddarparwyr llety Ymwelwyr: pamffled | LLYW.CYMRU
- Yr Ardoll Ymwelwyr: sut y gallwn ni i gyd elwa | LLYW.CYMRU
- Ardoll ymwelwyr: canllawiau i ddarparwyr llety ymwelwyr | LLYW.CYMRU
- Cofrestru llety ymwelwyr: rhagarweiniad | LLYW.CYMRU