
Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 22 a 23 Hydref 2025.
Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol mewn blynyddoedd blaenorol o ran creu cyfleoedd busnes newydd i fusnesau Cymreig ac mae wedi gweld cynnyrch o Gymru yn cael ei anfon o amgylch y byd i bobl ei fwynhau.
Mae bod yn y digwyddiad yn galluogi busnesau i ddod i gysylltiad, rhwydweithio a chynyddu eu proffil brand gyda chynhyrchwyr allweddol, prynwyr yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ehangach y diwydiant.
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru i fynychu, anfonwch e-bost at: bwydadiodcymru@mentera.cymru