Mae'r prosiect hwn yn fenter ymchwil gydweithredol dan arweiniad Ysgol Fusnes Albert Gubay Bangor, mewn partneriaeth ag M-SParc, ac wedi'i ariannu gan gynllun SMART FIS Llywodraeth Cymru.
Rydym yn awyddus i ddysgu sut mae busnesau o Gymru yn defnyddio neu'n ystyried defnyddio Deallusrwydd Artiffisial.
Rydym am sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cael y gefnogaeth, y sgiliau, a'r arweiniad cywir i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd ymarferol a chyfrifol. Bydd eich barn yn helpu i lunio raglenni datblygu sgiliau, gweithgaredd arloesi a chefnogaeth busnes ledled Cymru.
Bydd yr arolwg yn cau ar 15 Mawrth 2026: Holiadur: Harneisio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gyfer Arloesedd Busnesau Bach a Chanolig Cymru.