Mae Littlechild & Haley yn gwmni archwilio mewnol, risg a sicrwydd arbenigol ac annibynnol sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y busnes gan Donna Littlechild a Paul Haley, ac mae wedi tyfu'n gyflym, gan adeiladu sylfaen cleientiaid gref ledled y DU a sicrhau lleoedd ar bedwar fframwaith sector cyhoeddus sy'n rhoi llwybr uniongyrchol i dros 2,200 o sefydliadau benodi'r cwmni. Yn ddiweddar ymunodd y cwmni â Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru. Rhannodd y cyd-sylfaenwyr Donna a Paul pam y gwnaethon nhw gais a'u profiad o'r broses ymuno.
Beth yw'r stori sydd wrth wraidd Littlechild & Haley?
Sefydlon ni’r busnes ar ôl gweithio ers blynyddoedd lawer ym meysydd archwilio mewnol, llywodraethu a rheoli risg. Gwelsom ni fod angen pobl brofiadol ar lawer o sefydliadau a allai ddeall eu cyd-destun yn gyflym, meithrin perthnasoedd dibynadwy a helpu byrddau i wneud gwell penderfyniadau. O'r cychwyn cyntaf, mae'r busnes wedi'i adeiladu o gwmpas pwrpas syml: helpu sefydliadau i reoli risgiau i lwyddiant.
Beth wnaeth i chi archwilio RCT i ddechrau?
Roedden ni wedi dod i fan lle'r oedd y busnes yn tyfu'n gyflym, ac roedden ni am sicrhau ein bod ni'n tyfu yn y ffordd gywir. Roedd gennym ni fomentwm cryf a sylfaen cleientiaid oedd yn tyfu, ond roedden ni'n gwybod bod angen strwythur ar gyfer twf cynaliadwy. Roedd RCT yn teimlo fel y cam nesaf cywir oherwydd ei bod yn canolbwyntio ar fusnesau uchelgeisiol Cymru oedd â photensial twf go iawn, gan gynnig y cymorth ymarferol profiadol yr oedd ei hangen arnom i droi'r llwyddiant cynnar hwnnw'n fusnes mwy aeddfed a allai dyfu.
Ewch â ni drwy'r broses o gofrestru mewn gwirionedd. Oedd unrhyw beth yn syndod i chi?
Roedd y broses yn fwy personol ac ymarferol nag yr oeddem ni’n ei ddisgwyl. Cawsom ni sgyrsiau cynnar â'n Rheolwr Perthnasoedd, Nicola, a thrafod ein nodau. Roedden ni'n teimlo ei bod hi'n deall ein busnes a'n gweledigaeth ni. Roedd rhai camau gweinyddol sylfaenol ac arhosiad byr am gymeradwyaeth. Y syndod cadarnhaol oedd pa mor ddynol yr oedd pethau’n teimlo drwyddi draw. Unwaith y daeth y gymeradwyaeth, y cam nesaf oedd cyfarfod cychwynnol i gytuno ar sut y byddem ni’n gweithio gyda'n gilydd.
Beth ddigwyddodd ar ôl ymuno? Sut oedd ar yr ychydig wythnosau cyntaf yn edrych?
Symudodd y ffocws yn gyflym i gamau gweithredu. Fe drafodon ni ein blaenoriaethau a lle gallai cymorth RCT ychwanegu’r gwerth mwyaf, a daeth capasiti, recriwtio a strategaeth AD i’r amlwg yn gynnar, o ystyried pa mor bwysig yw hynny i gwmni gwasanaethau proffesiynol sy’n tyfu. Roedd y cyfarfodydd cynnar yn teimlo'n ymarferol: deall y mater yn uniongyrchol a llunio cymorth o amgylch ein hanghenion go iawn.
Ydych chi wedi cael eich paru â Rheolwr Perthnasoedd? Sut mae’r berthynas honno wedi bod?
Do. Nicola yw ein Rheolwr Perthnasoedd ac mae hi wedi bod yn gyswllt allweddol i ni, gan ein helpu ni i feddwl ar beth dylai ein cymorth cychwynnol ganolbwyntio. Rydyn ni hefyd wedi cael ein cyflwyno i Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Gwaith Teg RCT i archwilio recriwtio, AD a chymorth i adeiladu capasiti. Mae’r profiad wedi bod yn un cadarnhaol drwyddi draw, ac rydyn ni wedi canfod bod y cymorth yn ymatebol ac yn ymarferol, gan nodi’r cyfyngiadau go iawn ar ein twf ac wedyn dod o hyd i'r cymorth arbenigol cywir i fynd i'r afael â nhw.
Beth byddech chi'n ei ddweud wrth fusnes arall sy'n ystyried gwneud cais?
Ewch amdani, a byddwch yn barod i fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae ei angen arnoch. Mae RCT fwyaf gwerthfawr os bydd gennych chi uchelgais, momentwm a chwestiynau gonest ynghylch sut i dyfu'n gynaliadwy. Nid dim ond mater o gael cymorth yw hyn; mae'n ymwneud â bod yn barod i wrando a derbyn her adeiladol. Pan fyddwch chi'n agos at y gwaith o ddarparu o ddydd i ddydd, mae'n anodd cael y persbectif allanol hwnnw mewn unrhyw ffordd arall. Ac mae hynny fel aur.
Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.
Dysgwch ragor am Littlechild & Hayley.