Report, Document

Canllaw i Gyflenwyr ar Feithrin Llesiant trwy ein Heconomi Sylfaenol yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn wedi'i ysgrifennu ar gyfer arweinwyr busnes yng Nghymru ac mae'n uno dau ddatblygiad strategol a gaiff eu harwain gan Lywodraeth Cymru, sef: Yr Economi Sylfaenol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf: 15 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf: 15 Medi 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 105.18 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad yn defnyddio pum astudiaeth achos i ddangos bod canolbwyntio ar ddull yr Economi Sylfaenol yn ddull economaidd hollbwysig er mwyn sicrhau y bydd llesiant pobl a ffyniant economaidd yn parhau i fod yn feysydd allweddol â blaenoriaeth yng Nghymru. Bydd yr amcanion a nodir yn yr adroddiad mewn perthynas â'r Economi Sylfaenol yn helpu i wella bywydau dinasyddion sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw'r ddeddfwriaeth gyntaf drwy'r byd sy'n rhoi blaenoriaeth i lesiant cenedlaethau'r dyfodol ar lefel genedlaethol, gan anelu at wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith cysyniadol a wnaed gan Cynnal Cymru¹, ac mae'n sôn am bwyntiau hollbwysig sy'n berthnasol i arweinwyr microgwmnïau, Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) a Mentrau Cymdeithasol, Cymunedol a Gwirfoddol.

Diben Yr Adroddiad

Mae'r adroddiad hwn yn cynnig canllaw i arweinwyr busnes yng Nghymru trwy egluro'r hyn y mae'r Economi Sylfaenol yn ei olygu, a pham y mae'n strategaeth bwysig i Gymru.

Yn yr adroddiad, archwilir y cydgysylltiadau rhwng egwyddorion yr Economi Sylfaenol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; ac yng nghyd-destun caffael yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae elfennau hollbwysig Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn dangos sut y mae ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn ysgogi twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru.

Mae'r canllaw'n annog cyflenwyr i edrych y tu hwnt i'w strategaethau sefydliadol eu hunain, ynghyd â deall yn well sut y mae eu busnes yn cyfrannu at nodau cenedlaethol ehangach (Cymru) a'r modd y gall y busnesau hyn fod yn hollbwysig o ran esgor ar werth cymdeithasol wrth dendro am gontractau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Wrth ddiffinio dull yr Economi Sylfaenol, rhaid deall y cyfranwyr a'r buddiolwyr hollbwysig trwy grwpiau rhanddeiliaid, megis unigolion, busnesau o bob maint, cynghorwyr busnes, llunwyr polisïau a'r sector cyhoeddus.

Bydd y canllaw hwn yn helpu arweinwyr busnes yng Nghymru – o archfarchnadoedd mawr i BBaCh a busnesau â diben cymdeithasol cryf – i ddeall eu diben yn well a'r modd y mae eu busnes yn cyfrannu at nodau cenedlaethol. Yn ogystal â'u helpu i ddeall yn well sut y maent yn cyflawni gwerth cymdeithasol, bydd hyn yn eu helpu mewn trafodaethau busnes yn y dyfodol a phan fydd angen datblygu achos busnes ar gyfer cyfleoedd cyllido yn y dyfodol. Mae dull yr Economi Sylfaenol yn annog dinasyddion a chymunedau i gyfranogi yn y gwaith o gyflawni sectorau sylfaenol. Mae dull yr Economi Sylfaenol yn meithrin amrywiaeth yn y gadwyn gyflenwi, yn cynnwys mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a phrosiectau sy'n eiddo i gymunedau.

Bydd Economi Cymru yn elwa ar ddull mwy cydgysylltiedig rhwng polisïau ar y naill law a'r modd y rhoddir polisïau ar waith ar y llaw arall. Y gobaith yw y bydd yr ymdrech hon yn esgor ar ganlyniadau gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Trwy ddulliau mesur effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn gwireddu'r buddion rhanbarthol a'r buddion ehangach a ddaw i ran rhanddeiliaid er mwyn helpu i lunio polisïau ar gyfer y dyfodol a buddsoddi yn y gwaith o'u gweithredu.

Bydd unigolion yn elwa ar gyfleoedd newydd i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a fydd yn arwain at ychwaneg o gyfleoedd cyflogaeth. Bydd hyn yn arwain at Gymru ffyniannus, iachach, fwy cyfartal, a gwydnach.

Bydd cynghorwyr busnes yn deall dull yr Economi Sylfaenol yn well, a'r modd y gellir ei roi ar waith. Ymhellach, mae gwefannau a gwybodaeth arall yn yr adroddiad yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i ddechrau arni.

Beth Yw Dull Yr Economi Sylfaenol?

Caiff dull yr Economi Sylfaenol ei fabwysiadu gan lywodraethau ledled y byd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y dull yn hollbwysig ar gyfer adeiladu economi gadarn. Nid rhywbeth newydd i Gymru mo dull yr Economi Sylfaenol: mae wedi bod yn strategaeth bwysig ers 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys busnesau mawr, bach a chanolig, a busnesau â diben cymdeithasol cryf. Mae'r sefydliadau hyn yn cyfrannu rôl ddatblygu hollbwysig at gyfoeth economaidd y gymdeithas yng Nghymru.

Dyma ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ddull yr Economi Sylfaenol: Sectorau diwydiant sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau a ddefnyddiwn bob dydd.

Y nod yng Nghymru yw meithrin sectorau fel gofal cymdeithasol, ynni, cyfleustodau, bwyd, iechyd, tai, adeiladu, trafnidiaeth, twristiaeth, a siopau manwerthu ar y stryd fawr sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol a fydd yn gwella iechyd, cyfoeth ac amgylchedd dinasyddion sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae'r sectorau hyn yn siapio'r gwasanaethau a ddefnyddiwn a'r mannau rydym yn byw ynddynt, ac maent yn rhan o'n bywydau beunyddiol a'n cymunedau. Rydym eisiau cynorthwyo'r bobl a'r sefydliadau sy'n gweithio yn y sectorau hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod eu gwasanaethau yn wasanaethau o'r radd flaenaf a'u bod yn hawdd cael gafael arnynt, ac er mwyn rhoi i bobl ymdeimlad mwy o reolaeth a pherthyn yn eu cymunedau.

Mae dull yr Economi Sylfaenol yn berthnasol i awdurdodau contractio, byrddau iechyd, ac ymddiriedolaethau. Mae gwariant caffael cyhoeddus yng Nghymru yn cyfateb i oddeutu £11 biliwn bob blwyddyn (sef gwariant ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol), a chaiff gweithwyr caffael proffesiynol eu hannog i sicrhau bod anghenion cymunedau a chyfleoedd lleol ar gyfer twf busnes yn cael eu cefnogi'n well trwy gyfrwng dull caffael cyfrifol³.

Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chyflenwyr yng Nghymru i annog yr arfer o gyrchu nwyddau a gwasanaethau lleol yn eu cadwyni cyflenwi ac i gynyddu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu lleol. Bydd y dull unedig hwn yn sicrhau y bydd cynhyrchion a gwasanaethau yn garbon niwtral, y byddant yn cyrraedd safonau uchel, y byddant yn ategu cyflogaeth deg, ac y byddant yn hygyrch ledled Cymru.

Y cylch a ddisgrifir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi Sylfaenol:

  • Mae Caffael Cyhoeddus yn prynu ychwaneg o nwyddau a gwasanaethau'n lleol
  • → Mae busnesau lleol yn ehangu, yn cyflogi rhagor o bobl ac yn talu cyflogau gwell
  • → Mae sgiliau gwell ac addysg well yn cyd-ddigwydd â gwelliannau mewn iechyd a chyfoeth, a'r tebygolrwydd y ceir rhagor o egin fusnesau
  • → Mae busnesau a chyflogeion yn cyfrannu rhagor o refeniw trethi
  • → Ailfuddsoddir refeniw trethi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chaffael yn y dyfodol
  • → (ac mae'r cylch yn parhau yn ôl i gaffael cyhoeddus)

Pum Amcan Sy'n Perthyn I'r Economi Sylfaenol

Dylai prynwyr a chyflenwyr cyhoeddus yng Nghymru ymwreiddio pum egwyddor yr Economi Sylfaenol yn eu harferion beunyddiol, fel a ganlyn:

  1. Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach – mae hyn yn golygu hyrwyddo gwaith teg, cyflogau da, cynrychiolaeth, sicrwydd, a llunio llwybrau gyrfa.
  2. Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd – er mwyn gwneud hyn, mae angen cynyddu cyflogau, gwneud nwyddau a gwasanaethau hanfodol yn haws eu fforddio, a gwella iechyd a llesiant.
  3. "Gwnaed yng Nghymru" – adeiladu cadwyni cyflenwi lleol, cadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru, ac adeiladu sylfaen gyflenwyr gref a chynhyrchiol.
  4. Cyflawni sero net – mae angen i fusnesau ganfod ynni glân ac adnewyddadwy, ynghyd â hyrwyddo cynhyrchu a defnydd ecogyfeillgar.
  5. Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol – bydd hyn yn gwella nwyddau a gwasanaethau GE, yn adeiladu seilwaith cadarn ac yn annog prosiectau sy'n eiddo i gymunedau.

Mae Cynnal Cymru wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr amcanion hyn⁴.

Pam Y Mae Dull Yr Economi Sylfaenol Yn Bwysig

Yn sgil eu cyfraniad cyfannol, mae sectorau'r Economi Sylfaenol yn cyfateb i 60% o'r holl fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru, 51% o weithwyr busnesau Cymru sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, a 47% o'r trosiant cyffredinol yng Nghymru. Trwy ehangu'r busnesau lleol hyn, mae Cymru yn cynnig llwybrau pwysig a fydd yn galluogi ei phobl i ennill sgiliau newydd.

Rydym yn byw mewn cyfnod lle ceir datblygiadau technolegol cyflym, marchnadoedd sy'n esblygu, a heriau mewn cadwyni cyflenwi, megis prinder cynhyrchion yn erbyn gormod o gyflenwadau yn ystod cyfnodau economaidd ansicr.

Cydnabyddir fwyfwy nad yw'r dull traddodiadol o fesur twf ar ffurf Cynnyrch Domestig Gros yn ddangosydd defnyddiol mwyach ar gyfer cynnydd a llesiant cenedlaethol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024), oherwydd mae'n esgeuluso anghenion sylfaenol pobl, megis mynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel bwyd ffres a gofal iechyd.

Y cylch twf cynhyrchiant a ddisgrifir yn yr adroddiad:

  • Mae twf cynhyrchiant yn creu swyddi newydd â chyflogau gwell
  • → Mae twf cynhyrchiant yn arwain at gyflogau gwell i gyflogeion
  • → Mae twf cynhyrchiant yn arwain at leihau prisiau nwyddau a gwasanaethau
  • → Mae twf cynhyrchiant yn golygu buddion gwell i gyflogeion
  • → Mae twf cynhyrchiant yn gwella safonau byw ac yn gwella iechyd cyflogeion
  • → (gan fwydo'n ôl i ragor o dwf cynhyrchiant)

Er enghraifft, gallai cynyddu nifer y busnesau sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu bwyd arwain at sgiliau medrus iawn a chyflogau uwch. Trwy ganolbwyntio mwy ar y sector bwyd, gellid arwain at gynyddu cyflenwadau nwyddau a gwasanaethau ac ysgogi cystadleuaeth yn y farchnad, gan esgor fel arfer ar gynhyrchion bwyd sy'n fwy fforddiadwy i ddinasyddion lleol.

Mae dull yr Economi Sylfaenol yn hyrwyddo polisïau cyhoeddus sy'n rhoi blaenoriaeth i anghenion sylfaenol dinasyddion trwy ganolbwyntio llai ar dwf Cynnyrch Domestig Gros a thrwy ystyried blaenoriaethau llesiant ehangach.

Bu'r pandemig Covid-19 yn adeg dyngedfennol pan welwyd prinder cyflenwadau a phan gafwyd oedi cyn dosbarthu cyflenwadau. Tanlinellwyd pa mor bwysig yw'r Economi Sylfaenol, gan ddatgelu bod angen datblygu dull economaidd cadarnach a thecach. Erbyn hyn, mae dull yr Economi Sylfaenol wedi'i integreiddio ym mholisïau Llywodraeth Cymru er mwyn ymdrin â rôl gweithwyr hanfodol mewn cymdeithas – sef rôl hollbwysig, ond rôl sy'n cael cyflog isel (Isafswm Cyflog Cenedlaethol) a rôl na roddir digon o bwys arni. Trwy integreiddio egwyddorion yr Economi Sylfaenol ym mholisïau Cymru, bydd modd rhoi mwy o gydnabyddiaeth i aelodau'r grŵp demograffig hwn, yn ogystal â gwella'u llesiant.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol⁵ yn nodi na all pobl sy'n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ymdopi â chostau byw gwirioneddol – ac mae'n cefnogi'r syniad y dylid rhoi Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith. Bydd hyn yn esgor ar fwy o gyfoeth economaidd yng Nghymru, gan arwain at wella iechyd a llesiant dinasyddion. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Cyflog Byw Gwirioneddol yma: www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage

Yng nghyd-destun sector cyhoeddus Cymru, mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn mandadu amodau gwaith teg i'r bobl a gyflogir yn y sector cyhoeddus ac mae'n cefnogi dull caffael cymdeithasol gyfrifol ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol yma: www.llyw.cymru/caffael-cymdeithasol-gyfrifol

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae gan Lywodraeth Cymru enw da drwy'r byd am lunio polisïau creadigol sy'n annog datblygu cynaliadwy ac sy'n pwysleisio cydlyniant cymdeithasol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un datblygiad unigryw. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn gwneud yn siŵr bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol – sef Deddf sy'n nodi saith Nod Llesiant (gweler y Ffigur) a phum Ffordd o Weithio (sef cydweithio, integreiddio, hirdymor, cynnwys, ac atal).

Er mwyn gallu symud oddi wrth syniadaeth fyrdymor tuag at syniadaeth hirdymor, ynghyd â gweithio'n fwy cydweithredol o fewn/ar draws sefydliadau, cymunedau a sectorau diwydiant, a rhoi dull mwy integredig ac ataliol ar waith, mae angen newid meddylfryd a newid diwylliannol.

Bydd y cydarloesi mewn deddfwriaethau a pholisïau yn golygu ychwaneg o gyfleoedd i arweinwyr busnesau bach, sefydliadau cymunedol, elusennau, y trydydd sector, a busnesau sy'n eiddo i leiafrifoedd. Mae gan y mentrau hyn botensial i gyflymu cynnydd, a'r gobaith yw y byddant yn rhoi hwb hollbwysig i gynhyrchiant yn economi Cymru.

Saith Nod Llesiant:

  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Enghreifftiau O Gymru

Cynhwysir pum enghraifft o Gymru er mwyn arddangos egwyddorion yr Economi Sylfaenol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

  • Mae Cwmpas yn dangos gwell integreiddio mewn perthynas â gofal cymdeithasol a chyflogaeth gynhwysol a chynhwysiant digidol;
  • mae Down to Earth yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio a sicrhau cyfranogiad rhanddeiliaid;
  • mae Ynni Sir Gâr yn ysgogi arloesi a chydweithredu er mwyn canolbwyntio ar gyflawni'r agenda sero net;
  • mae Simply Do yn canolbwyntio ar ganlyniadau cynaliadwy trwy gyfrwng Tai;
  • ac mae Castell Howell yn dangos sut y gellir goresgyn heriau o ran cyflenwadau yn y sector manwerthu a'r sector lletygarwch.

Enghraifft: Cwmpas

Menter gymdeithasol ac asiantaeth ddatblygu sy'n gweithio er mwyn esgor ar newid cadarnhaol yw Cwmpas. Mae Cwmpas yn cynorthwyo mentrau cymdeithasol eraill, grwpiau cydweithredol, a busnesau sy'n eiddo i gyflogeion er mwyn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol trwy gynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad. Mae gofal cymdeithasol yn un sector o fewn yr Economi Sylfaenol a gaiff flaenoriaeth gan Cwmpas⁸. Mae Trawsnewid Gofal Cymdeithasol – Sut i "Fwyta'r Eliffant"⁹ yn dangos arweinyddiaeth Cwmpas o ran goresgyn rhwystrau'n ymwneud â gofal integredig sydd, ar y cychwyn, yn "ymddangos yn rhy anodd, yn rhy ddrud, yn rhy gymhleth ac yn rhy bwysig i fentro".

Mae cyflog byw a chynhwysiant digidol yn ddwy agwedd a bwysleisir gan Cwmpas gogyfer adeiladu Economi Sylfaenol effeithiol. Darganfu gwaith ymchwil Cwmpas gyda Social Enterprise UK fod mentrau cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o dalu Cyflog Byw Gwirioneddol (84%), a bod chwarter y cyflogeion newydd yn y busnesau hyn wedi bod yn ddi-waith ers mwy na 12 mis. Nodir ymhellach bod mentrau cymdeithasol yn cynnig cyflogaeth leol dda, a bod y mwyafrif o'r gweithwyr yn byw o fewn radiws o 10 milltir.

Arweiniodd canfyddiadau'r adroddiad Allgáu Digidol BBaCh at gyllid grant ar gyfer uwchsgilio arweinwyr busnes yng Nghymru. Canolbwyntiwyd ar bum sgìl digidol sylfaenol, yn cynnwys trin gwybodaeth a chynnwys, cyfathrebu, trafod, datrys problemau a bod yn ddiogel ar-lein.

Darganfu Cwmpas fod dull yr Economi Sylfaenol yn fwy angenrheidiol nag erioed er mwyn creu'r amodau iawn ar gyfer sicrhau ffyniant cynaliadwy a chynhwysol yng Nghymru. Mae Cwmpas yn helpu i gyflawni sero net, mae'n creu rhagor o swyddi ar gyfer cymunedau difreintiedig, ac mae hyn yn rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd ac yn cadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru.

Amcanion yr Economi Sylfaenol: Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol · Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach · Gwnaed yng Nghymru · Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd

Nodau Llesiant: Cymuned Gydlynus · Cymru Gydnerth · Cymru Gyfartal · Cymru Lewyrchus · Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

Ffyrdd o Weithio: Cydweithio · Cynnwys · Hirdymor

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Cwmpas yma: cy.cwmpas.coop

Enghraifft: Down to Earth

Gellir dangos y cysylltiadau cryf rhwng dull yr Economi Sylfaenol a chyflymu datgarboneiddio trwy edrych ar un busnes adeiladu arbennig. Lleolir Down to Earth yng Ngŵyr, Abertawe, ac mae'n defnyddio dulliau adeiladu traddodiadol a chynaliadwy sy'n brosiectau masnachol hollol hygyrch a chynhwysol gogyfer grwpiau cymunedol amrywiol, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig neu anodd eu cyrraedd. Mae Down to Earth yn adeiladu popeth – o brosiectau adeiladu masnachol mawr ar gyfer tai, ysgolion ac ysbytai, i dai allan bach.

Er enghraifft, roedd yr Her Ysgolion Cynaliadwy yn gysyniad newydd ac ysbrydoledig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer treialu sut y gellir dylunio ac adeiladu ysgolion trwy gynnwys y dysgwyr, y staff a'r gymuned ehangach – gan esgor ar ysgolion sero net sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Llwyddodd tair ysgol i gael £15 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio gyda Down to Earth a threialu'r cysyniad – sef Ysgol Gynradd Bontnewydd yng Ngwynedd, Ysgol Gymraeg Rhosafan yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae Prosiect Glyn-coch yn cynnwys Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg yn Rhondda Cynon Taf.

Bu dysgwyr a staff yr ysgolion, timau awdurdodau lleol, timau dylunio ac adeiladu, a rhanddeiliaid ehangach (fel Construction Excellence a Woodknowledge Wales) yn cydweithio. Eu canolbwynt o ran creu'r ysgolion sero net hyn oedd cyflawni canlyniadau cynaliadwyedd trwy gyfrwng cyfranogiad cymunedol 'ymarferol' ac integreiddio'r cwricwlwm. Trwy gyflwyno diweddariadau ac adborth yn rheolaidd, llwyddwyd i feithrin ymddiriedaeth a sicrhau bod y rhanddeiliaid yn teimlo eu bod yn cael eu mawrbrisio. Llwyddodd yr Her Ysgolion Cynaliadwy i bontio'r bwlch rhwng timau dylunio a rhanddeiliaid, gan arwain at gyfleoedd dysgu cymhwysol a meithrin set sgiliau gweithlu'r dyfodol.

Amcanion yr Economi Sylfaenol: Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol · Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach · Cyflawni sero net trwy gynhyrchu a defnydd ecogyfeillgar · Gwnaed yng Nghymru · Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd

Nodau Llesiant: Cymuned Gydlynus · Cymru Gydnerth · Cymru Gyfartal · Cymru Lewyrchus · Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

Ffyrdd o Weithio: Cydweithio · Cynnwys · Hirdymor · Integreiddio · Atal

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: downtoearthproject.org.uk/cy/adeiladu-cynaliadwy

Enghraifft: Ynni Sir Gâr

Menter ynni adnewyddadwy gymunedol yn Sir Gaerfyrddin yw Ynni Sir Gâr, ac mae'n gweithio mewn cymunedau i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy leihau costau ynni, cynhyrchu ynni glân, a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni tra'n cadw elw'r mentrau hyn yn yr ardal leol.

Trwy gynnal a gwella'r amgylchedd naturiol, mae'r fenter yn darparu anghenion hanfodol ar gyfer holl aelodau'r gymuned er mwyn creu cymdeithas iach sy'n ategu gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, gan alluogi cymunedau i addasu i newidiadau amgylcheddol ac economaidd, ac adfer ar eu hôl. Mae Prosiect Ynni Tref Caerfyrddin¹⁰ yn dangos y gall amryfal fuddiolwyr gydweithio i gyflawni canlyniadau mwy cynaliadwy. Gan ddefnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin¹¹, fe wnaeth Ynni Sir Gâr ac Ynni Teg greu mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach trwy gynnig archwiliadau ynni am ddim i fusnesau lleol.

Cynorthwywyd arweinwyr busnes i ddeall ble i optimeiddio'u defnydd o ynni; a thrwy gyfrwng arbrofion arloesol, anogwyd sefydliadau i gydweithio wrth weithio tuag at sero net. Mae gostyngiad mewn biliau ynni yn golygu y gall arweinwyr busnes fuddsoddi mwy yn eu gweithwyr, gan gadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru a rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd.

Amcanion yr Economi Sylfaenol: Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach · Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd · Cyflawni sero net · Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol

Nodau Llesiant: Cymru Lewyrchus · Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang · Cymru Gydnerth · Cymru Iachach

Ffyrdd o Weithio: Cydweithio · Cynnwys · Hirdymor · Atal

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: cymraeg.ynnisirgar.org

Enghraifft: Simply Do

Darparwr gwasanaethau arloesol sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr i ddatrys heriau cymhleth a rheoli newidiadau trawsnewidiol – dyna yw Simply Do. Un amcan hollbwysig ar gyfer yr Economi Sylfaenol yng Nghymru yw annog arbrofi cydweithredol ac arloesol. Ond gall ymwreiddio'r ddau ymddygiad mewn diwylliant corfforaethol fod yn waith anodd. Bu Simply Do Ltd. – BBaCh o Gymru – yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Cymunedol Cymru¹² er mwyn helpu'r sefydliad i archwilio cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn ogystal ag ymwreiddio'r dulliau iawn a fyddai'n ei alluogi i fynd i'r afael â heriau systemig yn y sector tai.

Mae tai yn un o sectorau'r Economi Sylfaenol. Trwy greu heriau a thrwy helpu'r sefydliadau i gyfleu syniadau'n well, datblygodd Simply Do lwyfan digidol a aeth ati i awtomeiddio'r gwaith o olrhain a phennu atebion y gellid eu hehangu'n gyflym. Helpodd y llwyfan i leihau amser, costau a risgiau – sef elfennau sydd, fel arfer, yn gysylltiedig ag ymwreiddio arloesi.

Arweiniodd effaith y prosiect hwn at ganlyniadau gwell i bawb, yn cynnwys gwella cyfathrebu rhwng Landlordiaid Tai a thenantiaid, gwella iechyd meddwl a llesiant tenantiaid, a lleihau carbon yn y gadwyn gyflenwi tai. O ran ymwreiddio dulliau'r Economi Sylfaenol i esgor ar nodau Llesiant, mae'r prosiect trawsnewidiol hwn yn cyfrannu at adeiladu ffyniant, gwydnwch, iechyd, cymunedau cydlynus a chyfrifoldeb byd-eang.

Amcanion yr Economi Sylfaenol: Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach · Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd · Cyflawni sero net · Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol

Nodau Llesiant: Cymru Lewyrchus · Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang · Cymru Gydnerth · Cymru Iachach

Ffyrdd o Weithio: Cydweithio · Cynnwys · Hirdymor

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Simply Do yma: simplydo.co.uk

Enghraifft: Castell Howell

Mae'r sector manwerthu a'r sector lletygarwch yn wynebu heriau cyson o ran gorbenion cynyddol a diwallu'r cyflenwad gyda'r galw. Mae hyn yn arbennig o wir pan ddaw hi'n fater o ddod o hyd i gynnyrch lleol, ffres.

Mae'r busnes teuluol hwn yn cyflogi mwy na 900 o bobl ledled Cymru. Mae'n gweithio mewn partneriaeth gyda chynhyrchwyr lleol i gyflenwi siopau coffi a siopau bwydydd cyflawn ledled Cymru gyda mwy na 12,000 o eitemau bwyd lleol a ffres ac eitemau eraill nad ydynt yn fwyd. Mae Castell Howell yn arfer cydberthnasau cynhwysol a chroesawgar, gan ddathlu gwahaniaethau a chan drin eraill mewn ffordd deg a chyfartal.

Mae Castell Howell yn dangos y gall cydweithio yn y gadwyn gyflenwi er mwyn ysgogi newid esgor ar waddol cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'r busnes yn cynnig cyfleoedd twf unigryw i ffermwyr lleol er mwyn darparu prydau mwy maethlon i ysgolion ac ysbytai yng Nghymru.

Er enghraifft, fe wnaeth y prosiect 'O'r Pridd i'r Plât', a gynhaliwyd ar y cyd ag awdurdod lleol Abertawe ac Ysgol Uwchradd Llandeilo Ferwallt, helpu i godi ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol maeth, ac ymwybyddiaeth ariannol ledled y gadwyn gyflenwi tra'n adeiladu gwydnwch bwyd lleol. Gallwch wylio fideo'n sôn am effaith y prosiect hwn yma: From Gower Fields to Local Forks | Taster Day | Vimeo

Mae dod o hyd i gynhyrchion artisan lleol unigryw yn y ffordd hon o fudd i gyflenwyr a chwsmeriaid Cymru, ac mae'n helpu i roi hwb i'r economi trwy gadw cynhyrchion lleol yng Nghymru. Hefyd, mae'n creu swyddi, mae'n cadw pobl mewn swyddi gwell a swyddi gwyrddach ac mae'n gweithio tuag at gyflawni'r agenda sero net. Ymhellach, mae'r partneriaethau cydweithredol hyn yn annog arloesi o ran y dewis o nwyddau a gwasanaethau a gynigir.

Amcanion yr Economi Sylfaenol: Creu swyddi, mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach · Cyflawni sero net · Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol · Rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd · Gwnaed yng Nghymru

Nodau Llesiant: Cymru Lewyrchus · Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang · Cymru Gyfartal · Cymru Gydnerth · Cymru Iachach

Ffyrdd o Weithio: Cydweithio · Cynnwys · Hirdymor

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Gastell Howell yma: Cafés, Coffee Shops & Deli's - Castell Howell Foods

Y Manteision Sy'n Perthyn I Ddull Yr Economi Sylfaenol

Tarddodd y term 'Yr Economi Sylfaenol' yn y DU a gellir gweld elfennau tebyg mewn gwledydd Ewropeaidd fel yr Eidal, Awstria a Sweden.

Rhagdybir y cysylltiadau rhwng dull yr Economi Sylfaenol ac adeiladu cadernid cenedlaethol neu ranbarthol, ond mae astudiaeth gan Martynovich et al. (2023) yn enghraifft dda o'r gydberthynas hon, lle archwiliwyd cyfraddau cyflogaeth yn Sweden cyn, yn ystod, ac ar ôl argyfwng (2009-2016). Darganfu'r awduron fod rhanbarthau a oedd yn canolbwyntio ar ehangu sectorau'r Economi Sylfaenol yn cynnwys BBaCh i raddau helaeth iawn, a bod pob un o'r busnesau hyn yn cyflogi llai o bobl na sefydliadau mawr, sef rhywbeth a all wneud yr economi'n fwy bregus. Ond yn achos Sweden, wrth gymysgu â phecynnau eraill gogyfer ysgogi'r economi, darganfuwyd bod cyfraddau cyflogaeth wedi gostwng ar ôl i ryw argyfwng ddigwydd ond eu bod wedi adfer yn gyflymach o lawer, gan beri bod nifer helaeth o bobl yn cael eu cyflogi ym musnesau'r Economi Sylfaenol.

Gellir profi bod dull yr Economi Sylfaenol yn adeiladu cadernid mewn rhanbarthau a gwledydd ledled y byd, a cheir nifer o rwydweithiau a grwpiau ymchwil y gellir darllen amdanynt, isod.

  • Cynghrair SYLFAENOL – FOUNDATIONAL Alliance – Hafan Home — Rhwydwaith cymunedol a sefydliad aelodaeth yw'r Cynghrair Sylfaenol. Mae aelodau a phartneriaid Cynghrair Sylfaenol Cymru wedi ymrwymo i roi mwy o fodd i fyw i aelwydydd ledled Cymru.
  • The Foundational Economy — yn ei ddisgrifio'i hun fel grŵp academaidd mawr llac o arweinwyr o Awstria, Gwlad Belg, y DU a'r Eidal. Mae'r wefan yn cynnwys llu o fideos, papurau ymchwil ac enghreifftiau o achosion.
  • Foundational Economy Research (FERL) — yn grŵp neilltuol sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda chymdeithion ymchwil sydd wedi datblygu cysyniadau a dadansoddiad sylfaenol mewn cyfres o lyfrau, erthyglau ac adroddiadau ymchwil. Mae'r wefan yn cynnwys adroddiadau ymchwil.

Sut I Roi Dull Yr Economi Sylfaenol Ar Waith

Mae'r adroddiad yn cynnwys pum enghraifft o Gymru, gyda phob un yn tynnu sylw at wersi trosglwyddadwy ar gyfer arweinwyr busnes eraill yng Nghymru.

Mae adeiladu'r Economi Sylfaenol yng Nghymru yn hollbwysig i weithredu'r saith Nod Llesiant a'r pum Ffordd o Weithio yn llwyddiannus.

Mae hyn yn dibynnu'n bennaf ar fusnesau sy'n arddangos yr egwyddorion sylfaenol hyn ac amcanion yr Economi Sylfaenol, sef: cadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru a chynnig cyflogau teg; canolbwyntio ar leihau carbon; bod yn gydweithredol; a bod yn hynod arloesol.

1. Gwaith Teg

I raddau helaeth, mae'r Economi Sylfaenol yng Nghymru yn cynnwys BBaCh a Mentrau Cymdeithasol, Cymunedol a Gwirfoddol; ac fel sefydliadau llai sy'n cyflogi llai o bobl, mae'r cyflogau'n tueddu i fod yn is na'r cyflogau a gynigir gan fusnesau mwy eraill.

Ond mae'r sectorau hyn o fewn yr Economi Sylfaenol yn cyfrannu'n fawr at economi Cymru, gan gynrychioli hanner y gweithlu a gyflogir gan y sector preifat yng Nghymru.

Un dull y gall arweinwyr busnes ei ystyried er mwyn gwella effaith unigol yw cynnig y Cyflog Byw Gwirioneddol¹³ i'r holl gyflogeion, yn hytrach na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae'r egwyddor hon yn berthnasol i'r gadwyn gyflenwi hefyd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfraddau cyflogau cyfredol yma: For the real cost of living | Living Wage Foundation

2. Sero Net

Nid rhywbeth braf ei gael yw 'sero net' mwyach, ond amcan hollbwysig sydd angen set sgiliau benodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sero net, ynghyd â hyfforddiant a chyfleoedd datblygu, yma: Net Zero Skills | Business Wales

3. Arloesi

Mae mentrau Cronfeydd Her ar gael, ac maent yn cynnig grantiau. Mae Cronfa Her – Prifddinas Ranbarth Caerdydd neu becynnau ysgogi economaidd eraill ar gyfer y farchnad gyflenwi ar gael: Contractau ar gyfer Arloesi | Busnes Cymru (SBRI o'r blaen). Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART | Busnes Cymru

4. Cydweithio

Gwybodaeth am gynlluniau eraill sydd ar gael ac er mwyn deall pam y mae cydweithio wrth galon a chraidd Cymru er mwyn cael Cymru gryfach, decach a gwyrddach: Cydweithio | Busnes Cymru

5. Rhaglenni Arloesol

Gall rhaglenni arloesol fel Uchelgais Gogledd Cymru gynnig cyfleoedd twf unigryw i sectorau diwydiant, megis bwyd-amaeth a thwristiaeth, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ynni carbon isel, cysylltedd digidol, a thir ac eiddo. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Uchelgais Gogledd Cymru | Ein Rhaglenni

Casgliad

Mae'r adroddiad yn berthnasol i arweinwyr busnes yn sectorau'r Economi Sylfaenol, sef: gofal cymdeithasol, ynni, cyfleustodau, bwyd, iechyd, tai, adeiladu, trafnidiaeth, twristiaeth, a manwerthu.

Trwy lens yr Economi Sylfaenol, a chan gydweddu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'r uchelgais ar gyfer Cymru yn uchelgeisiol ac yn feiddgar. Gan gyfeirio at y pum astudiaeth achos, mae'r adroddiad wedi dangos bod adeiladu economi llesiant yn rhoi blaenoriaeth i sawl elfen yn hytrach na chanolbwyntio ar dwf economaidd yn unig. Mae adeiladu'r Economi Sylfaenol yng Nghymru yn arwain at wella gwydnwch, a bydd pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn gallu ymdopi'n well ag ysgytwadau a all ddigwydd yn y macroamgylchedd yn y dyfodol, megis pandemig a heriau'n ymwneud ag anniddigrwydd gwleidyddol.

Trwy ganfod a defnyddio nwyddau a gwasanaethau lleol, gellir cadw rhagor o bobl i fyw a gweithio yng Nghymru, a gellir helpu i adeiladu sylfaen gyflenwyr gryfach a mwy cynhyrchiol, gan arwain at wlad wydnach. Mae hyn yn helpu i greu swyddi gwell â chyflogau uwch, gan arwain at wlad fwy llewyrchus.

Bydd cydweithio ac arloesi ar draws/o fewn y sectorau diwydiant hyn yn helpu i adeiladu seilwaith mwy cadarn ac annog ychwaneg o brosiectau sy'n eiddo i gymunedau, gan arwain at ehangu Mentrau Cymdeithasol, Cymunedol a Gwirfoddol yng Nghymru a chan arwain at gymunedau mwy cydlynus a chynhwysol – sef Cymru fwy cyfartal.

Trwy gyflogi pobl ifanc o wahanol gefndiroedd, gellir cryfhau mwy fyth ar ymddiriedaeth a llesiant y gymuned.

Bydd busnesau sy'n datblygu swyddi 'gwyrdd', sy'n defnyddio ynni glân ac adnewyddadwy ac sy'n hyrwyddo cynhyrchu a defnydd ecogyfeillgar yn esgor ar Gymru iachach a Chymru sy'n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae adeiladu sectorau'r Economi Sylfaenol yn hollbwysig o ran gwireddu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r Ddeddf yn cynnig cyfleoedd hollbwysig i feithrin arferion arloesol a chynaliadwy, gan wella gwydnwch cymunedau a hyrwyddo tegwch cymdeithasol.

Mae effeithiau digwyddiadau byd-eang mawr, megis COVID-19, a'r effaith ar gymunedau lleol, yn dangos inni pa mor bwysig yw datblygu cymuned wydnach. Yn aml, mae digwyddiadau byd-eang o'r fath yn tynnu sylw at anghydraddoldebau sylfaenol nas cydnabyddir; trwy ddeall yr effeithiau a thrwy weld yr effaith niweidiol a gânt ar gymunedau, gellir helpu cymunedau i baratoi'n well, addasu, a chymryd camau ataliol.

Mae'r enghraifft sy'n sôn am Down to Earth yn dangos bod egwyddorion yr Economi Sylfaenol yn wersi pwysig y dylid eu hintegreiddio mewn addysg ar gyfer plant oedran ysgol. Bydd hyn yn helpu i greu dyfodol cynaliadwy a theg yng Nghymru. Trwy addysgu pobl yn gynnar ynglŷn â strategaethau ar gyfer ysgogi'r economi, gellir eu cynorthwyo i ddeall pwysigrwydd gwasanaethau hanfodol a gellir rhoi iddynt yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu'n arweinwyr y dyfodol, a fydd yn rhoi blaenoriaeth i lesiant a chynaliadwyedd yn hytrach nag i dwf economaidd. Trwy feithrin addysg ynglŷn â'r Economi Sylfaenol yn gynnar, bydd modd codi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl ifanc ynglŷn â gwahaniaethau mewn gofal iechyd, addysg, a nwyddau sylfaenol, gan ddatblygu cydberthynas a thosturi a chan ddangos bod angen dosbarthu adnoddau mewn ffordd decach. Ymhellach, trwy ddangos yr anghydraddoldebau sydd i'w cael yn eu cymunedau a thrwy ddangos y modd y gellir datrys yr anghydraddoldebau hynny, bydd modd hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol i raddau helaethach, ynghyd ag ysgogi cymhelliant i leihau'r gwahaniaethau.

I gloi, mae'r uchelgais o ran yr Economi Sylfaenol yng Nghymru yn gwneud cynnydd, ac yn y tymor uniongyrchol gellir gwella mwy fyth ar y nodau trwy ymhél â'r adnoddau a'r dogfennau canllaw a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Gellir cael rhagor o arweiniad ar fesur dull yr Economi Sylfaenol a'r modd y mae'n cydweddu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gan Cynnal Cymru a Llywodraeth Cymru yma: www.cynnalcymru.com/economi-sylfaenol/?lang=cy

Sut mae twf cynhyrchiant yn cysylltu ag amcanion yr Economi Sylfaenol, y Ffyrdd o Weithio, a'r 7 Nod Llesiant Cenedlaethol:

Twf Cynhyrchiant→Amcanion yr Economi Sylfaenol→Ategir hyn trwy Ymwreiddio'r Ffyrdd o Weithio→7 Nod Llesiant Cenedlaethol
  Busnesau sy'n annog arbrofi cydweithredol ac arloesol Cydweithio Cydnerth
  Busnesau sy'n creu swyddi – mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach Integreiddio Iach
  Busnesau sy'n rhoi mwy o fodd i fyw i aelwydydd Cynnwys Llewyrchus
  Busnesau sy'n cyrchu nwyddau a gwasanaethau lleol a 'wnaed yng Nghymru' yn eu cadwyni cyflenwi Atal Cyfrifol ar Lefel Fyd-eang
  Busnesau sy'n cyflawni Sero Net Hirdymor Cyfartal
      Diwylliant/Iaith
      Cymunedau Cydlynus

Diolchiadau

Datblygwyd cynnwys yr adroddiad hwn gan yr Athro Jane Lynch, Ysgol Fusnes Caerdydd mewn partneriaeth â Busnes Cymru ac Adran yr Economi Sylfaenol yn Llywodraeth Cymru. Rhoddir cydnabyddiaeth arbennig hefyd i fyfyrwyr ôl-radd o Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, sef Mitchell Patriarche a Lokesh Narayanaswamy; mae'r ddau wedi graddio erbyn hyn gyda gradd MSc mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy.

Deunyddiau Darllen Eraill

  • Crisp, R. et al. (2024) '"Beyond GDP" in cities: Assessing alternative approaches to urban economic development', Urban Studies, 61(7), tt. 1209–1229. Ar gael yma: https://doi.org/10.1177/00420980231187884.
  • Froud et al., 2020. How does productivity matter in the foundational economy? Local Economy, Cyf 35 (4), tt. 316-336.
  • Henley, A. 2021. Wales Productivity Challenge: Exploring the issues. Productivity Insights Papur Rhif 007, The Productivity Institute.
  • Hansen, T. 2022. 'The foundational economy and regional development', Regional Studies, 56(6), tt. 1033–1042. Ar gael yma: https://doi.org/10.1080/00343404.2021.1939860.
  • Henderson, D., Morgan, K. a Delbridge, R. (2024) 'Mundane innovation in the periphery: the foundational economy in a less developed region', Regional Studies [Rhagargraffiad]. Ar gael yma: https://doi.org/10.1080/00343404.2024.2320769.
  • Howarth, S. Wellbeing of Wales, 2024, ar gael yma; Wellbeing of Wales, 2024 | GOV.WALES
  • Howe, S. (2022) Wales – where well-being isn't just a buzz word, it's the law – reflects on seven years of its world-leading Future Generations Act, Future Generations Commissioner for Wales.
  • Jones, M. 2024. Ar gael yma; Productivity is key to improving the well-being of future generations in Wales - The Productivity Institute
  • Mikhail Martynovich, Teis Hansen, Karl-Johan Lundquist, Can foundational economy save regions in crisis?, Journal of Economic Geography, Cyfrol 23, Rhifyn 3, Mai 2023, Tudalennau 577–599
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. 2024. Measuring progress, well-being and beyond GDP in the UK: Mai 2024, Cyfrifiad 2021.
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Ar gael yma; Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) | LLYW.CYMRU
  • Walpole, G. et al. (dim dyddiad) A Scoping and Feasibility Study for a New Foundational Economy Academy In Wales.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ar gael yma; Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 - FGC - CYM
  • Fforwm Economaidd y Byd (2019) The results of Finland's basic income experiment are in. Is it working? Ar gael yma: https://www.weforum.org/agenda/2019/02/the-results-finlands-universal-basic-income-experiment-are-in-is-it-working/ (Cyrchwyd ar: 24 Gorffennaf 2024).
  • Sefydliad Iechyd y Byd (WHO): Deep dives on the wellbeing economy (2023) Ar gael yma; Deep dives on the well-being economy showcasing the experiences of Finland, Iceland, Scotland and Wales: summary of key findings

Troednodiadau

  1. cynnalcymru.com/?lang=cy — https://cynnalcymru.com/?lang=cy
  2. llyw.cymru/yr-economi-sylfaenol — https://www.llyw.cymru/yr-economi-sylfaenol
  3. llyw.cymru/y-sector-cyhoeddus — https://www.llyw.cymru/y-sector-cyhoeddus
  4. cynnalcymru.com/we-need-to-keep-the-focus-on-the-foundational-economy/ — https://cynnalcymru.com/we-need-to-keep-the-focus-on-the-foundational-economy/
  5. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol news item — https://futuregenerations.wales/news/wales-can-be-a-real-living-wage-nation-says-future-generations-commissioner-ahead-of-major-well-being-event/
  6. llyw.cymru/deddf-partneriaeth-gymdeithasol-chaffael-cyhoeddus-cymru — https://www.llyw.cymru/deddf-partneriaeth-gymdeithasol-chaffael-cyhoeddus-cymru
  7. futuregenerations.wales (Welsh) — Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 — https://futuregenerations.wales/cym/darganfod/cenedlaethaur-dyfodol-cymru/deddf-cenedlaethaur-dyfodol-2015/
  8. "Cynyddu gwerth cymdeithasol gofal" - Cwmpas — https://cy.cwmpas.coop/social-value-in-social-care/
  9. "Trawsnewid Gofal Cymdeithasol – Sut i 'Fwyta'r Eliffant'" - Cwmpas — https://cy.cwmpas.coop/latest/trawsnewid-gofal-cymdeithasol-sut-i-fwytar-eliffant/
  10. Carmarthen Town Community Energy Project - Ynni Sir Gar (CYM) — https://cymraeg.ynnisirgar.org
  11. Y Gronfa Ffyniant Gyffredin | Busnes Cymru — https://busnescymru.llyw.cymru/pynciau-a-chyfarwyddyd/cyllid-busnes-a-grantiau/y-gronfa-ffyniant-gyffredin
  12. How we helped CHC create a culture of innovation and impact — https://www.simplydo.co.uk/solutions/how-we-helped-chc-create-a-culture-of-innovation-and-impact
  13. Cyflog Byw yng Nghymru – Cyflog Byw i Gymru — https://cyflogbyw.cymru/cyflog-byw-i-gymru/
Lawrlwytho'r ddogfen: 105.18 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.