Gulfood, Dubai
- Math o ddigwyddiad:
- Overseas
- Dyddiad ac amser:
- to
- Dyddiad cau:
- 31 Rhagfyr 2026
Gulfood yw arddangosfa fasnach flynyddol bwyd a diod fwyaf y byd, gyda chyfle rhwydweithio heb ei ail yn rhoi mynediad i gyflenwyr, partneriaid ac arweinwyr diwydiant rhyngwladol.
Am y tro cyntaf, bydd Gulfood yn cael ei gynnal mewn dau leoliad eiconig, Canolfan Masnach y Byd Dubai a Dubai Expo City.
Gyda thros 8,500 o arddangoswyr yn arddangos mwy na 1.5miliwn o wahanol gynnyrch, mae pob sector bwyd a diod yn cael ei gynrychioli yn llawn. Mae 2027 yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cynnyrch o flaen 195 o wledydd ac archwilio cyfleoedd ym marchnadoedd allforio y Dwyrain Canol ac yn fyd-eang.
Drwy gymryd rhan bydd eich busnes yn elwa ar:
- Dull cost-effeithiol o ymweld â’r farchnad ac arddangos eich cwmni
- Cael presenoldeb naill ai yn y Neuadd Ryngwladol yn Dubai Expo City neu’r Neuadd Laeth yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai
- Rhwydweithio a siarad â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau blaenllaw yn y farchnad
- Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y GOST
Mae stondinau gan ‘Bwyd a Diod Cymru’ yn y Neuadd Ryngwladol, sydd wedi’i lleoli yn Dubai Expo City ac yn y Neuadd Laeth, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu â chost arddangos – gweler cost yr opsiynau â chymorth isod, yn seiliedig ar stondin 4 metr sgwâr:
Mae angen blaendal na ellir ei ad-dalu o £1,000.00 ar bob archeb ar ôl gwneud cais.
Pecyn A – Arddangos ar Stondin LawnCost – £5,500.00 ynghyd â TAW yn cynnwys:
- Tocynnau hedfan dwyffordd a 5 noson o lety a brecwast i 2 person
- Mae gofod ychwanegol yn costio £1,000.00 y fetr sgwâr
- Gofod arddangos ar stondin Cymru Wales
- Paneli graffig sylfaenol a chelfi
- Gwybodaeth amdanoch yn nhaflen wybodaeth y sioe ac mewn deunyddiau marchnata
- Pas arddangoswr i’r sioe
- Cymorth ar y safle gan Lywodraeth Cymru a chontractwyr penodol
- Gwahoddiadau i dderbyniadau rhwydweithio
Dalier sylw: bydd arddangoswyr yn gyfrifol am drefnu eu nwyddau eu hunain.
Os hoffech drefnu eich hediad eich hun ar eich costau eich hun, gallwn gynnig y pecyn uchod i chi am gyfradd ostyngedig o £4,000 .
Pecyn B – Ymweliad AllforioCost – £1,500.00 ynghyd â TAW yn cynnwys:
- Tocynnau hedfan dwyffordd a 5 noson o lety a brecwast i 1 person
- Gwybodaeth amdanoch mewn deunyddiau marchnata
- Gwahoddiadau i dderbyniadau rhwydweithio
- Pàs arddangoswr i’r sioe
E-bostiwch am ffurflen gais neu ragor o wybodaeth
shirley.mcgilvray@gov.walesor kelly.divry@gov.wales