Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yng Nghas-gwent i agor uned newydd yn Creo Medical, cwmni lleol sy’n tyfu ac sydd newydd gyflogi 22 o staff newydd.

Mae’r cwmni dyfeisiau meddygol hwn yn arbenigo ym maes newydd endosgopi llawfeddygol sy’n defnyddio ynni tonnau radio a microdonnau i leihau’r angen am lawfeddygaeth fewnwthiol. 

Yn 2016, derbyniodd Creo Medical fuddsoddiad o £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cyllid Cymru - sef Banc Datblygu Cymru erbyn hyn - i’w helpu i ddenu buddsoddiad o £20 miliwn a chreu 22 o swyddi  sgiliau uchel ac iddynt gyflogau da. Mae’r cwmni wedi cael cyngor ar fuddsoddi hefyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, i gefnogi'r buddsoddiad hwn. Darllenwch y stori lawn ar Newyddion Busnes Cymru

Mae Creo Medical wedi cael help Llywodraeth Cymru hefyd, drwy fuddsoddiad o £3 miliwn o ecwiti gan Cyllid Cymru, i symud ei brif swyddfa o Gaerfaddon i Gas-gwent ac i’w helpu i ehangu. 


Cewch wybod a yw’r Rhaglen Cyflymu Twf yn addas i chi.