Cafodd y cwmnïau newydd gorau yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 1 Hydref 2020, ac aeth y prif deitl i Project Blu, brand cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid anwes.
Mae Project Blu o Gaerdydd yn chwyldroi'r farchnad ategolion anifeiliaid anwes drwy drawsnewid deunyddiau sy’n llygru, gan gynnwys rhwydi pysgota, plastig sy’n mynd i’r môr, gwastraff lledr a dillad wedi'u hailgylchu, yn gynhyrchion anifeiliaid anwes fel gwelyau i gŵn, coleri, tenynnau a theganau.
Mae Prosiect Blu wedi cael cymorth eisoes oddi wrth Mars Petcare ac fe'i dewiswyd i fynd i’w Leap Venture Studio yn UDA yn gynharach eleni. Cafodd ei enwi hefyd yn Fusnes Newydd Gwyrdd y Flwyddyn ac yn Fusnes Newydd Byd-eang y Flwyddyn yn y gwobrau hynny.
Dyma’r enillwyr eraill sy'n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:
· Busnes Gwasanaethau Defnyddwyr Newydd – Skybound Therapies
· Busnes Technoleg Feddygol Newydd – Concentric Health
· Busnes Manwerthu Newydd – The Goodwash Company
· Busnes Gwledig Newydd – The Welsh Wind Disillery
· Busnes Newydd y Cymoedd – Drone Evolution
· Seren y Dyfodol – Suppliety
Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yw'r unig seremoni wobrwyo sy'n dathlu busnesau newydd yng Nghymru a'u cyfraniad i'r economi. Cafodd 22 o fusnesau sy'n elwa ar Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau.
Mae tîm Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wrth ei fodd yn gweld nifer mor drawiadol o gleientiaid yn ennill eu categorïau, ac maent yn falch iawn o'r holl fusnesau a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, sylfaenydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru:
"Er gwaethaf y pandemig Covid-19, cafodd y gwobrau'r nifer uchaf erioed o geisiadau, gyda 40% o’r ceisiadau oddi wrth gwmnïau sy'n eiddo i fenywod. Cyrhaeddodd cyfanswm o 107 y rownd derfynol ar draws 26 o gategorïau, ac roedd ansawdd uchel yr holl fusnesau hyn yn golygu bod y dasg a oedd yn wynebu’r beirniaid yn fwy anodd nag erioed. Rwy’n siŵr y bydd llawer o'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni yn creu cryn argraff yn eu sectorau dros y blynyddoedd nesaf."
"Cwmnïau newydd fydd yn creu'r rhan fwyaf o swyddi wrth inni ddod allan o'r dirwasgiad, a bydd y busnesau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol 2020, ynghyd â miloedd o fusnesau newydd eraill ledled Cymru, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod economi Cymru'n gwella'n gyflym dros y deuddeg mis nesaf. Mae eu dyfeisgarwch, eu menter a'u gwaith caled yn ystod y cyfnod cythryblus hwn wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni."
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.