Mae Ebrill 2025 wedi dod ag addasiadau i gostau cyflogaeth, gan gynnwys codiadau cyflog, newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs), a diweddariadau i daliadau statudol. Bydd deall y newidiadau a blaengynllunio yn helpu busnesau i addasu’n effeithiol.
Newidiadau allweddol sy’n effeithiol o fis Ebrill 2025 ymlaen
1. Addasiadau i’r Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, cyflwynodd llywodraeth y DU gynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a'r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW):
- Y Cyflog Byw Cenedlaethol (21+): Yn codi o £11.44 i £12.21 yr awr
- 18-20 oed: Yn codi o £8.60 i £10.00 yr awr
- 16-17 oed a Phrentisiaid: Yn codi o £6.40 i £7.55 yr awr
Dylai busnesau sy'n cyflogi gweithwyr iau—yn enwedig mewn sectorau manwerthu, lletygarwch, a sectorau eraill—adolygu cyllidebau cyflogres yn unol â hynny.
2. Addasiadau NIC Cyflogwyr
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, cynyddodd NICs cyflogwyr o 13.8% i 15%. Yn ogystal, gostyngwyd trothwy’r NIC ar gyfer gweithwyr o £9,100 i £5,000, sy'n golygu bod cyfraniadau bellach yn berthnasol i gyfran fwy sylweddol o enillion gweithwyr.
Mae'r newidiadau hyn yn gofyn am adolygiadau cyflogres i sicrhau bod busnesau'n rheoli cyfraniadau'n effeithiol.
3. Diweddariad taliadau statudol
Cynyddodd buddion statudol i gyflogeion ar absenoldebau hefyd o fis Ebrill ymlaen:
- Tâl Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu a Rhiant a Rennir Statudol: Cynyddodd o £184.03 i £187.18 yr wythnos.
- Tâl Salwch Statudol (SSP): Cododd o £116.75 i £118.75 yr wythnos.
Dylai cyflogwyr ymgorffori'r diweddariadau hyn yn eu cynlluniau ariannol i reoli costau cyflogres sy'n gysylltiedig ag absenoldebau.
Cyngor ar ymateb i’r newidiadau hyn
Nawr bod y newidiadau hyn ar waith, efallai y bydd o fudd i fusnesau adolygu gweithrediadau a chyllidebau. Dyma dri cham allweddol i’w hystyried:
1. Adolygu’r gyflogres a chyllidebu
- Aseswch strwythurau cyflogres i ddeall sut mae addasiadau cyflogau yn effeithio ar gostau.
- Rhagfynegwch gyfraniadau NIC a'u cynnwys mewn cynlluniau ariannol.
- Ystyriwch a oes angen addasiadau prisio cynhyrchion neu wasanaethau.
2. Canolbwyntio ar gynhyrchiant a chynllunio’r gweithlu
- Archwiliwch welliannau technoleg a phrosesau i wella effeithlonrwydd.
- Cryfhewch strategaethau cadw gweithwyr i gefnogi sefydlogrwydd y gweithlu.
- Ystyriwch gynlluniau prentisiaethau a mentrau datblygu'r gweithlu.
3. Blaengynllunio gyda chymorth arbenigol
Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yma i'ch helpu i reoli newidiadau mewn costau cyflogaeth a chynllunio ar gyfer twf cynaliadwy. Mae ein mentoriaid arbenigol yn darparu cyngor wedi'i deilwra ar gynlluniau ariannol a chanllawiau strategaeth y gweithlu i sicrhau bod eich busnes yn parhau i fod yn gystadleuol.
Siaradwch â'ch Rheolwr Perthnasoedd AGP heddiw i archwilio sut y gallwn helpu eich busnes i addasu i'r newidiadau hyn.