Wedi rownd o gyflwyno eu syniadau, cafodd tri o enillwyr eu cyhoeddi gan Ddug Efrog, wedi eu dewis gan y beirniaid, gan gynnwys Alumni Pitch @Palace, ac wedi ystyried pledleisiau’r gynulleidfa. Cafodd Pitch @Palace ei sylfaenu gan Ddug Efrog yn 2014, fel platfform i ddatblygu ac ysgogi gwaith entrepreneuriaid ledled y DU. Mae’r rhaglen yn cysylltu entrepreneuriaid a busnesau newydd gyda chefnogwyr posibl, gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, dylanwadwyr, buddsoddwyr, mentoriaid a phartneriaid busnes.
O’r pedwar-deg-dau o entrepreneuriaid technegol a wnaeth gais, cafodd dau ar bymtheg eu dewis i gyflwyno syniadau, a dewisiwyd tri enillydd, gan gynnwys dau gleient o’r Rhaglen Cyflymu Twf: NearMeNow a Four Minutes.
Enillydd 1 – Mae Four Minutes yn gwmni hyfforddi cymorth cyntaf sydd â chanolfan yngNghanolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili, ac yn defnyddio technoleg realaeth gymysg i alluogi pobl ledled Cymru i fod yn barod ar gyfer argyfwng meddygol, gan ddechrau gyda plant ysgol.
Enillydd 2 – Mae NearMeNow, sydd hefyd yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili, yn ap sydd wedi’i gynllunio i fywiogi’r stryd fawr, gan ganiatáu i fusnesau annibynnol gydweithio, hysbysebu, cyfathrebu a dod i gysylltiad â’u cwsmeriaid.
Enillydd 3 – Mae Psycapps yn gwmni iechyd meddwl digidol o Lundain sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n datblygu gemau i fagu y gallu i wrthsefyll, a helpu gyda iechyd meddwl.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Dug Efrog, “Pwrpas Pitch @Palace yw helpu entrepreneuriaid i ddatblygu a dysgu o dan bwysau a gwella eu busnes. I Pitch, mae’n bwysig gallu teithio’r wlad i weld ble y mae’r entrepreneuriaid. Ond rydym hefyd yn chwilio am fentoriaid, cynghorwyr a chysylltiadau ar gyfer y busnesau hyn; y cysylltiadau sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’n entrepreneuriaid.”
Meddai Carl Turner, rheolwr cymunedol yng Nghanolfan Fenter Wrecsam: “Meddai’r rheolwr cymunedol yng Nghanolfan Fenter Wrecsam: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr gyda rhai entrepreneuriaid eithriadol yn cyflwyno busnesau cyffrous iawn. Roedd cynnal Pitch@Palace 10.0 yn dda iawn i’r Hwb, ac roedd y mathau o fusnesau a gyflwynodd eu syniadau yn ysbrydoliaeth i fusnesau newydd yn yr ardal.”
Bydd yr enillwyr nawr yn ymuno â’r 39 o entrepreneuriaid eraill yn y Pitch @Palace Boot Camp yng Nghaergrawnt ym mis Hydref, ble y byddant yn clywed arbenigwyr amlwg y diwydiant ac Alumni Pitch@Palace, yn ogystal â derbyn cymorth a chael eu mentora cyn mynd i rownd derfynol Pitch @Palace yn Llundain ar 7fed Tachwedd.
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.