Mae dyn busnes wedi ennill gwobr fusnes fyd-eang uchel ei pharch.

Rhoddwyd gwobr Entrepreneur Rhagorol i Gareth Jones, sylfaenydd UK Leisure Living, yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Busnes Byd-eang 2018.

Cafodd Mr Jones, ag iddo gwmnïau yng Nghonwy a Chaer, ei wobrwyo am fod yn  entrepreneur llwyddiannus dros y chwe blynedd ddiwethaf.  

Dywedodd y beirniaid: “Mae Gareth Jones yn entrepreneur sydd wrthi’n ddi-baid yn gweithio ar syniadau newydd. Ers ennill y teitl Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn yn 2012, dan nawdd Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn 30 oed, mae Gareth wedi sefydlu chwe busnes ym maes hamdden, gwella cartrefi, a chadwraeth ynni; ac mae ganddo fusnes er budd cymunedol.
 

 

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Busnes Byd-eang yn cael eu dyfarnu gan banel mawr o arbenigwyr annibynnol sy’n dewis enillwyr yn unol â meini prawf penodol ar gyfer pob categori a sector. Mae’r rheini’n cynnwys canlyniadau ariannol, arloesi, a manteision i gwsmeriaid, gweithwyr a buddsoddwyr ac i’r gymuned. Mae’r gystadleuaeth yn denu ymgeiswyr o bedwar ban byd.

Ar hyn o bryd mae UK Leisure Living yn tyfu’n gyflym. Mae disgwyl i’r cwmni ddyblu ei refeniw eleni o £750,000 i dros £2 miliwn o ganlyniad i gynnydd mewn gwerthiannau tybiau twym yn ei brif ystafell ddangos, ac mae wedi agor ystafell ddangos newydd ger Caer.

Dywedodd Gareth: “Dw i wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Busnes Ardderchog Fyd-eag. Fy nod bob tro yw creu cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a chyffrous, p’un a ydynt yn farchnadoedd ynni adnewyddadwy, glampio neu, yn fwy diweddar, dwbâu twym.

“Dw i’n frwdfrydig iawn am fusnes ac am wneud pethau mewn ffordd arloesol, gan ddarparu'r cynnyrch a’r gwasanaethau gorau posib i gwsmeriaid a chan roi cyfle i bobl weithio mewn busnes arloesol sy’n newid yn gyflym.”
 


Mae’r busnes yn gwerthu i fusnesau ac i gwsmeriaid domestig, ac ymhlith ei gwsmeriaid y mae Bourne Leisure a’r parc gwyliau 5 seren, Plas Coch. Enillodd y busnes y teitl Spa Retailer of the Year yn 2017. Hefyd, mae Which a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi ei gymeradwyo.

Mae UK Leisure Living yn bwriadu recriwtio ar gyfer chwe swydd arall ym maes gwerthu, peirianneg a gweinyddu er mwyn ateb y galw cynyddol. Mae hyn yn golygu y bydd 16 aelod o staff. Yn ogystal ag agor ystafell ddangos yn Gordale Garden Centre ger Caer yn ddiweddar, bydd UK Leisure Living yn agor mwy o ystafelloedd dangos ar draws y Gogledd-orllewin a Chanolbarth Lloegr.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page