Rydyn ni’n gwybod bod eich amser yn werthfawr. Dyna pam mae'r gyfres hon yn darparu llyfrau, podlediadau ac offer a argymhellir gan arbenigwyr sy'n mynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn ac yn cynnig atebion ymarferol i helpu'ch busnes i lwyddo.
Bob mis, mae ein Rheolwyr Perthnasoedd AGP - arbenigwyr profiadol sy'n gweithio gyda busnesau twf uchel ledled Cymru - yn rhannu eu prif argymhellion. Mae'r adnoddau hyn wedi'u dewis yn ofalus i'ch helpu i arwain yn hyderus, gyrru twf, a chofleidio arloesedd wrth fynd i'r afael â'ch cyfleoedd a'ch heriau unigryw.
Y mis hwn, mae Andy Bird (Rheolwr Perthnasoedd AGP sy'n cwmpasu De-ddwyrain Cymru) yn rhannu ei hoff lyfrau. Gan ganolbwyntio ar ddoethineb ymarferol a newidiadau meddylfryd, mae ei ddewisiadau yn cynnig gwersi byd go iawn ar gyfer strategaeth fusnes, negodi, a meddwl perfformiad uchel.
1. What They Don’t Teach You at Harvard Business School – Mark McCormack
Pam mae’n ffefryn
Mae'r llyfr hwn yn herio dulliau academaidd traddodiadol ac yn mynd yn syth at realiti ymarferol busnes. Mae canfyddiadau McCormack wedi'u seilio ar brofiad, gan wneud syniadau cymhleth yn syml iawn. Ers blynyddoedd, dwi wedi bod yn prynu copïau ail law i’w rhoi i gleientiaid. Llyfr hawdd ei ddarllen ond sy’n llawn gwersi gwerthfawr.
Beth ddysgwch chi
- Crefft negodi a darllen pobl mewn busnes
- Pam mae bargeinion yn aml yn llwyddo neu’n methu – neu "bywyd dirgel bargen"
- Sut i redeg (a mynychu) cyfarfodydd yn effeithiol
- Strategaethau ymarferol ar gyfer gwerthiant, arweinyddiaeth, a rheoli amser
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Adeiladodd McCormack ymerodraeth marchnata chwaraeon fyd-eang ar reddf a synnwyr busnes call. Mae ei gyngor yn parhau’n berthnasol heddiw, gan gynnig dosbarth meistr mewn gwneud penderfyniadau, perswadio, ac arweinyddiaeth sy'n mynd y tu hwnt i ddamcaniaethau’r gwerslyfrau.
2. How Champions Think – Dr Bob Rotella
Pam mae’n ffefryn
Mae'r llyfr hwn yn gwneud cymariaethau trawiadol rhwng chwaraeon a busnes, gan ddangos sut mae’r perfformwyr gorau yn magu meddylfryd llwyddiant. Mae'n ganllaw ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth i ddatgloi potensial a goresgyn rhwystrau meddyliol.
Beth ddysgwch chi
- Sut i hyfforddi eich meddwl am hyder a pherfformiad uchel
- Pam mae ymrwymiad a dyfalbarhad yn allweddol i lwyddiant mewn unrhyw faes
- Strategaethau i ymdopi â phwysau, siomedigaethau, a hunan-amheuaeth
- Sut mae mabolgampwyr elît ac arweinwyr busnes yn datblygu arferion llwyddiannus
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Nid dim ond talent sy’n creu llwyddiant—mae hefyd yn fater o feddylfryd. Mae canfyddiadau Rotella yn uniongyrchol berthnasol i fusnes, gan helpu arweinwyr i adeiladu gwytnwch, hogi ffocws, a pherfformio ar eu gorau o dan bwysau.
3. Six Action Shoes – Edward de Bono
Pam mae’n ffefryn
Mae’r llyfr hwn yn cynnig system ymarferol ar gyfer addasu arddulliau arweinyddiaeth i wahanol sefyllfaoedd busnes. Mae'n adeiladu ar fframwaith enwog “Chwe Het Feddwl” de Bono ac yn ei gymhwyso i wneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar weithredu.
Beth ddysgwch chi
- Chwe arddull arwain gwahanol, a phob un yn cynrychioli gwahanol fath o esgid
- Sut i newid rhwng cynllunio strwythuredig, hyblygrwydd, camau beiddgar, a diplomyddiaeth ofalus
- Pwysigrwydd dewis y dull cywir ar gyfer gwahanol senarios busnes
Pam mae’n bwysig i arweinwyr busnes
Nid pobl anhyblyg mo arweinwyr mawr; maen nhw'n addasu. Mae Six Action Shoes yn darparu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer llywio gofynion arweinyddiaeth sy'n newid yn barhaus, gan sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir.
Ewch â’ch busnes i’r lefel nesaf gyda chymorth gan AGP
Yn barod i weithredu’r canfyddiadau hyn? Mae ein tîm ni yma i helpu i ddatblygu’r strategaethau a’r meddylfryd sydd eu hangen i dyfu’ch busnes. Cysylltwch â’ch Rheolwr Perthnasoedd heddiw i gymryd y camau nesaf tuag at lwyddiant.