Mae Gwaith Teg yn cynnwys chwech o egwyddorion cynhwysfawr cyflogaeth, a fydd yn effeithio'n sylweddol ar eich gallu i recriwtio a chadw'r gweithwyr mwyaf medrus a phrofiadol a chyflawni eich potensial twf uchel.
Gall canolbwyntio ar y chwe egwyddor hyn roi mantais strategol i chi dros eich cystadleuwyr a chreu enillion sylweddol ar fuddsoddiad gweithwyr.
Bydd yr erthygl hon yn eich helpu i ddeall sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf (AGP) eich helpu i gyflawni hyn.
Sut y Gall Chwe Egwyddor Gwaith Teg Fod o Fudd i’ch Busnes?
1. Cydnabyddiaeth Deg Mae sicrhau cyflog a buddion teg yn hybu bodlonrwydd gweithwyr ac yn helpu i’w cadw. Er enghraifft, mae ymuno â Chynllun Achredu Cyflog Byw Llywodraeth Cymru yn dangos eich ymrwymiad i dalu cyflog teg. Gall hyn gynyddu eich enw da a denu pobl dalentog â sgiliau.
2. Llais ac Ymgysylltiad Gweithwyr Mae annog gweithwyr i gyfrannu syniadau a chymryd rhan yn y penderfyniadau a wneir yn meithrin arloesedd a chynhyrchiant. Gall fforymau ymgynghori rheolaidd neu gynghorau staff wella cyfathrebu, gan wneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt fuddsoddiad yn llwyddiant y cwmni.
3. Diogelwch a Hyblygrwydd Gall cynnig contractau sefydlog a threfniadau gweithio hyblyg wella cydbwysedd bywyd a gwaith, annog ceisiadau am swyddi a gwella cyfraddau cadw gweithwyr.
4. Cyfle ar gyfer Mynediad, Twf a Dilyniant Mae hyrwyddo arferion llogi cynhwysol a chefnogi datblygiad gweithwyr yn helpu i ddatgloi potensial llawn eich gweithlu. Gall mentrau datblygu â ffocws sicrhau bod eich staff yn derbyn y cymorth sydd ei angen i ddatblygu eu gyrfaoedd a chynyddu cynhyrchiant.
5. Amgylchedd Gwaith Diogel, Iach a Chynhwysol Mae buddsoddi mewn llesiant gweithwyr yn lleihau absenoldeb ac yn rhoi hwb i forâl. Mae rhaglenni fel "Amser i Newid Cymru" yn darparu adnoddau i gefnogi ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn y gweithle.
6. Parchu Hawliau Cyfreithiol a Rhoi Sylwedd Iddynt Mae cydymffurfiaeth â chyfreithiau cyflogaeth yn lliniaru risgiau cyfreithiol, yn adeiladu ymddiriedaeth gyda'ch gweithlu, ac yn darparu diogelwch iddynt, gan arwain at well cyfraddau o gadw staff.
Trwy ymgorffori egwyddorion Gwaith Teg yn eich model busnes, gallwch feithrin gweithlu llawn cymhelliant, lleihau trosiant, a gwella delwedd eich brand. Mae rhaglenni cymorth cynhwysfawr AGP yn sicrhau bod gweithredu'r newidiadau cadarnhaol hyn yn gyraeddadwy ac yn fuddiol i fusnesau o bob maint.
Pa gymorth Gwaith Teg y gall AGP ei ddarparu?
Ystod o wahanol opsiynau, gan gynnwys:
- Archwilio a Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – gellir gwneud hyn naill ai yn eich swyddfa neu ar-lein
- Adolygiad/Datblygu Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Gwaith Teg – i sicrhau bod eich holl ddogfennau polisi yn gyfredol ac yn unol â chyfreithiau cyflogaeth.
- Archwilio a Hyfforddiant Aflonyddu Rhywiol - gan gynnwys asesiad risg, drafftio dogfennau a hyfforddiant.
- Llawlyfr Gweithwyr – adolygu a diweddaru llawlyfrau gweithwyr sy'n nodi arferion gwaith teg.
- Adolygiad Contract Cyflogaeth – sicrhau bod contractau cyflogaeth yn cydymffurfio ac yn unol ag egwyddorion gwaith teg.
- Fframwaith a Hyfforddiant Rheoli Perfformiad – gweithredu fframwaith rheoli perfformiad cadarn sy’n chydymffurfio, gan gynnwys sefydlu, cyfnodau prawf, adolygiadau perfformiad a hyfforddiant i reolwyr.
- Adolygiad o Fuddion Cyflogeion – Archwiliad o fuddion a phecynnau gwobrwyo cyfredol a chymorth i ddatblygu rhai newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Rheolwr Perthnasoedd, a all eich cyfeirio at Hyfforddwr a all eich cynorthwyo.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y maes hwn, cysylltwch â mi, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Gwaith Teg AGP. Gallwch gysylltu â mi yn Lesley.Rossiter@businesswales.agp.org.