Mae App sydd wedi’i ddylunio i adfywio, addasu a thrawsffurfio strydoedd mawr ar draws y wlad wedi derbyn buddsoddiad o dros £200,000.

Mae NearMeNow wedi derbyn cyd-fuddsoddiad ecwiti, wedi’i arwain gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi buddsoddi £150,000, gyda £60,000 pellach wedi’i dderbyn gan fuddsoddwyr preifat.

Mi fydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes cychwynnol o Gaerffili, i ddatblygu peilot o’i app gwbl ddwyieithog, Gymraeg a Saesneg, sy’n bwriadu troi strydoedd mawr yn ddigidol.

 

Victoria Mann, cyn-athrawes fathemateg a dadansoddwr risg gynt, yw’r person tu ôl i’r app. Daeth y syniad iddi pan roedd hi’n eistedd mewn siop trin gwallt un bore ynghanol yr wythnos, lle'r oedd pedwar aelod o staff a tair cadair wag. Dywedodd “Meddyliais: rhaid bod ffordd i lenwi’r cadeiriau yna a denu cwsmeriaid newydd ar yr un pryd.”

“Mae’r cynnydd mewn cystadleuaeth ar-lein wedi rhoi ein strydoedd mawr ni o dan wasgedd, ond eto, mae nifer o bobl dwi’n siarad â dal yn awyddus i brynu’n lleol a defnyddio siopau a chyflenwyr rhanbarthol. Mae NearMeNow yn darparu datrysiad digidol, cost-effeithiol i helpu’r busnesau yna hysbysebu ac ymgysylltu’n fwy effeithiol â chwsmeriaid a chyd-weithio’n fwy effeithlon gyda busnesau eraill.”

Mae NearMeNow yn gobeithio dod â syniadau, sgiliau a thechnoleg ddigidol newydd i hybu strydoedd mawr ar draws Cymru a’r DU, trwy ddatrys problem gymdeithasol ac economaidd byd-real. Mae NearMeNow yn bwriadu lawnsio peilot ei app yn y Bontfaen, ym Mro Morgannwg yn hwyrach yn y Gwanwyn.

Dywedodd, Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa Had Technoleg o Fanc Datblygu Cymru: “Mae NearMeNow yn annog cydweithio ar y stryd fawr, fydd yn cefnogi sectorau a chymunedau adwerthu i ffynnu. Mewn oes lle mae’r gystadleuaeth ar-lein yn cynyddu, mae angen i’r sector adwerthu brics a morter drio pethau newydd ac arallgyfeirio eu hapêl. Mae Vicky a’r tîm wedi creu cynnyrch sy’n cwrdd â’r angen ac yn ychwanegu gwerth go iawn i brofiad siopa’r cyhoedd. Rydym ni wir yn edrych ymlaen at weld sut mae NearMeNow yn perfformio yn y peilot sydd i ddod.”
 


Mae’r busnes wedi derbyn buddsoddiad ecwiti oddi wrth Thud Media, sydd hefyd yn bartner digidol a brandio NearMeNow. Cafwyd buddsoddiad gan Martin Greenhalgh sy’n cymryd rôl Prif Swyddog Technoleg a Sara Lynn Jones sy’n ymuno â NearMeNow fel Prif Swyddog Gweithredu.

Dywedodd Jon Rennie, Cyfarwyddwr Rheoli Thud Media a BAIT Studio: “Fel stiwdio greadigol gydag arbenigaeth rhyngweithio a dylunio ill dau, roedd hwn yn gyfle i helpu dod â busnes cychwynnol i’r farchnad a gwireddi weledigaeth Victoria am gefnogi siopau a gwasanaethau lleol.

Dywedodd Victoria am y buddsoddiad: “Rydw i wedi bod yn gweithio ar y syniad am ychydig o flynyddoedd nawr, felly mae derbyn cefnogaeth gan fuddsoddwyr cryf ynghyd a’r Banc Datblygu yn wych. Mae ein peilot bron yn barod i fynd a da ni’n ysu i helpu busnesau stryd fawr leol i gynyddu nifer eu cwsmeriaid, gwaredu gwastraff a rhoi hwb i’r llinell gwaelod.”

Gyda swyddfa yn ICE Cymru yng Nghaerffili, derbyniodd NearMeNow cymorth rhaglenni Accelerator TownSquare, Entrepreneurial Spark NatWest a Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gyfer busnesau gyda photensial twf uchel.

 

Dysgu mwy am NearMeNow.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page