GLOBAL OFFSHORE WIND – Llundain
Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd busnes i fusnesau, cynadleddau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yng Nghymru, y DU a ledled y byd i hyrwyddo busnesau a leolir yng Nghymru a Chymru.
Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau sydd wedi eu lleoli yma ac i gymryd rhan o dan baner Cymru.
Mae pob cyfle yn amodol ar broses ymgeisio. Mae'r manylion ar gyfer y digwyddiad nesaf i'w gweld isod:
Global Offshore Wind (GOW25), Llundain
Mae Global Offshore Wind 2025 (GOW25) yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y sector gwynt ar y môr. Dyma'r digwyddiad gwynt ar y mor pwrpasol mwyaf yn y DU i gael gwybodaeth werthfawr o'r farchnad a strategaethau busnes ymarferol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Bydd GOW25 yn un o ddigwyddiadau mawr cyntaf yr Haf yn y calendr i ailgysylltu cydweithwyr, busnes a'r llywodraeth gyda'r nod o alluogi arloesedd twf busnes strategol, yn ogystal â chadw'n gyfredol â deallusrwydd y farchnad yn uniongyrchol gan ddatblygwyr a'r gadwyn gyflenwi.
Pam dod?
Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni ar lwyfan byd eang, cael cysylltiadau gwerthfawr ac o bosibl creu busnes yn y sector hwn.
Byddwch yn elwa o:
• Pod wedi'i frandio mewn safle gwych ar bafiliwn Cymru gyda chyflenwad pŵer a mynediad i storfa.
• Mynediad i fan cyfarfod ar stondin.
• Dau ticed ‘arddangoswr’ drwy gydol y digwyddiad.
• Cynnwys yn neunydd marchnata lle bo ar gael.
• Cynnwys yn amserlen cyfryngau cymdeithasol Cymru a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus posibl.
• Cynnwys mewn digwyddiadau rhwydweithio cysylltiedig.
• Ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin.
• Cyfrifoldeb am ofal y stondin yn disgyn i weithwyr digwyddiadau profiadol a gweithwyr marchnata proffesiynol.
Cost - £750+TAW
Oherwydd mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer yn arddangosfa hon, cofrestrwch yn gynnar er mwyn osgoi siom. Rydym yn gwahodd amrywiaeth o fusnesau i gyd-arddangos gyda ni.
Manylion y Digwyddiad
Enw'r digwyddiad:
Global Offshore Wind (GOW25)
Lleoliad:
ExCeL London
Royal Victoria Dock
Western Gateway
London
E16 1XL
Dyddiad:
17-18 Mehefin 2025
Maint y digwyddiad:
Oddeutu 180 o arddangoswyr, 5,000 + o ymwelwyr o 50+ o wledydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru le ar gyfer 8 cwmni ar bafiliwn Cymru sy'n llwyddo neu'n edrych ar gyfleoedd ynni gwynt ar y môr.
Sector(au):
Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, AI, Logisteg, Cynhyrchion a Gwasanaethau, Amgylcheddol
Beth ydw i'n ei wneud nesaf?
Lawr lwythwch y cais, ei gwblhau a'i ddychwelyd i
Cheryl.Whitaker@gov.wales
a chopïo
PrifSwyddogRhanbartholYGogledd@llyw.cymru & Erin.walsh001@gov.wales
Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau:
17:00 28/03/2025
Adnoddau
I ddood i wybod mwy (mae rhain yn Saesneg yn unig gan nad ydynt yn nwylo Llywodraeth Cyrmu):
Gwefan
Trosolwg (renewableuk.com)
X (Trydar)
RenewableUK Events (@RUKEvents) / X (twitter.com)
Facebook
RenewableUK | Facebook
LinkedIn
RenewableUK | LinkedIn
Dolen i'r Gais:
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.