
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Sector: Llaeth
Tir: 272 erw
Cytundeb: Dechrau fel swydd gyflogedig dros y misoedd cyntaf, cyn datblygu’n gytundeb partneriaeth.
Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)
Gwybodaeth am y Fferm:
Dyma gyfle unigryw i ddod yn rhan o fusnes fferm laeth sy’n ffermio oddeutu 270 erw ac yn godro 240 o wartheg yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r busnes yn gweithredu system loea mewn bloc yn yr hydref, gyda ffocws cryf ar laswellt a phori. Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn magu ei stoc ifanc ei hun ac mae ganddo gytundeb cyflenwi llaeth sefydledig.
Mae rhwydwaith o draciau wedi’i sefydlu ar draws y fferm, ynghyd â system ffensys trydan effeithiol. Mae system ddŵr ganolog hefyd mewn lle.
Lleoliad: Sir Gar
Tir:
- Cyfanswm o 272 erw yn cael ei ffermio.
- Mae mwyafrif y tir yn eiddo i’r darparwr, tra bo rhan ohono yn cael ei rentu.
Isadeiledd:
- Parlwr godro math Herringbone 24/48.
- Siediau modern.
- Seilwaith sydd wedi bod mewn lle ers sawl blwyddyn ac sy’n galluogi’r system odro i weithredu’n effeithlon.
Anifeiliaid:
- 240 o wartheg godro.
- 100 o wartheg ifanc; 50 o loi blwydd oed, a 50 o rai dwy flwydd oed.
Peiriannau:
- Mae’r peiriannau hanfodol ar gyfer rheoli’r fferm ar gael, gan gynnwys tractor, llwythwr (loader), beic cwad a threlar.
- Defnyddir contractwyr ar gyfer gwaith arall, megis gwneud silwair.
Llety:
- Ar gyfer y tymor byr, mae uned fath o bedsit ar gael ar y fferm, a fyddai’n addas ar gyfer llety dros dro neu yn ystod cyfnodau prysur o’r flwyddyn.
- Ar gyfer yr hirdymor, mae posibilrwydd y bydd bwthyn/llety priodol ar y fferm yn dod yn wag yn y dyfodol, a gallai fod cyfle i’r partner busnes symud i mewn iddo.
Nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
- Datblygu perfformiad y fuches ymhellach drwy wella geneteg a chynhyrchiant llaeth.
- Penodi unigolyn addas i ddod yn rhan o’r busnes a chyfrannu at ei ddatblygiad.
Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried:
Bydd y cyfle hwn yn dechrau fel swydd gyflogedig dros y misoedd cyntaf, cyn datblygu’n gytundeb partneriaeth. O dan y drefn hon, gallai elw’r busnes ar ddiwedd y flwyddyn gael ei rannu rhwng y partneriaid busnes.
Nodweddion allweddol y mae’r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:
- Unigolyn sydd â’r gallu, yr ymrwymiad a’r agwedd gywir i gyfrannu at ddatblygiad a gwelliant y busnes.
- Sgiliau cyfathrebu da a pharodrwydd i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darparwr.
- Byddai croeso i unigolyn neu deulu sy’n siarad Cymraeg, ond nid yw hynny’n ofyniad hanfodol.