BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Dechrau Ffermio

Ydych chi eisiau torri yn ôl ar eich gwaith neu gymryd cam yn ôl o'r diwydiant? Ydych chi eisiau rhoi cyfle i berson ifanc ddechrau ffermio? Beth am ystyried menter ar y cyd? 

Gall Cyswllt Ffermio baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n edrych i gamu'n ôl o'r diwydiant â newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am ffordd i mewn i ffermio. Mae'n tywys pobl ar y ddwy ochr trwy'r camau allweddol sydd eu hangen i ddod o hyd i bartner busnes posibl. Mae'r pecyn cymorth yn cynnig gwasanaeth paru, mentora, cynllunio busnes a chyngor cyfreithiol i ddarparu arweiniad ym mhob cam o’r llwybr i sefydlu menter ar y cyd. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.