BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ydych chi'n chwilio am gyfle?

Cefnogi newydd-ddyfodiaid i ffermio yng Nghymru 

Mae Dechrau Ffermio wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i gamu ar yr ysgol ffermio. P'un a’i ydych chi'n edrych i ennill profiad ymarferol, dod o hyd i fenter ar y cyd, neu adeiladu eich busnes ffermio eich hun, mae Dechrau Ffermio yn cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i'ch helpu i symud ymlaen yn hyderus. 

Yr hyn sydd ar gael yw:

  • Profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith strwythuredig gyda ffermydd sefydledig
  • Gwasanaeth paru a hwyluso i helpu deiliaid tir a cheiswyr tir i archwilio mentrau ar y cyd a phartneriaethau busnes
  • Datblygu cynllun - Cefnogaeth fusnes wedi'i hariannu'n llawn hyd at £2750 fesul partner i archwilio a phrofi hyfywedd busnes, datblygu cynllun busnes a'ch dealltwriaeth o fentrau ffermio cydweithredol.
  • Lleihau risg - Cyllid o hyd at £2000 fesul partner tuag at gyngor arbenigol i ffurfioli cytundebau a chontractau cyfreithiol.

Mae cefnogaeth yn cael ei chyfateb i'ch anghenion - ni fydd pawb angen mynediad at bob elfen.

 

I bwy mae'r cynllun

Mae Dechrau Ffermio ar gyfer pobl sy'n adeiladu gyrfa yn y byd amaeth, newydd-ddyfodiaid sydd â mynediad cyfyngedig at dir, a rheiny sydd â diddordeb mewn dulliau cydweithredol neu fentrau ar y cyd.

Gwasanaeth Paru

Cliciwch ar y cyfleoedd a restrir isod i ddysgu mwy am berchennog y tir, y fferm, gofynion y rôl a’r potensial ar gyfer menter ar y cyd. 

Cliciwch yma i gael eich cynnwys ar y rhestr bostio ac i gael gwybod pan fydd cyfleoedd newydd yn cael eu rhestru. 

 

Cyfleoedd Mentrau ar y Cyd Cyfredol:

Lleoliad: Kington, Powys
Sector: Garddwriaeth
Tir: 100 erw
Cytundeb: Cyfle Ffermio Cyfran yn y Sector Garddwriaeth gyda Llwybr i Denantiaeth

Lleoliad: Pencader, Sir Gar
Sector: Defaid
Tir: 128 erw / 52ha
Cytundeb: Cytundeb ffermio cyfran

Lleoliad: Gogledd Sir Fynwy
Tir: 275 erw / 111 hectar
Da byw: 75 o wartheg bîff
Math o gytundeb: Menter ar y cyd


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.