BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cyfle #128

llaeth

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Sector: Llaeth

Tir: 272 erw

Cytundeb: Dechrau fel swydd gyflogedig dros y misoedd cyntaf, cyn datblygu’n gytundeb partneriaeth.

 

Proffil y Darparwr

(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)

 

Gwybodaeth am y Fferm:

Dyma gyfle unigryw i ddod yn rhan o fusnes fferm laeth sy’n ffermio oddeutu 270 erw ac yn godro 240 o wartheg yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r busnes yn gweithredu system loea mewn bloc yn yr hydref, gyda ffocws cryf ar laswellt a phori. Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn magu ei stoc ifanc ei hun ac mae ganddo gytundeb cyflenwi llaeth sefydledig.

Mae rhwydwaith o draciau wedi’i sefydlu ar draws y fferm, ynghyd â system ffensys trydan effeithiol. Mae system ddŵr ganolog hefyd mewn lle.

Lleoliad: Sir Gar

Tir:  

  • Cyfanswm o 272 erw yn cael ei ffermio.  
  • Mae mwyafrif y tir yn eiddo i’r darparwr, tra bo rhan ohono yn cael ei rentu.

Isadeiledd:

  • Parlwr godro math Herringbone 24/48.
  • Siediau modern.
  • Seilwaith sydd wedi bod mewn lle ers sawl blwyddyn ac sy’n galluogi’r system odro i weithredu’n effeithlon.

Anifeiliaid:  

  • 240 o wartheg godro.  
  • 100 o wartheg ifanc; 50 o loi blwydd oed, a 50 o rai dwy flwydd oed.  

Peiriannau:

  • Mae’r peiriannau hanfodol ar gyfer rheoli’r fferm ar gael, gan gynnwys tractor, llwythwr (loader), beic cwad a threlar.
  • Defnyddir contractwyr ar gyfer gwaith arall, megis gwneud silwair.

 

Llety:

  • Ar gyfer y tymor byr, mae uned fath o bedsit ar gael ar y fferm, a fyddai’n addas ar gyfer llety dros dro neu yn ystod cyfnodau prysur o’r flwyddyn.
  • Ar gyfer yr hirdymor, mae posibilrwydd y bydd bwthyn/llety priodol ar y fferm yn dod yn wag yn y dyfodol, a gallai fod cyfle i’r partner busnes symud i mewn iddo.

 

Nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:

  • Datblygu perfformiad y fuches ymhellach drwy wella geneteg a chynhyrchiant llaeth.
  • Penodi unigolyn addas i ddod yn rhan o’r busnes a chyfrannu at ei ddatblygiad.  

 

Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried:

Bydd y cyfle hwn yn dechrau fel swydd gyflogedig dros y misoedd cyntaf, cyn datblygu’n gytundeb partneriaeth. O dan y drefn hon, gallai elw’r busnes ar ddiwedd y flwyddyn gael ei rannu rhwng y partneriaid busnes.  

 

Nodweddion allweddol y mae’r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:  

  • Unigolyn sydd â’r gallu, yr ymrwymiad a’r agwedd gywir i gyfrannu at ddatblygiad a gwelliant y busnes.
  • Sgiliau cyfathrebu da a pharodrwydd i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darparwr.
  • Byddai croeso i unigolyn neu deulu sy’n siarad Cymraeg, ond nid yw hynny’n ofyniad hanfodol. 

 

I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen ‘mynegi diddordeb’ isod cyn 7 Medi 2026:

Manylion Cyswllt:
Defnyddir y rhif hwn i gysylltu â chi.
Amdanaf fi:
Cyflogwr Teitl Swydd Dyddiad Dechrau Dyddiad Gorffen

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.