Edsential: Empowering Welsh SMEs through Procurement Education
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Gweithdai Gwerth Cymdeithasol
Mae Busnes Cymru wedi cynnal cyfres o weithdai a oedd yn anelu at gryfhau cadwyni cyflenwi Sector Cyhoeddus Cymru trwy wella gwybodaeth am gaffael ac ategu’r arfer o gynnwys bwydydd sy’n tarddu o Gymru ar fwydlenni cyhoeddus. Er mwyn cyflawni hyn, cydweithiodd Busnes Cymru ag arbenigwyr yn y diwydiant, gan ymdrin â phynciau fel fframweithiau caffael, ceisiadau ar y cyd ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig, arferion gorau rhyngwladol ac integreiddio gwerth cymdeithasol mewn caffael.
Fe wnaeth un o’r gweithdai hyn, a gyflwynwyd gan Ian McGrady, ganolbwyntio ar chwalu mythau’n ymwneud â gwerth cymdeithasol yng nghyd-destun caffael cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Ian McGrady yn Ymgeisydd Doethurol yn Ysgol Fusnes Alliance Manceinion, Prifysgol Manceinion, lle mae’n ymchwilio i werth cymdeithasol mewn caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar systemau bwyd ysgolion. Mae ei waith yn archwilio sut y gall polisïau caffael ysgogi buddiant cymunedol a chynaliadwyedd, yn ogystal â chanlyniadau gwell i wasanaethau cyhoeddus.
Yn ychwanegol at ei waith academaidd, mae Ian yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Buddiant Cymunedol Edsential, sef menter gymdeithasol fawr sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i ysgolion ledled Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.
Dan ei arweiniad, mae Edsential yn darparu mwy na 5 miliwn o brydau ysgol bob blwyddyn, gan gadarnhau pa mor bwysig yw bwyd lleol, maethlon mewn addysg.
Cyn sefydlu Edsential, adeiladodd Ian yrfa lwyddiannus iddo’i hun yn y diwydiant nwyddau traul, gan ysgwyddo rolau masnachol ar lefel cyfarwyddwr mewn cwmnïau byd-eang blaenllaw, yn cynnwys Mars UK. Mae ei gefndir corfforaethol yn golygu bod ganddo safbwynt strategol mewn perthynas â chaffael, cadwyni cyflenwi a chynaliadwyedd busnes, ac mae hyn yn llywio’i waith mewn mentrau cymdeithasol a chaffael yn y sector cyhoeddus.
Roedd pynciau’r gweithdy’n cynnwys:
- Deall polisi caffael Cymru
- Y modd y caiff gwerth cymdeithasol ei ddiffinio a’i fesur
- Sut i ddelio â thendrau a sut i ymateb iddynt
- Astudiaethau achos go iawn yn dangos ymatebion llwyddiannus i dendrau gydag elfennau gwerth cymdeithaso
Tywys y mynychwyr trwy dendr go iawn
- Rhannodd Ian McGrady astudiaeth achos gyda’r mynychwyr, a oedd yn ymwneud â thendr llwyddiannus ar gyfer bwyd ysgol.
- Roedd y sesiwn yn cynnwys manylion llawn am y modd yr aeth Edsential ati i ymgorffori gwerth cymdeithasol yn yr ymateb a’r modd yr oedd hynny’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru.
- Y nod oedd meithrin hyder a gwybodaeth ymarferol ymhlith Busnesau Bach a Chanolig.
Yr Effaith
- Gwella hyder Busnesau Bach a Chanolig:
Yn awr, mae busnesau’n deall prosesau caffael yn well. Erbyn hyn, maent o’r farn bod gwerth cymdeithasol yn gyfle gwerthfawr, yn hytrach nag yn rhwystr - Meithrin sgiliau:
Llwyddodd y Busnesau Bach a Chanolig a gymerodd ran yn y gweithdy i ennill sgiliau hanfodol o ran pennu, mynegi a dangos eu gwerth cymdeithasol. - Cydweddu â pholisïau:
Erbyn hyn, mae busnesau’n deall yn well sut i gydweddu eu gweithrediadau beunyddiol â blaenoriaethau’r llywodraeth mewn meysydd fel cynaliadwyedd, buddiant cymunedol a datblygu economaidd lleol.
Crynodeb a Phethau Pwysig i’w Cofio
Llwyddodd y busnesau a gymerodd ran yn y weminar i ddeall yn well beth yn union yw Gwerth Cymdeithasol.
Mae gwerth cymdeithasol yn cyfeirio at fuddion cymunedol ehangach sy’n deillio o gyflawni contract cyhoeddus. Gall y buddion hyn gynnwys:
- Cefnogi hyfforddiant a swyddi lleol
- Defnyddio cyflenwyr lleol
- Lleihau’r effaith amgylcheddol
- Cyfrannu at iechyd a llesiant
- Cryfhau cydlyniant cymunedol
Yng Nghymru, mae’n ofynnol i sefydliadau’r sector cyhoeddus ystyried gwerth cymdeithasol wrth ddyfarnu contractau, diolch i ddeddfwriaethau blaengar fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Nid yw gwerth cymdeithasol yn golygu’r canlynol:
- Ymarfer ‘tic yn y blwch’ yn unig
- Gwaith elusennol neu waith di-dâl
- Rheswm dros addo gormod neu ddarparu gwasanaethau anghynaliadwy
- Rhywbeth sydd ar gyfer busnesau mawr neu fentrau cymdeithasol arbenigol yn unig
I Fusnesau Bach a Chanolig, mae hyn yn golygu bod nifer o’u gweithgareddau beunyddiol – fel cyflogi pobl leol, lleihau gwastraff bwyd neu ddefnyddio cynnyrch lleol – eisoes yn esgor ar werth cymdeithasol. Y peth hollbwysig yn hyn o beth yw dysgu sut i bennu, mesur a chyfathrebu’r gwerth hwnnw’n glir wrth ymateb i dendrau
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.