Astudiaeth Achos, Document

Dathlu Bwyd Lleol ar Blateidiau Ysgolion Cyngor Caerffili a Bwyd o Gymru i Ysgolion: PDF

Dathlu Bwyd Lleol ar Blateidiau Ysgolion Cyngor Caerffili a Bwyd o Gymru i Ysgolion

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf: 14 Awst 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 28.25 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Trosolwg

Mae’r astudiaeth achos hon yng Nghaerffili’n amlygu sut y gall caffael, creadigrwydd a chyfathrebu ddod ynghyd i greu gwerth cymdeithasol ac economaidd mesuradwy. Drwy weithio gyda Larder Cymru, nid yn unig wnaeth y cyngor ddathlu hanes cryf o ddod o hyd i fwydydd o Gymru, ond fe wnaeth hefyd roi hwb i ymgysylltiad cymunedol, cefnogi cynllun busnes lleol, a gosod y sylfeini ar gyfer arloesi yn y dyfodol o safbwynt darparu bwyd i’r cyhoedd.

Fel rhan o’i ymrwymiad i’r prosiect Bwyd o Gymru i Ysgolion, gweithiodd Larder Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerffili er mwyn archwilio sut y gall awdurdodau lleol gaffael a dathlu mwy o fwyd a diod o Gymru o fewn prydau bwyd yn yr ysgol.

Wedi’i gefnogi gan Dîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, roedd y prosiect yn ceisio gwneud y gorau o ddefnyddio cynnyrch lleol ar y plât cyhoeddus tra hefyd yn atgyfnerthu cadwyni cyflenwi a chefnogi busnesau lleol.

Mae stori Caerffili’n nodedig, nid yn unig oherwydd y gwelliannau a wnaed, ond oherwydd ei bod wedi darganfod ei bod eisoes ar y blaen o safbwynt defnyddio bwydydd lleol, ac yn syml iawn ei fod angen cefnogaeth er mwyn cydnabod, dychmygu, a dathlu yr hyn roeddent eisoes yn ei wneud yn dda.

Cefndir: Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fwyd Lleol

Yn dilyn darparu cinio ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau lleol i gynyddu eu gwariant ar fwyd a diod o Gymru sy’n cael eu cyflenwi’n lleol. 

Gwnaeth Larder Cymru alwad agored i gynghorau ar draws y wlad yn cynnig cefnogaeth er mwyn adolygu gwaith caffael, ailgynllunio bwydlenni, ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol.

Ymatebodd chwe awdurdod lleol, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Darganfyddiad Cychwynnol a Chyfle

Camau cyntaf Larder Cymru oedd cwrdd â Chyngor Caerffili er mwyn deall eu harferion caffael bwyd a’u blaenoriaethau cyfredol. Y disgwyliad oedd gallu adnabod bylchau lle gellid cyflwyno mwy o gynnyrch o Gymru yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.

“Dechreuom ar y broses gan ddisgwyl dod o hyd i gyfleoedd i gynyddu cyflenwadau lleol,” meddai aelod o’r tîm Larder Cymru. “Ond roeddem wirioneddol wedi synnu oherwydd roedd Caerffili eisoes yn gwneud yn wych yn hyn o beth.”

Datgelodd adolygiad manwl o’u caffael bod gan Gaerffili linell sylfaen gref o gynnyrch o Gymru roedd yn eu defnyddio. Yn hytrach na bod angen newid sylweddol, gwelwyd cyfle i gydnabod a hyrwyddo’r hyn oedd yn cael ei wneud.

Agwedd Greadigol tuag at Ddathlu Bwyd o Gymru

Gyda sylfaen gref Cyngor Caerffili yn ei lle, newidiodd y prosiect i fabwysiadu agwedd greadigol at gyfathrebu. Y nod oedd ailgynllunio bwydlenni ysgol er mwyn:

  • Dathlu’r defnydd presennol o gynnyrch o Gymru
  • Cynyddu ymwybyddiaeth disgyblion a rhieni
  • Sicrhau bod mwy yn manteisio ar y cynnig o ginio ysgol drwy dryloywder a balchder mewn bwyd lleol
  • Cefnogi arbedion maint ar gyfer gwasanaeth arlwyo’r cyngor

Comisiynodd Larder Cymru Rosina’s Designs, un o’r BBaCh creadigol sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, er mwyn dod â’r fwydlen newydd yn fyw.

Roedd y fwydlen wedi’i diweddaru yn cynnwys

  • Ffotograffau o ansawdd uchel o brydau cinio ysgol go iawn, wedi’u cymryd gan ffotograffydd proffesiynol
  • Eicon draig goch nesaf at bob pryd oedd yn cynnwys cynhwysion o Gymru
  • Adran benodol ar waelod y fwydlen oedd yn enwi’r cyflenwyr a’r cyfanwerthwyr o Gymru oedd yn cyfrannu at y prydau (e.e. Castell Howell)


“Ar hyn o bryd, Caerffili yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru, cyn belled ag y gwyddom, sydd â bwydlen sy’n dangos ffotograffau bwyd go iawn ochr yn ochr â gwybodaeth am y cyflenwr,” meddai llefarydd ar ran Larder Cymru

Canlyniadau a Gwerth Ychwanegol

  • Cynyddu Gwelededd Bwydydd Lleol
    Drwy dynnu sylw at y cynhwysion o Gymru yn y prydau, mae’r cyngor wedi codi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion, rhieni a staff ynghylch gwerth ac ansawdd yr hyn oedd eisoes ar gael.
  • Cefnogaeth ar gyfer Busnesau Lleol
    Yn ddiweddarach, cafodd y cyflenwr creadigol, Rosina’s Designs, ei gaffael yn uniongyrchol gan Gyngor Caerffili er mwyn parhau i ddiweddaru bwydlenni, gan greu effaith economaidd lleol barhaus wnaeth fynd y tu hwnt i oes y prosiect cychwynnol.
  • Cynyddu’r Niferoedd o Brydau Ysgol
    Drwy ddathlu ansawdd a ffynhonnell gyflenwi’r bwyd, bwriad y prosiect oedd cynyddu’r niferoedd oedd yn derbyn cinio ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gan wella iechyd a sicrhau gwerth i fuddsoddiad y cyngor.
  • Cydnabyddiaeth o Arfer Da
    Daeth yr achos hwn yn enghraifft bositif o arfer da oedd eisoes ar waith o fewn awdurdodau lleol, gan brofi weithiau, nad mwy o newid yw’r datrysiad, ond gwell cyfathrebu ynghylch yr hyn sydd eisoes ar waith.

Camau Nesaf: Cynllun Peilot Bwyd Stryd mewn Ysgolion Uwchradd

The collaboration doesn’t stop there. Larder Cymru is now working with Caerphilly Council on a new street food-style concept for secondary schools, aiming to modernise school food offerings and gather evidence to inform future healthy eating regulations for older pupils.

Lawrlwytho'r ddogfen: 28.25 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.