Report, Document

Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Busnes Cymru

Roedd y fethodoleg ar gyfer Cynllun Gweithredu Busnes Cymru yn cynnwys adolygiad o’r gwasanaeth gan Race Equality First, a oedd yn cynnwys gwefan Busnes Cymru a dogfennau sy’n cael eu defnyddio i reoli a darparu’r gwasanaeth y mae Busnes Cymru wedi’i gontractio i’w ddarparu.

Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 9 Rhagfyr 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 46.7 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Cefndir

Ym mis Hydref 2022 comisiynwyd Race Equality First (REF) gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae datblygu’r Cynllun hwn yn un o’r camau gweithredu yn adran Entrepreneuriaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru1. Y canlyniad y disgwylir ei weld yn sgil datblygu a gweithredu’r Cynllun hwn yw gwasanaeth Busnes Cymru sy’n ymwybodol o sut mae hiliaeth yn creu anghysondebau, sy’n ddiwylliannol hyderus ac sy’n sicrhau bod mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yn defnyddio’r gwasanaeth.

Ers 2016, o blith y 5,869 o gleientiaid sydd wedi cael cymorth gan Busnes Cymru i ddechrau busnes, mae 405 (7%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth yn uniongyrchol i fwy na 13,062 o berchenogion busnes yn uniongyrchol ers 2016 er mwyn helpu eu busnesau i ddatblygu a thyfu. O blith y rhain, mae 578 (4.4%) yn ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Mae dadansoddiad o hunangyflogaeth yn ôl ethnigrwydd sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos mai dim ond 4.4% o bobl hunangyflogedig yng Nghymru oedd yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Bydd y Cynllun hwn yn dangos sut y gall Busnes Cymru ddod yn sefydliad gwrth hiliol a hyderus yn ddiwylliannol.

Methodoleg a Monitro’r Cynllun

Roedd y fethodoleg ar gyfer Cynllun Gweithredu Busnes Cymru yn cynnwys adolygiad o’r gwasanaeth gan Race Equality First, a oedd yn cynnwys gwefan Busnes Cymru a dogfennau sy’n cael eu defnyddio i reoli a darparu’r gwasanaeth y mae Busnes Cymru wedi’i gontractio i’w ddarparu.

Bydd y camau gweithredu yn y cynllun hwn yn cael eu monitro a bydd adroddiad yn cael ei roi arnynt bob chwarter. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu bwydo i mewn i gyfarfodydd adolygu rheoli contractau a chyfarfodydd adolygu Uwch-reolwyr Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru.

Datganiad Busnes Cymru ynglŷn â Bod yn Wrth-hiliol

Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. Byddwn yn cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod ein sefydliad yn rhydd o hiliaeth systemig.

Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi sut y byddwn yn creu amgylchedd gwaith lle nad yw ein staff a’n cwsmeriaid o bob cefndir yn profi rhagfarn, gwahaniaethu nac ymyleiddio. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Sicrhau bod holl aelodau’r uwch dîm arwain yn ymgymryd â hyfforddiant gorfodol ar hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol er mwyn cael eu haddysgu a dod yn ymwybodol o’u rhagfarn ddiarwybod eu hunain a sut i fynd ati i’w harchwilio.
  2. Penodi arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy’n adrodd yn uniongyrchol i fwrdd ac uwch dîm arwain Llywodraeth Cymru sydd â’r dasg o ddatblygu ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a’i roi ar waith.
  3. Sicrhau bod diweddariadau ar hynt ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol yn parhau i fod yn eitem sefydlog ar agenda’r bwrdd.
  4. Gwella’r broses a ddefnyddiwn i gasglu data er mwyn deall yn well pwy sy’n defnyddio ein gwasanaethau fel y gallwn ddileu unrhyw rwystrau i gael mynediad at ein gwasanaethau a’u haddasu ar gyfer cymunedau du ac ethnig lleiafrifol.
  5. Casglu a dadansoddi data ar ethnigrwydd ein gweithlu fel y gallwn gynllunio a mesur ein cynnydd yn erbyn gweithgareddau seiliedig ar dystiolaeth ar gynrychiolaeth amrywiol.
  6. Sicrhau bod rolau yn cael eu hysbysebu mewn ffordd dryloyw ac agored, gyda phaneli amrywiol o ran hil yn cymryd rhan drwy gydol y broses recriwtio a dethol.
  7. Penodi hyrwyddwr cydraddoldeb arweiniol ar gyfer hil o fewn y gwasanaeth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu o dan gontract, sy’n cael ei ddwyn i gyfrif am ddatblygu a gweithredu ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol.
  8. Sicrhau bod digon o arian ar gael ar gyfer cyfieithwyr, dehonglwyr a dulliau cyfathrebu amgen.

Nod: Sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hysbysebu a marchnata a gynhyrchir gan Busnes Cymru yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu gwir ddyfnder cymunedau amrywiol Cymru, ac yn osgoi stereoteipio a phriodoli diwylliannol ar yr un pryd.

Canlyniad - Delwedd allanol Busnes Cymru: Hysbysebu

Mae delwedd allanol Busnes Cymru yn fwy cynhwysol ac yn fwy deniadol i gymunedau amrywiol sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu busnes.

Cam Gweithredu

  1. Sicrhau bod contractwyr, is-gontractwyr, modelau rôl, mentoriaid a’r holl staff sy’n darparu cymorth busnes ar draws pob rhaglen yn gallu darparu adnoddau mewn amrywiaeth o ieithoedd drwy’r Gronfa Cymryd Rhan Ddewisol. Bydd gwefan Busnes Cymru yn dechrau trosglwyddo i fformat HTML y mae’n haws i’r defnyddiwr ei gyfieithu. Hefyd, bydd y dudalen cysylltu â ni ar hafan Busnes Cymru yn cynnwys opsiwn iaith fel bod defnyddwyr yn gallu gofyn am y gwasanaeth yn eu dewis iaith.
  2. Hyrwyddo gwasanaeth Busnes Cymru yn ehangach mewn cymunedau Du ac Ethnig Lleiafrifol ac fel un a fydd yn cael gwared ar rwystrau (e.e., darparu dehongli a chyfieithu, yn rhydd o unrhyw fath o wahaniaethu beth bynnag y bo, i annog pobl o ystod o gefndiroedd ethnig i ymgysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru.
  3. Hyrwyddo gwasanaeth Busnes Cymru i grwpiau cymunedol a grwpiau ieuenctid ethnig lleiafrifol a chynnal sesiynau ymgysylltu mewn addoldai (e.e. Mosgiau, Temlau ac ati).
  4. Diweddaru’r Llawlyfr Gweithrediadau i amlinellu’r gwahanol ddulliau o farchnata / hysbysebu i’w defnyddio ar gyfer y gwahanol gynlluniau a gwasanaethau y mae Busnes Cymru yn eu darparu.

Effaith

  1. Mwy o unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n awyddus i ddechrau neu dyfu busnes yn defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru.
  2. Mae gan Busnes Cymru astudiaethau achos sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau o leiafrifoedd ethnig ar gyfer deunyddiau hyrwyddo.

Erbyn pryd

Rhagfyr 2023

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • Contractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth

Nod: Creu gwasanaeth Busnes Cymru gwrth-hiliol y mae nifer cynyddol o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn manteisio ar ei wasanaethau cymorth busnes.

Canlyniad - Delwedd allanol Busnes Cymru: Cyfathrebu

Mae deunyddiau hyrwyddo Busnes Cymru: taflenni, pamffledi, y wefan, ymgyrchoedd marchnata a sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn cyfleu delwedd o sefydliad sy’n deall ac sy’n gallu diwallu anghenion gwahanol unigolion o gymunedau amrywiol sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu busnes.

Cam Gweithredu

  1. Sicrhau bod deunyddiau hyrwyddo a ddefnyddir gan gontractwyr, is-gontractwyr, modelau rôl, mentoriaid a holl staff Busnes Cymru yn cynnwys delweddau mwy cynhwysol, e.e. cynnwys lluniau o unigolion o ystod o wahanol gefndiroedd ethnig, crefyddau a diwylliannau, ac mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith.
  2. Sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau allanol a gynhelir gan gontractwyr, is-gontractwyr, modelau rôl a mentoriaid yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Sicrhau bod y prif ddigwyddiad yn gynhwysol bob amser5.
  3. Ystyried amseru digwyddiadau allanol (gan gynnwys gweminarau), er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl i bawb e.e. bod yn ystyriol o’r ffaith nad yw amser cinio dydd Gwener yn amser da i ddynion Mwslimaidd, a bod yn ystyriol o rai digwyddiadau crefyddol e.e., Diwali, Eid ac ati, er mwyn osgoi gwrthdaro.

Effaith

  1. Mwy o unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n awyddus i ddechrau neu dyfu busnes yn defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru.

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • ontractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth

Gall fod digwyddiadau ymylol sy’n ddewisol. Er enghraifft, mae plaid wleidyddol yn cynnal boreau coffi i drafod materion yn yr ardal leol. Mae ystyriaethau cydraddoldeb wedi cael eu hadolygu’n drylwyr ac mae’r boreau coffi yn hygyrch i bawb. Mae’r blaid hefyd yn penderfynu rhedeg nosweithiau ‘Peint a Pholisi’, lle mae unigolion yn cyfarfod yn y dafarn leol ac yn trafod materion yn yr ardal leol dros ddiod. Mae hyn yn dderbyniol, gan fod y prif ddigwyddiad yn hygyrch i bawb.

Nod: Creu gwasanaeth Busnes Cymru sy’n wrth-hiliol ac sy’n ymgysylltu â chymunedau amrywiol mewn ffordd ddiwylliannol briodol er mwyn cynyddu nifer y busnesau newydd a thwf busnesau ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Canlyniad - Gwasanaethau Gweithredol Busnes Cymru, contractwyr ac is-gontractwyr (gan gynnwys Modelau Rôl a Mentoriaid), a Llywodraeth Cymru: Cymorth Iaith

Bydd pob unigolyn sy’n defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru yn gallu cyfathrebu yn ei ddewis iaith ac ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi wrth gyfathrebu.

Cam Gweithredu

  1. Sicrhau bod yr holl staff gweithredol, contractwyr ac is gontractwyr yn gallu darparu gwasanaeth mewn iaith, ar wahân i’r Gymraeg neu’r Saesneg, drwy ddefnyddio gwasanaeth dehongli.
  2. Sicrhau bod Llinell Gymorth Busnes Cymru yn cofnodi anghenion iaith a chyfathrebu darpar gleientiaid, ac yn bodloni’r gofynion hyn drwy’r gwasanaethau a ddarperir.
  3. Cofnodi’r defnydd o’r Gronfa Cymryd Rhan a’r hyn y mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr y gwasanaeth ac yn nodi bylchau yn narpariaeth bresennol Busnes Cymru.
  4. Sicrhau bod digon o arian ar gael ar gyfer cyfieithwyr, dehonglwyr a dulliau cyfathrebu amgen (Llywodraeth Cymru).
  5. Cofnodi sawl gwaith y defnyddiwyd gwasanaethau dehongli ac ar gyfer pa ieithoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sylfaen cleientiaid Busnes Cymru a nodi bylchau yn y ddarpariaeth.
  6. Monitro bod anghenion iaith a’r defnydd o ddarpariaethau iaith yn cael eu cofnodi a bod bylchau mewn darpariaethau o’r fath yn cael eu nodi (Llywodraeth Cymru).
  7. Ystyried sut y bydd Busnes Cymru (Llywodraeth Cymru a chontractwr) yn dangos yr ymdrechion y mae wedi’u gwneud i recriwtio cynghorwyr, Modelau Rôl a Mentoriaid sy’n gallu cyfathrebu mewn ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg i sicrhau bod ystod amrywiol o Fodelau Rôl a Mentoriaid.
  8. Sicrhau bod sgiliau iaith Modelau Rôl a Mentoriaid yn cael eu cofnodi at ddibenion paru.
  9. Sicrhau bod cyfleuster Busnes Cymru ar gyfer chwilio am ddigwyddiadau yn cofnodi gofynion amgen o ran anghenion iaith a chyfathrebu ac yn darparu ar eu cyfer drwy’r gwasanaeth a ddarperir.
  10. Sicrhau y bydd dull pwrpasol o gyfathrebu’n cael ei roi ar waith ar gyfer rhai cleientiaid. Er enghraifft, gall fod nifer o dafodieithoedd gwahanol o fewn un iaith, felly dylid sicrhau bod y cyfieithydd yn siarad yr un dafodiaith â’r cleient. Hefyd, efallai nad cyfathrebu ysgrifenedig fydd y dull gorau i’w ddefnyddio ar gyfer rhai cleientiaid, e.e. y rhai sydd â sgiliau llythrennedd is.
     

Effaith

  1. Mae mwy o unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n awyddus i ddechrau neu dyfu busnes yn defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru.
  2. Mae unigolion o leiafrifoedd ethnig yn cael gwasanaeth gwell gan Busnes Cymru gan eu bod yn gallu cyfathrebu â staff Busnes Cymru yn eu dewis iaith.

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • ontractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth

Nod: Sicrhau bod gweithlu Busnes Cymru yn cynnwys cyfran o staff o leiafrifoedd ethnig sy’n hafal i’r hyn sy’n bresennol ym mhoblogaeth Cymru gyfan (tua 6% ar hyn o bryd) ar bob lefel a bod grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu denu gan Busnes Cymru ac yn ei weld fel cyflogwr o’u dewis, a sicrhau eu bod yn hyderus y byddant yn cael gyrfa werth chweil ac yn cyflawni eu llawn botensial.

Canlyniad - Gwasanaethau gweithredol, contractwyr ac is-gontractwyr Busnes Cymru (gan gynnwys Modelau Rôl a Mentoriaid): Cynrychiolaeth, Recriwtio a Chadw

Mae Busnes Cymru yn cyflogi ystod amrywiol o staff gweithredol, contractwyr, is gontractwyr (gan gynnwys mentoriaid a modelau rôl) ar draws pob lefel o Busnes Cymru sy’n deall Cymru a’i chymunedau ac sy’n falch o’u gwasanaethu

Cam Gweithredu

  1. Ystyried sut y bydd Busnes Cymru yn dangos yr ymdrechion y mae wedi’u gwneud i recriwtio, cadw a datblygu staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar draws ystod o rolau yn Busnes Cymru
  2. Ystyried sut y bydd Busnes Cymru yn dangos yr ymdrechion y mae wedi’u gwneud i recriwtio, cadw a datblygu staff a all adlewyrchu a dangos eu hymrwymiad i gymunedau amrywiol Cymru, ar draws ystod o rolau yn Busnes Cymru.
  3. Darparu hyfforddiant i’r holl staff, contractwyr, is-gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl, ar hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, er mwyn sicrhau ethos o ddealltwriaeth ar draws gweithlu Busnes Cymru o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol a helpu’r holl staff (gan gynnwys contractwyr, is gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl) i gael eu haddysgu a bod yn ymwybodol o’u rhagfarn ddiarwybod eu hunain a sut i fynd ati i’w harchwilio. Darparu hyfforddiant ychwanegol yn rheolaidd a monitro effaith yr hyfforddiant hwn er mwyn atal hyfforddiant o’r fath rhag dod yn ymarfer ticio blwch, gan nad yw cyflwyno gwybodaeth yn unig o reidrwydd yn datblygu dealltwriaeth. Ar ben hynny, sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu dyrannu ar gyfer yr hyfforddiant hwn, yn enwedig amser, (ni ddylai pobl fynychu’r hyfforddiant hwn yn eu hamser eu hunain). Bydd neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant o’r fath yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori.
  4. Enwebu ystod o Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ar draws nodweddion gwarchodedig ac ar bob lefel o’r sefydliad (fel y nodir yn Adran Cymorth Cynhwysol y Llawlyfr Gweithrediadau).
  5. Sicrhau bod enwebiadau ar gyfer Hyrwyddwyr Cydraddoldeb gan gontractwyr yn cael eu monitro’n rheolaidd ac yn briodol (Llywodraeth Cymru). Sicrhau bod disgrifiad rôl addas ar gyfer Hyrwyddwyr Cydraddoldeb sy’n manylu ar yr hyn mae bod yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb yn ei olygu a’r sgiliau sydd eu hangen. At hynny, sicrhau bod meini prawf priodol i’w bodloni wrth recriwtio Hyrwyddwyr Cydraddoldeb. Sicrhau bod Hyrwyddwyr Cydraddoldeb hefyd yn derbyn yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o hil ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol (fel yr amlinellir uchod) cyn dechrau yn eu rôl
  6. Sicrhau bod yr holl ddiwrnodau gwirfoddoli / buddiannau cymunedol adeiladu tîm mewnol ac allanol sy’n cael eu contractio gan Busnes Cymru yn hygyrch i’r holl staff, contractwyr, is-gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl. Er enghraifft, dylid bod yn ystyriol o’r ffaith nad yw amser cinio ar ddydd Gwener yn amser da i ddynion Mwslimaidd, a dylid bod yn ystyriol o rai digwyddiadau crefyddol e.e., Diwali, Eid ac ati, er mwyn osgoi gwrthdaro
  7. Ystyried amseru ar gyfer recriwtio, h.y. dyddiadau cau ceisiadau a chyfweliadau. Dylid bod yn ystyriol o rai digwyddiadau crefyddol e.e. Diwali, Eid ac ati, er mwyn osgoi gwrthdaro. Er enghraifft, gan fod Mwslimiaid yn ymprydio yn ystod mis Ramadan, dylid rhoi addasiadau rhesymol ar waith os ydych chi’n recriwtio ac yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr amser hwnnw.

Effaith

  1. Mae Busnes Cymru yn cwrdd â’i ddangosydd perfformiad allweddol i hyfforddi’r holl staff a chontractwyr ar amrywiaeth a chydraddoldeb ac yn sicrhau bod yr holl staff a chontractwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn eu cyflawni, fel y nodir yn eu disgrifiadau swydd a’u manylebau person.
  2. Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn ddiwylliannol hyderus ac yn gallu darparu gwasanaeth sy’n ddiwylliannol gymwys.
  3. Mae mwy o ymdeimlad o berthyn ymhlith staff, contractwyr ac is-gontractwyr sydd â nodweddion gwarchodedig yn Busnes Cymru, gan arwain at staff, contractwyr ac is gontractwyr hapusach a mwy cynhyrchiol.
  4. Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn cael ei ystyried gan leiafrifoedd ethnig fel gwasanaeth sy’n deall sut i’w cefnogi yn eu mentrau busnes.
  5. Mae mwy o unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu busnes yn cael cymorth gan Busnes Cymru.

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • Contractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth

Nod: Bydd staff yn gweithio mewn amgylcheddau diogel, cynhwysol, wedi’u hadeiladu ar arweinyddiaeth a chynghreiriaeth gwrth hiliol da, lle y cânt eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial, ac mae’r holl staff wedi’u grymuso i nodi a mynd i’r afael ag arferion hiliol.

Canlyniad - Cynrychiolaeth ar lefel Bwrdd ac Uwch Arweinyddiaeth

Mae bwrdd ac uwch arweinwyr Busnes Cymru wedi ymrwymo i roi gwrth-hiliaeth ar waith ledled Busnes Cymru a monitro cynnydd Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol y sefydliad ym mhob cyfarfod bwrdd.

Cam Gweithredu

  1. Sicrhau bod holl aelodau uwch dîm arwain Busnes Cymru dan gontract yn ymgymryd â hyfforddiant gwrth-hiliaeth gorfodol er mwyn cael eu haddysgu a dod yn ymwybodol o’u rhagfarn ddiarwybod eu hunain a sut i fynd ati i’w harchwilio. Darparu hyfforddiant ychwanegol yn rheolaidd a monitro effaith yr hyfforddiant hwn er mwyn atal hyfforddiant o’r fath rhag dod yn ymarfer ticio blwch, gan nad yw cyflwyno gwybodaeth yn unig o reidrwydd yn datblygu dealltwriaeth. Hefyd, sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu dyrannu ar gyfer hyn, yn enwedig amser (ni ddylai pobl fynychu’r hyfforddiant hwn yn eu hamser eu hunain). Bydd neilltuo amser ar gyfer hyfforddiant o’r fath yn helpu i sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori.
  2. Sicrhau bod Hyrwyddwr Cydraddoldeb gwasanaeth allanol Busnes Cymru yn adrodd i’r uwch dîm arwain ar weithgaredd o fewn y sefydliad y rhoddwyd contract iddo.
  3. Ymrwymo cyllideb ac adnoddau priodol ar gyfer y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol hwn.
  4. Sicrhau bod Busnes Cymru yn atebol i Lywodraeth Cymru, bob chwarter, am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol hwn.
  5. Bydd uwch dîm arwain Busnes Cymru yn rhoi dadansoddiad o weithwyr i Lywodraeth Cymru (gan gynnwys yr uwch dîm arwain ac aelodau’r bwrdd) yn ôl ethnigrwydd a band cyflog ac yn amlygu’r camau sy’n cael eu cymryd i wella cynrychiolaeth ar draws y sefydliad.
  6. Sicrhau bod rolau yn cael eu hysbysebu mewn ffordd dryloyw ac agored, gyda phaneli amrywiol o ran hil yn cymryd rhan drwy gydol y broses recriwtio a dethol (dylid gwahodd aelodau o sefydliadau allanol ar gyfer hyn os bydd angen).
  7. Enwebu Hyrwyddwr Cydraddoldeb arweiniol ar gyfer hil sy’n cael ei ddwyn i gyfrif am ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol hwn.
  8. Lle y bo’n bosibl, sefydlu rhaglen fentora ddwy ffordd lle mae staff uwch ac iau yn mentora ei gilydd yn broffesiynol ac yn rhannu gwybodaeth a phrofiad bywyd.
  9. Monitro’r cynnydd a wnaed ar y camau uchod bob chwarter.

Effaith

  1. Mwy o amrywiaeth i’w gweld ar draws pob lefel o Busnes Cymru yn sgil y ffaith bod bwrdd ac uwch dîm arwain Busnes Cymru yn deall Cymru a’i chymunedau ac yn dangos balchder wrth eu gwasanaethu.
  2. Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn cael ei ystyried gan bobl o leiafrifoedd ethnig fel gwasanaeth sy’n deall sut i’w cefnogi yn eu mentrau busnes.
  3. Mae mwy o unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu busnes yn cael cymorth gan Busnes Cymru.

Erbyn pryd

Mehefin 2024

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • Contractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth

Nod: Gwell data perfformiad a gwybodaeth ar gyfranogiad grwpiau ethnig lleiafrifol yng ngwasanaeth Busnes Cymru a hybu ein defnydd a’n dealltwriaeth o ddata a thystiolaeth fel sail i bolisïau gwrth-hiliol a mesur cynnydd.

Canlyniad - Casglu data, Dangosyddion Perfformiad Allweddol a diwygiadau i’w gwneud i ddogfennau Busnes Cymru (e.e., Llawlyfr Gweithrediadau, BW1A, BW1B, Gwahoddiad i Dendro)

Bydd casglu data yn well yn helpu Busnes Cymru i ddylunio eu Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn well, i weithredu gweithredoedd y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol, cyflawni eu hamcanion cydraddoldeb, a nodi bylchau yn y ddarpariaeth a sicrhau bod mynediad at y gwasanaeth a’i fod yn hygyrch i bawb.

Cam Gweithredu

  1. Sicrhau bod data cydraddoldeb staff, contractwyr, is gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl Busnes Cymru yn cael eu casglu i sicrhau bod Busnes Cymru yn deall amrywiaeth ei weithlu.
  2. Annog staff, contractwyr, is-gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl i nodi eu hethnigrwydd a data cydraddoldeb eraill er mwyn cael eu hadnabod fel y dymunant.
  3. Sicrhau bod pwysigrwydd cwblhau data cydraddoldeb yn cael ei gyfleu i holl staff, contractwyr, is-gontractwyr, mentoriaid a modelau rôl Busnes Cymru a sicrhau bod cwblhau data cydraddoldeb yn rhan o’r broses sefydlu ar ôl penodi a’r broses goruchwylio er mwyn sicrhau diweddariadau rheolaidd.
  4. Cyfathrebu pwysigrwydd cwblhau data cydraddoldeb i weithlu Busnes Cymru (gan gynnwys contractwyr, is gontractwyr, modelau rôl a mentoriaid), esbonio pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud a pha wahaniaethau y gall ei wneud pe bai pawb yn cwblhau eu data. Diolch i’r rhai sydd eisoes wedi cwblhau eu data, er enghraifft, “Diolch i’r rhai sydd eisoes wedi cwblhau eu data cydraddoldeb. O ganlyniad, rydym wedi gallu gwneud X ac Y.” a chyfathrebu pam mae casglu data ar staff a chontractwyr yn bwysig a beth rydym yn ei wneud â’r data hynny.
  5. Sicrhau bod yr holl staff, contractwyr ac is-gontractwyr (gan gynnwys modelau rôl a mentoriaid) yn llenwi holiaduron ymadael er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae cydweithwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn gadael y sefydliad a mynd i’r afael ag unrhyw faterion cadw.
  6. Bydd Llywodraeth Cymru yn annog ac yn cynorthwyo darparwr Busnes Cymru i gyhoeddi eu bwlch cyflog o ran ethnigrwydd yn flynyddol ac i osod targedau a llunio cynllun gweithredu i bontio’r bylchau hyn.
  7. Sicrhau bod data digonol a manwl yn cael eu casglu ar y cleientiaid y mae Busnes Cymru yn ymgysylltu â nhw ac yn eu cynorthwyo i nodi bylchau o ran cyrhaeddiad a darpariaeth.
  8. Sicrhau bod dadansoddiad llawn o ethnigrwydd yn cael ei gofnodi mewn arolygon boddhad cwsmeriaid er mwyn nodi unrhyw dueddiadau o ran canlyniadau gwasanaethau anfoddhaol i gleientiaid o rai grwpiau ethnig.
  9. Sicrhau bod pob cwyn am hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn cael ei chofnodi fel hiliaeth neu wahaniaethu, ei thrin yn effeithiol, ei hymchwilio’n deg ac yn amserol a bod y prosesau hyn yn cael eu monitro’n effeithiol, yn rheolaidd. Sicrhau bod gan bob contractwr ac is-gontractwr weithdrefn gwyno ddigonol ar waith a sicrhau eu bod yn adrodd ar nifer a natur y cwynion sy’n dod i law i Lywodraeth Cymru mewn adroddiadau chwarterol. Sicrhau bod pob contractwr ac is-gontractwr yn ymwybodol o ystyr gwahaniaethu ar sail hil a sicrhau bod pob contractwr ac is-gontractwr yn adolygu ac yn ymchwilio i bob cwyn sy’n gysylltiedig â hiliaeth / gwahaniaethu yn llawn. [Dylid ystyried cynnwys hyn yn y Llawlyfr Gweithrediadau.]
  10. Diweddaru adran “Cymorth Cynhwysol” y Llawlyfr Gweithrediadau i ehangu gofynion contractwyr i fodloni nid yn unig y rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond hefyd y gofynion a amlinellir mewn fframweithiau a chonfensiynau eraill, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil (ICERD).
  11. Yn y dyfodol, bydd Gwahoddiadau i Dendro Busnes Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarpar ddarparwyr fodloni gofynion y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil (ICERD)

Effaith

  1. Mae Busnes Cymru yn cyflogi ystod fwy amrywiol o staff gweithredol, contractwyr, is-gontractwyr (gan gynnwys mentoriaid a modelau rôl).
  2. Mae Busnes Cymru yn bodloni’r dangosydd perfformiad allweddol canlynol: “Mae’n bwysig bod contractwyr yn coladu ac yn dadansoddi gwybodaeth ddemograffig gyfredol am eu cleientiaid.”
  3. Mae Busnes Cymru yn darparu dadansoddiad llawn o ethnigrwydd (yn hytrach na chasglu dim ond a yw cleient yn ystyried ei fod yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol) o’r cleientiaid y mae’n ymgysylltu â nhw ac o ganlyniad, mae’n ymwybodol o unrhyw fylchau mewn darpariaeth a chyrhaeddiad ar gyfer grwpiau ethnig penodol.

Erbyn pryd

Rhagfyr 2023

Arweinydd a phartneriaid

  • Llywodraeth Cymru
  • ontractwyr – ar gyfer pob rhaglen a gwasanaeth
Lawrlwytho'r ddogfen: 46.7 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.