Rhifyn Mawrth 2023
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
- Rhagair
- Beth yw GwerthwchiGymru?
- Sut i gofrestru gyda GwerthwchiGymru
- Beth yw darganfyddwr cyflenwyr GwerthwchiGymru?
- Sut i chwilio am hysbysiad GwerthwchiGymru
- Beth yw Tudalennau Prosiect GwerthwchiGymru?
- Sut a pham i chwilio am wybodaeth am gontractau blaenorol ar GwerthwchiGymru
- Dyfynbrisiau Cyflym
- Beth yw’r pyrth tendro gwahanol?
- Beth yw fframweithiau caffael?
- Beth yw System Brynu Ddeinamig?
- Digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr
- Awgrymiadau wrth fynychu digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr
- Astudiaethau achos
- Awgrymiadau tendro da
- Canllawiau ychwanegol i wneud y mwyaf o’ch gweithgaredd tendro
- Dolenni defnyddiol
Rhagair
Bob blwyddyn, mae cyfleoedd gwerth dros £7biliwn ar gael i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, yn ogystal â chyfleoedd is-gontractio i gwmnïau’r sector preifat sy’n gweithredu ar draws ei gadwyni cyflenwi.
Yn y pecyn adnoddau hwn byddwn yn egluro sut y gall Busnes Cymru gefnogi taith eich cwmni i ennill busnes yn y sector cyhoeddus, trwy ddarganfod a gwneud cais am y gwaith hwn gan ddefnyddio GwerthwchiGymru, y porth, ffynhonnell wybodaeth a llwyfan caffael ar-lein a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Wrth wraidd y broses hon mae twf yr Economi Sylfaenol.
Mae Economi Sylfaenol iach yn dibynnu ar egwyddorion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, lle mae cwmnïau’n integreiddio pryderon cymdeithasol ac amgylcheddol yn eu gweithrediadau busnes.
Mae’r dull hwn yn dod yn bwysicach nag erioed o’r blaen wrth wneud penderfyniadau am y gadwyn gyflenwi, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar brynu’n lleol er mwyn lleihau allyriadau carbon drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan, ac i roi hwb i economïau lleol.
Mae gan y sector cyhoeddus ddyletswydd i arwain drwy esiampl yma ac os yw Cymru am gyflawni ei haddewid allyriadau carbon – i fod yn Sero Net erbyn 2050 – mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus brynu’n agosach at adref lle bynnag y bo modd.
A dyna pam mae angen i nifer o fusnesau Cymru â phosibl fod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael gan Busnes Cymru, a fydd yn eu helpu i ymgysylltu â chadwyni cyflenwi a’r cyfleoedd a hysbysebir gan GwerthwchiGymru.advertised by Sell2Wales.
Beth yw’r Economi Sylfaenol?
Mae’r gwasanaethau a’r cynhyrchion o fewn yr Economi Sylfaenol yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol hynny y mae pob dinesydd yn dibynnu arnynt ac sy’n ein cadw’n ddiogel, yn gadarn ac yn barchus.
Yn ei hanfod yr Economi Sylfaenol yw seilwaith sylfaenol bywyd bob dydd.
Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth, a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol. Y diwydiannau a’r cwmnïau sydd yno oherwydd bod pobl yno
Mae amcangyfrifon yn awgrymu eu bod yn cyfrif am bedair o bob deg swydd ac £1 ym mhob tair a wariwn. Mewn rhai rhannau o Gymru yr ‘economi sylfaenol’ yw’r economi.
Beth yw GwerthwchiGymru?
GwerthwchiGymru yw porth, ffynhonnell wybodaeth a llwyfan caffael ar-lein Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi lle i gwmnïau ddod o hyd i fusnes yn y sector cyhoeddus a’i ennill.
Mae’n adnodd gwych i brynwyr sydd am benodi cwmnïau i gyflawni eu gofynion prynu, waeth pa mor fawr neu fach.
Er enghraifft, efallai eich bod yn gwmni addurno a allai fod yn ymgeisydd delfrydol i gyflawni contract newydd i baentio seilwaith cyhoeddus, fel pontydd a chanolbwyntiau cludiant.
Neu gyfanwerthwr ffrwythau a llysiau sydd am ddarparu ar gontractau arlwyo’r GIG.
Neu gwmni diogelwch a allai gyflawni’r briff i ddarparu gwasanaethau contract i Trafnidiaeth Cymru.
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael mor amrywiol a niferus fel bod rhywbeth gwirioneddol i bob busnes ystyried gwneud cais amdano. Ac os ydych chi’n meddwl bod eich busnes yn rhy fach i fod â siawns o lwyddo, byddech chi’n anghywir - mae tua 80% yn gyfleoedd llai, felly mae opsiynau tendro ar gael i fusnesau o bob lliw a llun.
Mantais fawr arall GwerthwchiGymru yw ei fod yn tynnu’r holl gyfleoedd tendro sydd ar gael yng Nghymru, ac yn wir y tu hwnt ynghyd, y gellid eu gwasgaru ar draws pyrth caffael lluosog, ac yn eu casglu mewn un lle. Mae hyn yn arbed amser ac ymdrech i chi ac yn rhoi hyder i chi nad ydych yn colli allan ar unrhyw gyfleoedd posibl.
Mewn llawer o achosion, mae tendrau a enillwyd drwy GwerthwchiGymru wedi bod yn drawsnewidiol i’r busnesau dan sylw ac mae cofrestru am ddim, felly nid oes dim i’w golli drwy gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Sut i gofrestru gyda GwerthwchiGymru
Er mwyn ymuno â GwerthwchiGymru a dechrau chwilio am waith sector cyhoeddus, gwneud cais amdano a’i ennill, mae angen i ddefnyddwyr gofrestru gyda Sign on Cymru yn gyntaf.
Sign on Cymru yw’r gwasanaeth mewngofnodi unigol ar gyfer cymorth busnes ar-lein Llywodraeth Cymru. Mae’n darparu mynediad at nifer o wasanaethau Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru, gan gynnwys GwerthwchiGymru.
Dilynwch y camau hyn i gofrestru gyda Sign on Cymru:
- Ewch i hafan GwerthwchiGymru ar www.gwerthwchigymru.llyw.cymru
- Cliciwch ar y botwm Cofrestru Am Ddim. Yma bydd defnyddwyr yn cael eu trosglwyddo i dudalen wybodaeth Sign On Cymru.
- Cliciwch ar Parhau i Sign On / Cofrestru a bydd defnyddwyr yn cael eu trosglwyddo i dudalen mewngofnodi Sign on Cymru.
- Os nad ydych wedi cofrestru eisoes, cliciwch ar y botwm ‘Don’t have an account? Cofrestrwch nawr dolen.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ac anfonir cod dilysu i’r cyfeiriad e-bost a ddarperir.
- Dilyswch y cod ar wefan GwerthwchiGymru a gwasgwch ‘Creu’ i sefydlu eich cyfrif GwerthwchiGymru.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrym
Mae’n bwysig adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn er mwyn osgoi bod eich cyfrif yn cael ei archifo. Byddwch yn derbyn dau nodyn atgoffa trwy e-bost cyn i hyn ddigwydd.
Beth yw darganfyddwr cyflenwyr GwerthwchiGymru?
Nod y gwasanaeth chwilio am gyflenwr yw helpu i gysylltu busnesau sector cyhoeddus a phreifat â’i gilydd. Mae’n gweithio fel cyfeiriadur cyflenwyr sy’n galluogi prynwyr i ddod o hyd i werthwyr gyda chontractau byw, ac mae’n rhoi cyfle i werthwyr hysbysebu eu busnes, gan fanylu ar y nwyddau a’r gwasanaethau y gallant eu darparu.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau eich Proffil Cyhoeddus drwy ddilyn y camau hyn:
- Rhowch fanylion eich busnes
- Dewiswch y rhanbarth(au) y mae eich cwmni yn dymuno cynnal busnes ynddynt.
- Rhowch ddisgrifiad o ‘ch cwmni. Gallwch nodi uchafswm o 4,000 nod yma, felly gwnewch ddefnydd llawn o hwn i wneud y mwyaf o’ch amlygiad i brynwyr. Byddwch yn siŵr i gynnwys:
- Logo eich cwmni
- URL eich gwefan
- Disgrifiad cynhwysfawr o’ch busnes
- Tagiau a dolenni cyfryngau cymdeithasol
- Yswiriant perthnasol
- Cymwysterau
- Gwobrau busnes
- Dolenni i astudiaethau achos
Yn ogystal â chaniatáu i brynwyr ddod o hyd i chi, gallwch hefyd chwilio am gyfleoedd tendro a restrir gan brynwyr gyda’r swyddogaeth Porwch y Contractau.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrym
Gallwch hefyd nodi hyd at 6 allweddair sy’n disgrifio’r cynhyrchion neu’r gwasanaethau a ddarperir gennych. Mae’r rhain yn gweithredu fel termau chwilio allweddol, felly meddyliwch am yr hyn y gallai eich prynwr chwilio amdano o bosibl a dewiswch nhw’n ddoeth.
Sut i chwilio am hysbysiad GwerthwchiGymru
I chwilio am gyfleoedd tendro byw ar GwerthwchiGymru, dilynwch y camau hyn:
- Ewch i’r hafan a chliciwch ar yr opsiwn Porwch y Contractau.
- Byddwch yn cael eich tywys i dudalen chwilio, lle gallwch chwilio am gyfleoedd yn ôl lleoliad a chategorïau busnes i gyd-fynd â’ch diddordeb.
- Bydd rhestr o hysbysiadau yn ymddangos o dan yr adran chwilio. Gallwch glicio ar unrhyw un o’r rhain i weld y cyfle a chofrestru eich diddordeb.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrym
Os ydych yn chwilio am gontract penodol gallwch ddefnyddio’r swyddogaethau chwilio manwl i’w gyfyngu yn ôl enw’r prynwr, allweddeiriau penodol a chyfeirnodau.
Sut i osod rhybuddion am hysbysiadau a pham eu bod yn bwysig
Ar ôl cofrestru gyda GwerthwchiGymru, mae’n bwysig i chi sefydlu’ch Proffil Rhybuddion. Gallwch wneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn sefydlu eich Proffil Cyhoeddus.
Mae’r swyddogaeth hon yn arbed amser i chi trwy gyflwyno cyfleoedd busnes newydd posibl yn uniongyrchol i’ch mewnflwch, felly mae’n werth ei wneud yn iawn i sicrhau eich bod yn derbyn rhybuddion am hysbysiadau dros e-bost am gyfleoedd sy’n berthnasol i’ch busnes.
I greu hysbysiadau, dilynwch y camau hyn:
- Dewch o hyd i’ch Proffil Rhybuddion yn y Panel Rheoli Cyflenwyr o dan y pennawd Fy Mhroffil.
- Nodwch y categorïau cynnyrch sy’n berthnasol i’ch busnes. Mae’n bwysig ymchwilio’n fanwl yma i sicrhau mai dim ond hysbysiadau sy’n berthnasol i chi y byddwch yn eu derbyn.
- Dewiswch y lleoliadau daearyddol lle rydych chi’n fodlon gweithio.
Awgrym
Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich Proffil Rhybuddion yn rheolaidd, yn enwedig os ydych chi’n ehangu eich ystod cynnyrch neu wasanaeth. Bydd gwneud eich proffil yn ‘gyhoeddus’ yn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw hysbysiadau.
Beth yw Tudalennau Prosiect GwerthwchiGymru?
Pan fyddwch yn mewngofnodi i hafan GwerthwchiGymru, fe welwch isadran o’r enw Prosiectau.
Cliciwch ar yr adran hon am restr o sefydliadau’r sector cyhoeddus , a chwmnïau o fewn eu cadwyni cyflenwi, sydd â’u Tudalennau Prosiect GwerthwchiGymru dynodedig eu hunain.
Mae’r cwmnïau hyn yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Dŵr Cymru a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a rhyngddynt maent yn cyfrif am gannoedd o filiynau o bunnoedd o gontractau sydd ar gael yng Nghymru ymhlith eraill.
Cliciwch ar bob un o’r Tudalennau Prosiect hyn i weld eu cyfleoedd tendro presennol, digwyddiadau sydd i ddod a gwybodaeth ddefnyddiol arall. Mae’r rhestrau hyn yn cael eu diweddaru’n aml ac yn tyfu, felly mae’n werth edrych yn ôl yn rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Sut a pham i chwilio am wybodaeth am gontractau blaenorol ar GwerthwchiGymru
Er mai prif swyddogaeth GwerthwchiGymru yw chwilio a nodi cyfleoedd newydd o fewn cadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, gall fod yn ddefnyddiol adolygu contractau blaenorol er mwyn ehangu dealltwriaeth cwmni o’r mathau o gyfleoedd sydd ar gael o fewn eu sectorau.
Gan ddefnyddio GwerthwchiGymru, gallwch ddysgu mwy am gontractau’r gorffennol, eu gwerthoedd a’r cwmnïau a’u henillodd, ac o ganlyniad cyfleoedd posibl ar gyfer is gontractau a all ddeillio ohonynt.
I wneud hyn, dilynwch y camau hyn:
- Cliciwch drwy’r tab Porwch y Contractau ar hafan GwerthwchiGymru.
- Yn yr adran Hidlo Canlyniadau dewiswch y tab Math o Hysbysiad ac yna Canlyniadau Contractau i weld pwy enillodd y contract.
Gallai’r swyddogaeth hon fod yn arbennig o berthnasol os gwnaethoch chi golli allan ar gais blaenorol, gan y gall helpu i ddarparu gwybodaeth i gynyddu eich siawns o lwyddo y tro nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrym
Os yw prynwr wedi rhoi cyfleoedd sydd o ddiddordeb o’r blaen, hyd yn oed os nad oes ganddo dendrau byw cyfredol, efallai y byddai’n werth estyn allan i gyflwyno’ch hun. Defnyddiwch GwerthwchiGymru fel adnodd i ddatblygu eich perthnasoedd â’r sector, yn ogystal â gwneud y gorau o’r adnoddau eraill sydd ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Dyfynbrisiau Cyflym
Dyfynbrisiau Cyflym yw offeryn amhrisiadwy GwerthwchiGymru ar gyfer cyfleoedd contract llai. Mae’n gyfleuster dyfynbrisiau o fewn GwerthwchiGymru, sy’n galluogi prynwyr yn y sector cyhoeddus i gael dyfynbrisiau cystadleuol ar gyfer contractau gwerth is o hyd at £25,000.
Trwy Dyfynbrisiau Cyflym gall prynwyr chwilio am, a gwahodd cwmnïau i roi dyfynbris yn breifat gan ddefnyddio’r mecanwaith hwn, heb orfod mynd trwy broses dendro agored lawn.
I wneud y mwyaf o’ch siawns o gael eich gwahodd i ddyfynnu, mae’n hanfodol eich bod yn gosod eich proffil ‘Canfod Cyflenwr’ GwerthwchiGymru a’ch proffiliau ‘Fy Rhybuddion’ yn gywir, gan gwblhau’r holl feysydd data sydd ar gael.
I ddefnyddio’r swyddogaeth Dyfynbrisiau Cyflym, dilynwch y camau hyn:
- Cewch fynediad i Dyfynbrisiau Cyflym trwy ddewis Fy Nghyfrif yn y ddewislen uchaf a mewngofnodi i fynd â chi i’r Panel Rheoli Cyflenwyr. Dewiswch Rhestr Diddordeb o dan y pennawd Fy Hysbysiadau.
- Bydd y Rhestr Diddordeb yn dangos Dyfynbrisiau Cyflym y cawsoch eich gwahodd ar eu cyfer, yn ogystal â’r rhai a hysbysebwyd yn gyhoeddus, a hysbysiadau y gallech fod wedi cofnodi diddordeb ynddynt.
- Byddwch yn gallu adnabod Dyfynbrisiau Cyflym wrth y symbol saeth werdd ar ochr chwith y sgrin.
- Mae manylion y Dyfynbrisiau Cyflym sy’n ymwneud â phrosiect penodol yn cael eu creu gan y prynwr a’u dosbarthu i gyflenwyr.
- Os cewch eich gwahodd i roi dyfynbris rhaid i chi lenwi’r manylion gofynnol a chyflwyno’ch dyfynbris gan ddefnyddio’r Blwch Postio diogel.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Pam defnyddio Dyfynbrisiau Cyflym?
Mae Dyfynbrisiau Cyflym yn symleiddio’r broses dyfynbrisiau ar gyfer prynwyr a chyflenwyr. Mae cyflenwyr yn arbennig yn cael yr amser a’r ymdrech i lunio tendr ehangach. Mae llai o gystadleuaeth i brynwyr hefyd, sy’n ei gwneud hi’n haws ennill gwaith sector cyhoeddus.
Gall ennill Dyfynbrisiau Cyflym hybu’r hyder sydd ei angen ar lawer o BBaChau wrth dendro am waith am y tro cyntaf.
Beth yw’r pyrth tendro gwahanol?
Pan fydd prynwyr yn hysbysebu gofyniad caffael, maen nhw’n defnyddio’r hyn a elwir yn Hysbysiad Contract, ac yn galw ar gyflenwyr sydd â diddordeb i ymateb gyda’r dogfennau perthnasol erbyn terfyn amser penodedig.
Mae pob tendr sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y pyrth hyn:
- GwerthwchiGymru yng Nghymru
- Contracts Finder yn Lloegr
- Public Contracts Scotland yn yr Alban
Os ydych chi am ddod o hyd i bob cyfle gwerth uwch o bob rhan o’r DU, gallwch ddod o hyd iddynt ar y gwasanaeth Dod o hyd i Dendrau.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu pob contract dros £25,000. Rhaid i gyflenwyr sydd am wneud busnes gyda Llywodraeth Cymru gofrestru ar GwerthwchiGymru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch weld yr holl hysbysiadau contract cyfredol.
Fel estyniad i GwerthwchiGymru mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio eDendroCymru i redeg caffaeliadau dros £25,000 yn swyddogaethol. Mae’r platfform hwn yn rhoi:
- mynediad hawdd i ddogfennau tendro i gyflenwyr;
- yn darparu ffordd ddiogel o ddychwelyd tendrau;
- yn darparu proses dryloyw ar gyfer codi ymholiadau yn ystod y broses dendro.
Gyda chymaint o lwyfannau yn amlinellu miloedd o wahanol gyfleoedd tendro, gall fod yn ymarfer llafurus i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sawl porth gwahanol. Dyma pam mae GwerthwchiGymru yn adnodd mor hanfodol i’ch busnes: mae’n casglu’r holl gyfleoedd tendro sydd ar gael yng Nghymru i un gofod digidol, fel y gallwch gael mynediad at bopeth yn gyflym ac yn hawdd, heb boeni am golli cyfleoedd posibl.
Gwnewch yn siŵr bod eich proffiliau Dod o Hyd i Gyflenwr GwerthwchiGymru a Hysbysiadau mor gynhwysfawr â phosibl, fel bod y cyfleoedd a gynigir i chi yn cyd-fynd â’ch proffil busnes.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Beth yw fframweithiau caffael?
Mae fframweithiau yn gytundebau rhwng y llywodraeth a chyflenwyr, a elwir hefyd yn fusnesau, i gyflenwi rhai mathau o wasanaethau o dan delerau penodol.
Maent yn rhoi rhestr i brynwyr, fel cynghorau lleol neu’r GIG, o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw sy’n gallu darparu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth sydd ei angen arnynt.
Yn aml, rhennir fframweithiau yn:
- ‘Lotiau’ yn ôl math o gynnyrch neu wasanaeth
- Rhanbarth (lle bo angen)
Mae hyn yn golygu y gall cyflenwyr sy’n cynnig rhai mathau o nwyddau neu wasanaethau arbenigol, ac sy’n gweithredu mewn maes penodol, wneud cais i ymuno â’r lot sy’n gweddu orau i’w busnes.
Gall nifer y cyflenwyr amrywio yn dibynnu ar y fframwaith a gynigir. Dim ond un cyflenwr sydd ei angen ar rai fframweithiau, ac mae angen llawer mwy ar eraill.
Mae nifer enfawr o fframweithiau ar gael, ar draws nifer o sectorau, y gall busnesau fod yn rhan ohonynt.
Er enghraifft, os ydych yn gwmni cysylltiadau cyhoeddus, gallech fod yn rhan o fframwaith Cyfathrebu a Marchnata Llywodraeth Cymru, tra gallai plymiwr yn ardal Caerdydd fod â diddordeb yn fframwaith Cronfa Contractwyr Bach Cyngor Caerdydd.
Mae bod ar fframwaith yn rhoi’r potensial i’ch busnes gael refeniw cyson.
Gall hyd fframwaith bara hyd at 4 blynedd neu fwy cyn iddynt gael eu hail-dendro, gan sicrhau lefel o sefydlogrwydd ariannol i fusnesau.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Beth yw System Brynu Ddeinamig?
Yn wahanol i fframwaith traddodiadol ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau, mae System Brynu Ddeinamig yn system electronig y gall cyflenwyr ymuno ag ef unrhyw bryd.
I bob pwrpas, mae’n ateb ‘marchnad agored’ i gaffael yn y sector cyhoeddus, sydd wedi’i gynllunio i roi mynediad i brynwyr at gronfa o gyflenwyr sydd wedi cymhwyso ymlaen llaw.
Dyma rai o fanteision bod ar System Brynu Ddeinamig ar gyfer eich busnes fel cyflenwr:
- Mae’r broses gymeradwyo ar gyfer ymuno yn aml yn gyflymach ac yn symlach na fframwaith.
- Nid oes rhaid i chi ddangos addasrwydd a gallu bob tro y dymunwch gystadlu am gontract sector cyhoeddus.
- Mae’n cynnig gwell hygyrchedd i’ch busnes.
- Gall dyfarnu tendrau unigol fod yn gyflymach.
- Mae System Brynu Ddeinamig yn parhau ar agor i gyflenwyr newydd drwy gydol cyfnod y cytundeb.
- Gall cyflenwyr wneud cais am lotiau ychwanegol drwy gydol oes y System Brynu Ddeinamig pe bai eu busnes yn ehangu i feysydd newydd.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr
Awgrym
Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr gan Busnes Cymru, peidiwch â’i anwybyddu! Manteisiwch ar yr hyn sy’n gyfle wedi’i dargedu’n benodol i chi gwrdd â’r prynwyr mwyaf, a mwyaf perthnasol, yn eich marchnad a thyfu eich busnes.
Beth yw digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr?
Mae gan Busnes Cymru dros 125,000 o fusnesau o Gymru ar eu cronfa ddata, wedi’u trefnu yn ôl lleoliad a chan y cynnyrch neu’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.
Cyflawnwyd hyn trwy fapio’r gadwyn gyflenwi ledled Cymru yn ofalus gyda’r bwriad o baru gofynion prynwyr â chyflenwyr posibl.
Mae Busnes Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i wahodd cyflenwyr posibl i Ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr, a gynhelir ledled Cymru bob blwyddyn, yn bersonol ac yn rhithwir.
Mae digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn hynod amrywiol o ran eu themâu a’u maint. Er enghraifft, gellid cynnal digwyddiad ar ran cwmni adeiladu sydd â nifer o ddatblygiadau masnachol a phreswyl mawr ar y gweill ac sy’n ceisio caffael crefftau, o waith saer, i osod brics, i saernïo dur.
Neu fe allai fod ar gyfer Bwrdd Iechyd y GIG sydd am gaffael gwasanaethau diogelwch, arlwyo a glanhau.
Wrth wraidd y digwyddiadau hyn mae cyfarfodydd un i un rhwng prynwyr a gwerthwyr, lle bydd y prynwr yn rhoi gwybodaeth fanwl i’r cyflenwr yn egluro beth yw’r prosiect a’r cyfleoedd sydd ar gael.
Byddant hefyd yn nodi unrhyw rwystrau sy’n bodoli i gyrraedd eu cadwyn gyflenwi fel y gall cyflenwyr ystyried eu hopsiynau a’r hyn y gallai fod angen iddynt ei wneud er mwyn llywio unrhyw rwystrau.
Mewn digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr, mae’r cyflenwr hefyd yn cael cyfle i gyflwyno eu busnes a’u gwasanaethau’n uniongyrchol i’r prynwr.
Mae dull Busnes Cymru o gefnogi digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr wedi arwain at brynwyr yn cyflwyno dros 60% yn fwy o fusnesau i’w cadwyn gyflenwi nag o’r blaen, gan arwain at BBaChau Cymru yn ennill miliynau o bunnoedd o waith, na fyddent efallai erioed wedi gwybod amdano nac wedi ceisio amdano fel arall.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrymiadau wrth fynychu digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr
Mae digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr, boed yn bersonol neu’n rhithwir, yn gyfle i gyflenwr gael cyfarfodydd un-i-un gyda phrynwr.
Cynllunnir pob sesiwn un-i-un fel cyfarfod 15 munud. Mae hyn yn rhoi ffocws i’r ddwy ochr i ddarparu gwybodaeth gryno, i’r pwynt.
Er mwyn cael y gorau o’r sesiynau byr hyn, mae’n hanfodol cynllunio ymlaen llaw. Dilynwch y camau hyn i gael y siawns orau o lwyddo:
- Sicrhewch eich bod yn gwybod cymaint â phosibl am y busnes neu’r sefydliad y byddwch yn cyflwyno cais iddo ac, os yn bosibl, yr unigolyn y byddwch yn cyfarfod ag ef.
- Lle bo’n briodol dewch â chardiau busnes a deunydd marchnata, achrediadau, geirdaon ac enghreifftiau o waith yr ydych wedi’i wneud ar gyfer sefydliadau tebyg.
- Dewch gyda chwestiynau perthnasol. Gofynnwch sut y bydd y gwaith yn cael ei ddyrannu, os ydynt yn meddwl eich bod mewn sefyllfa dda i ennill y gwaith hwn, a beth sy’n rhaid i chi ei wneud i fod yn llwyddiannus. Darganfyddwch at ba linellau amser y maent yn gweithio a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Efallai y byddwch yn cerdded i ffwrdd gyda chyfle busnes cwbl newydd, neu’n darganfod, er nad oedd y cyfle’n iawn i’ch busnes ar hyn o bryd, bod cynlluniau’r prynwr ar gyfer y dyfodol yn fwy addas i’ch cynnig.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Awgrym
Os byddwch yn gadael gydag unrhyw arweiniadau gwresog, neu berthnasoedd yr hoffech feithrin yn y dyfodol, mae’n bwysig eich bod yn dilyn hyn gydag e-bost neu alwad ffôn ar ôl y digwyddiad i ddatblygu’r cysylltiad.
Astudiaethau achos
Mae ymgysylltu â chyfleoedd cadwyn gyflenwi o fudd i’ch busnes, ond peidiwch â chymryd ein gair ni. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan rai busnesau llwyddiannus i’w ddweud a darganfod mwy am yr effaith y mae sicrhau cyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd wedi’i chael ar eu busnes.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Specialist Security Company
Mae Rachel Fleri, perchennog, rheolwr a chyfarwyddwr Specialist Security Co. a leolir yng Nghaerdydd, De Cymru yn siarad am ei phrofiadau gyda chymorth a dderbyniwyd gan Busnes Cymru i gynorthwyo gyda chymorth cadwyn gyflenwi sy’n ymwneud â’i busnes.
OTM Groundscare
Mae Ollie Metcalfe, un o berchnogion OTM Groundscare sydd wedi’i leoli yn Y Gelli Gandryll, Cymru Canolog yn trafod sut mae ei fusnes wedi elwa o gyngor cadwyn gyflenwi drwy Busnes Cymru.
Oren Foods
Mae Gethin Dwyfor, rheolwr gyfarwyddwr Oren Foods ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngogledd Cymru yn sôn am sut y bu i Busnes Cymru ei gefnogi ar gynnig ac ennill gwaith sector cyhoeddus ymhlith cyngor defnyddiol arall.
Awgrymiadau tendro da
Wrth wraidd busnes buddugol yn y sector cyhoeddus mae llunio tendr rhagorol, sy’n cyflawni’r briff ac yn ticio pob un o’r blychau, a fydd yn ei dro yn dyrchafu eich tendr yn fwy na dim arall.
Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i gyflenwyr:
- Ddarllen y cyfarwyddiadau tendro’n ofalus – gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y gofynion tendro llawn a gwnewch yn siŵr bod eich busnes yn cyd-fynd â’r briff, yn hytrach na gwneud y tendr yn gweddu i’ch busnes.
- Sicrhau eich bod wedi neilltuo digon o amser i gwblhau’r tendr. Peidiwch â’i adael tan y funud olaf.
- Sicrhau fod gennych yr achrediadau cywir. Bydd pob tendr yn wahanol ond mae’n hanfodol eich bod yn bodloni’r safonau gofynnol, neu fel arall bydd eich cais yn debygol o fethu.
- Darllen y cwestiynau yn llawn a sicrhau eich bod yn ateb y cwestiynau’n llawn.
- Buddsoddi amser yn y cam cynllunio i fwrdd stori a strwythuro eich ymatebion.
- Bydd cyfnod penodol o gyfle ar ddechrau unrhyw broses dendro lle bydd cyflenwyr yn gallu gofyn cwestiynau i’r prynwr felly os ydych yn ansicr o unrhyw beth, manteisiwch ar hyn.
- Fod yn eglur pan ddaw’n fater o fodloni’r manylebau yn y briff. Dylai pob tendr fod yn bwrpasol i’r cleient a’r prosiect.
- Rhoi tystiolaeth bob amser o unrhyw ddatganiadau agored a wnewch. Gall hyn gynnwys enghreifftiau o hanes, Dangosyddion Perfformiad Allweddol a thystebau gan gleientiaid.
- Darllen y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef deddfwriaeth arloesol Llywodraeth Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Cyfeiriwch at ei nodau yn eich cyflwyniad lle bo’n briodol.
- Cynnwys unrhyw wasanaethau gwerth ychwanegol y gallech eu darparu yn ychwanegol at y gofynion sylfaenol.
- Sicrhau bod eich cais yn crynhoi diwylliant a gallu eich sefydliad a dangoswch hyn. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod prynwr yn gwybod unrhyw beth amdanoch chi.
- Prawf-ddarllen eich ymateb cyn ei gyflwyno.
- Cadw at derfynau amser, cyfrif geiriau, ffontiau a maint ffontiau. Ac atodwch yr holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt.
- Ceisio cyflwyno eich cais o leiaf 24 awr cyn y dyddiad cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Angen help ychwanegol?
Beth am fynychu un o weithdai ‘Sut i Dendro’ rheolaidd Busnes Cymru a ariennir yn llawn. Mae’r rhain yn gyfres o weithdai sydd wedi’u hanelu at fusnesau sydd am ddysgu mwy am sut i dendro’n llwyddiannus am gontractau.
Canllawiau ychwanegol i wneud y mwyaf o’ch gweithgaredd tendro
Ar ddechrau ac ar ddiwedd y broses dendro mae cyfleoedd i wneud y mwyaf o’ch siawns o lwyddo, nawr ac yn y dyfodol.
Cyn i chi ddechrau’r broses dendro: cynnig neu ddim cynnig?
Mae’n hanfodol dewis y tendr mwyaf addas ar gyfer eich busnes yn hytrach na thendro am bob cyfle sydd ar gael.
Wrth ystyried cyfle newydd, bydd angen i chi ofyn cyfres o gwestiynau i chi’ch hun:
- A ydych chi’n gallu bodloni’r holl ofynion sylfaenol o fewn y cam cymhwyso?
- Ai yw’r contract o’r maint cywir? Er enghraifft, efallai y bydd gan y prynwr bryderon os ydych yn tendro am gyfle lle mae gwerth y contract blynyddol yn fwy na’ch trosiant blynyddol.
- A oes gennych brofiad o gyflawni contract tebyg? Bydd arddangos eich profiad yn rhoi hyder i’r prynwr y gallwch ddarparu’r lefel hon o wasanaeth.
- A oes gennych ddigon o adnoddau nid yn unig i gwblhau’r tendr newydd, ond i gynnal cytundebau gwasanaeth gyda chwsmeriaid presennol? Ystyriwch a fydd yn rhoi straen diangen ar eich adnoddau a’ch cadwyn gyflenwi.
Ar ôl y broses dendro
Wrth ddyfarnu contract, mae cael adborth gan y prynwr a dysgu o’u hymateb yn allweddol.
Hyd yn oed os mai chi yw’r cynigydd buddugol, mae bob amser bethau newydd i’w dysgu am sut y derbyniwyd eich cyflwyniad, felly gofynnwch am adborth manwl ar ôl i gontract gael ei ddyfarnu. Gall hyn gynnwys:
- Sgoriau technegol o fewn yr adran ansawdd. A oes maes penodol y mae angen ichi fuddsoddi a gwella ynddo?
- Sgôr masnachol. A oes gennych y strategaeth brisio gywir?
- Ac os nad oeddech yn llwyddiannus, pwy oedd y tendr buddugol? A beth oedd nodweddion buddugol eu cais? Mae yma beth i’w ddysgu.
Cofiwch, mae prosesau caffael mewn cyflwr cyson o esblygiad ac mae angen i fusnesau werthuso eu safle yn y farchnad yn gyson er mwyn cynyddu’r siawns o lwyddiant tendro.
I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, ewch i www.busnescymru.llyw.cymru
Dolenni defnyddiol
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.