Astudiaeth Achos, Document

Cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gynyddu’r Defnydd o Fwyd Lleol mewn Prydau Ysgol

Cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gynyddu’r Defnydd o Fwyd Lleol mewn Prydau Ysgol

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf: 14 Awst 2026
Lawrlwytho'r ddogfen: 18.98 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Cefnogwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i archwilio cyfleoedd a threialu dulliau o gynyddu’r defnydd o lysiau wedi’u tyfu’n lleol mewn prydau ysgol, yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi bwyd lleol. Mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar dreialu ymarferol, datblygu cadwyni cyflenwi ac ymgysylltu â thyfwyr er mwyn symud oddi wrth ddefnyddio gynnyrch wedi’i fewnforio neu wedi’i rewi tuag at ddefnyddio cynnyrch ffres, lleol.

Er fod bwydlenni’r sir eisoes yn cynnwys cig o ffynonellau lleol, roedd cynnwys llysiau’n peri mwy o her oherwydd cyflenwad lleol cyfyngedig a dibyniaeth gyffredinol ar gynnyrch wedi’i rewi. Mae cyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd wedi cynyddu’r galw am gynnyrch ffres, gan greu’r cyfle a’r her o sicrhau cyflenwad cyson, fforddiadwy a lleol. Un o flaenoriaethau’r
gwaith hwn felly, oedd adnabod tyfwyr a threfniadau cyflenwi sy’n gallu bodloni gofynion megis graddfa, tymor a chost.

Rhan ganolog o’r prosiect hwn oedd peilot i gymharu brocoli ffres â brocoli wedi’i rewi mewn prydau ysgol. Darparodd y peilot fewnwelediadau ymarferol i sut y gall newid i ddefnyddio cynnyrch ffres weithredu’n ymarferol. Awgrymodd adborth gan staff arlwyo fod defnyddio brocoli ffres yn gwella ymddangosiad ac ansawdd y prydau, a’i fod wedi’i groesawu gan ddisgyblion, er fod gofyn am fwy o amser er mwyn ei baratoi. Mae canfyddiadau’r treial wedi dangos y manteision a’r ystyriaethau ymarferol sy’n gysylltiedig â chyflwyno cynnyrch ffres, lleol i geginau ysgol.

Yn ogystal â’r prosiect hwn, gwnaed gwaith er mwyn gwella dealltwriaeth ynghylch maint y gyflenwad sydd ei angen. Tynnodd y gwaith hwn sylw at bwysigrwydd adeiladu perthnasau rhwng tyfwyr, cyfanwerthwyr a gwasanaethau arlwyo er mwyn sicrhau y gellir tyfu, casglu a dosbarthu’r cynnyrch yn effeithiol. Mae’r gwaith hefyd wedi nodi bod gallu tyfu lleol yn gyfyngedig ar hyn o bryd, gyda nifer o gynhyrchwyr lleol yn gweithredu ar raddfa lai, gan atgyfnerthu’r angen am ddull hirdymor o ddatblygu cyflenwad. Fodd bynnag, cyfeiriodd Coleg Llandrillo at Fenter Gymunedol Yr Orsaf ym Mhenygroes fel arbenigwyr posibl allai gefnogi pobl ifanc i sefydlu neu ehangu mentrau garddwriaethol, gyda’r nod o ddiwallu galw gwasanaethau prydau ysgol awdurdodau lleol.

Mae’r gwaith wedi adnabod heriau yn y system fwyd. Dim ond cyfran gyfyngedig o dir amaethyddol yng Nghymru sy’n cael ei neilltuo i dyfu ar raddfa fawr y tu hwnt i datws. Yn ogystal, mae cyfyngiadau o ran amrywioldeb llafur fforddiadwy i gynaeafu cnydau ar raddfa, ynghyd ag angen am fuddsoddiad mewn isadeiledd i gefnogi’r llafur hwnnw, megis recriwtio staff tymhorol a darparu llety ar eu cyfer. Mae’r gallu tyfu presennol felly’n parhau’n gyfyngedig, gyda llawer o gynhyrchwyr yn gweithredu ar raddfeydd llai, gan atgyfnerthu’r angen am ddull hirdymor o ddatblygu cyflenwad.

Mae’r cymorth a ddarparwyd gan y rhaglen wedi defnyddio dull strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn cynyddu’r defnydd o fwyd lleol mewn prydau ysgol. Mae’r prosiect wedi dangos yr hyn sy’n ymarferol bosibl o safbwynt gweithredol, wedi adnabod rhwystrau allweddol, ac wedi llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’r treial hefyd yn cynnig enghraifft ddefnyddiol o sut y gellir defnyddio galw’r sector cyhoeddus i ysgogi cynhyrchu bwyd lleol, pan gaiff hynny ei gefnogi gan ddatblygu cadwyni gyflenwi cydlynol a chymorth busnes wedi’i dargedu.

Lawrlwytho'r ddogfen: 18.98 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.