Cyfnod newydd i naffael cyhoeddus yng Nghymru
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
- Cyflwyniad
- Rhan 1: Cyfleoedd i dyfu drwy gaffael cyhoeddus
- Cam 1: Deall y broses dendro sector cyhoeddus
- Cam 2: Byddwch yn weladwy
- Cam 3: Arddangosfeydd cyflenwyr a digwyddiadau cwrdd â'r cyflenwr
- Cam 4: Buddsoddwch yn eich busnes
- Cam 5: Ysgrifennu cynigion
- Rhan 2: Caffael cymdeithasol gyfrifol
- Cam 6: Cyfrifoldeb cymdeithasol ar gyfer canlyniadau gwell
- Casgliad
- Adnoddau eraill
- Cysylltwch â ni
Cyflwyniad
Mae Caffael Cyhoeddus yng Nghymru yn Newid.
Hoffech chi ddysgu sut i ganfod, gwneud cynigion ac ennill contractau cyhoeddus? A yw eich busnes wedi'i leoli yng Nghymru, gyda chyfeiriad post yng Nghymru, ac a ydych chi'n cyflogi pobl sy'n byw yng Nghymru?
Os ydych chi'n bodloni'r tri chwestiwn hyn, yna darllenwch y Canllaw i Gyflenwyr hwn sy'n egluro'r gwelliannau yn y ffordd mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu caffael yng Nghymru.
Mae diwygiadau caffael NEWYDD yng Nghymru a'r DU yn dod â phroses symlach, fwy hyblyg a thryloyw ar gyfer cyflenwyr o BOB maint er mwyn canfod, gwneud cynigion ac ennill contractau cyhoeddus.
Mae'r Canllaw hwn yn cynnig esboniadau syml ac eglur, yn chwalu mythau, ac mae'n cynnig cefnogaeth gam wrth gam ar y broses angenrheidiol er mwyn ennill mwy o fusnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae dolenni i fideos, templedi, rhestrau gwirio, tudalen adnoddau pellach, a thabl acronymau a diffiniadau wedi'u cynnwys yn y canllaw.
Mae Canllaw i Gyflenwyr RHAN 1
RHAN 1 yn egluro'r camau syml ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd am gontractau, gan ddeall sut i gofrestru ar GwerthwchiGymru a Llwyfan Digidol Canolog (CDP). Mae'r Canllaw hefyd yn cynnig cynghorion ar sut i wella eich sgiliau ysgrifennu cynigion.
Mae Canllaw i Gyflenwyr RHAN 2
RHAN 2 yn cynnig adnoddau dysgu NEWYDD ac ymarferol wedi'u hanelu at gyflenwyr yng Nghymru er mwyn deall beth a olygir gan gaffael cymdeithasol gyfrifol. Bydd y Canllaw hwn yn eich helpu chi a'ch busnes i ennill mwy o fusnes a pharatoi i gyflenwi'r sector cyhoeddus.
Rhan 1: Cyfleoedd i dyfu drwy gaffael cyhoeddus
Beth yw cyrff cyhoeddus?
Mae'r sector cyhoeddus yn sector nid-er-elw ac mae'n gweithredu mewn ffordd wahanol i'r sector preifat.
Mae cyrff cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg, gofal iechyd a chymdeithasol, gwasanaethau brys, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, parciau cenedlaethol, cymdeithasau chwaraeon, cyngor y celfyddydau, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth ac adnoddau naturiol. Mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn eistedd o fewn ardaloedd awdurdodau lleol.
Mae yna 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru fel y maent yn ymddangos ar y map.
Gogledd Cymru Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
Canolbarth Cymru Ceredigion a Phowys
De-orllewin a De-ddwyrain Cymru Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy
Dechrau arni gyda Chaffael Cyhoeddus
I bobl sy'n gweithio y tu hwnt i'r sector cyhoeddus, gall caffael cyhoeddus ymddangos yn ddigon brawychus ar yr olwg gyntaf, a heb y gefnogaeth gywir, gall y broses dendro deimlo fel pe bai'n eich llethu. Mae'r Canllaw i Gyflenwyr hwn yn cael gwared ar beth o'r cymhlethdod ac yn egluro'r broses gaffael mewn ffordd syml er mwyn eich helpu i ddechrau arni.
Mae'r ffordd y mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu caffael yng Nghymru yn newid, ac ers i ddeddfwriaeth caffael newydd ddod i rym ar 24ain Chwefror 2025, bellach mae yna gyfoeth o ganllawiau ar gael yn gyhoeddus ar gyfer yr ochr brynu a chyflenwi.
Gall dod o hyd i'r cymorth a'r arweiniad cywir gymryd amser ac yn aml mae'n anodd gwybod lle i ddechrau arni.
Mae'r Canllaw hwn yn cyfleu'r negeseuon pwysig mewn CHWE CHAM er mwyn i GYFLENWYR gael DECHRAU ARNI.
- CAM 1: Deall proses y sector cyhoeddus
- CAM 2: Byddwch yn weladwy
- CAM 3: Arddangosfeydd cyflenwyr a digwyddiadau cwrdd â'r prynwr
- CAM 4: Buddsoddwch yn eich busnes
- CAM 5: Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu cynigion
- CAM 6: Cyfrifoldeb cymdeithasol ar gyfer canlyniadau gwell
Mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth cynhwysfawr AM DDIM i BOB busnes yng Nghymru. Dyma gynnig unigryw o'i gymharu gydag ardaloedd eraill o fewn y DU lle mae gofyn i gyflenwyr dalu am gymorth. Cynhwysir dolenni perthnasol yn y canllaw.
Gall elusennau a sefydliadau'r trydydd sector ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth gyda Busnes Cymdeithasol Cymru, consortiwm rhwng Cwmpas, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn dylanwadu ac yn llywio'r sector gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau newydd. Darperir dolenni i'r sefydliadau hyn ar ddiwedd y canllaw - Adnoddau Eraill.
Cam 1: Deall y broses dendro sector cyhoeddus
Caffael cyhoeddus ac awdurdodau contractio
Yn fyd-eang, mae yna wariant sylweddol ar gaffael cyhoeddus ac mae'n cynrychioli tua 12% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP). Mae caffael cyhoeddus yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae'r Alban wedi gosod ei rheoliadau ei hun, ond mae Cymru yn dilyn rheolau sy'n debyg i Loegr a Gogledd Iwerddon gyda nifer fechan o eithriadau.
Yn y gorffennol, mae yna nifer o rwystrau wedi bod i fusnesau llai o ran canfod, gwneud cynigion ac ennill contractau cyhoeddus. Yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn newid a bydd hyn yn creu nifer o gyfleoedd NEWYDD ar gyfer rhai sy'n newydd i'r farchnad a denu busnesau o bob maint a modelau llywodraethu.
Yng Nghymru, mae awdurdodau contractio yn gwario oddeutu £11 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Mae diwygiadau mewn caffael cyhoeddus yng Nghymru yn berthnasol i'r holl awdurdodau contractio. Mae'r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, adrannau llywodraeth ganolog, cyrff hyd braich, ymddiriedolaethau'r GIG, ysgolion, cymdeithasau tai a phrifysgolion. Yng Nghymru, mae cyrff hyd braich yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, hwb Gwyddorau Bywyd, Banc Datblygu Cymru, llyfrgelloedd, Cyngor y Celfyddydau ac amgueddfeydd, Chwaraeon Cymru a nifer o sefydliadau eraill.
Bydd diwygiadau caffael yn cynnig mwy o dryloywder a thegwch a phroses dendro caffael symlach ar gyfer yr ochrau prynu a chyflenwi, ac addewid i ddarparu gwerth eithriadol am arian¹.
Un o'r amcanion ar gyfer diwygio caffael yw cynyddu'r gwariant (£) gyda BBaChau lleol - sy'n cynnwys awdurdodau contractio yn chwalu rhai o'r rhwystrau blaenorol ar gyfer busnesau bach a micro, y sector gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol (VCSE). Anogir y rhai sy'n newydd i gontractau sector cyhoeddus yn gryf i ymgysylltu â phrynwyr sector cyhoeddus i ddeall y cyfleoedd a fydd ar gael.
Mae'n bwysig i gyflenwyr ddeall yr amcanion a amlinellir ar gyfer awdurdodau contractio yng Nghymru.
i. Darparu gwerth am arian, ii. Sicrhau budd y cyhoedd, iii. Rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau tryloywder, iv. Gweithredu gydag uniondeb i sicrhau prosesau priodol sy'n deg a thryloyw ac atal llygredigaeth, twyll a chamymddwyn, v. Trin cyflenwyr yr un fath, vi. Ni ddylai awdurdodau sy'n contractio roi unrhyw gyflenwr dan anfantais na mantais, vii. Bod â dyletswydd newydd i ystyried lleihau rhwystrau sy'n atal BBaChau rhag cymryd rhan yn y broses dendro.
Myth
Mae caffael cyhoeddus ar gyfer sefydliadau sydd wedi'u hen sefydlu a sefydliadau mwy yn unig. Yn hanesyddol, weithiau yr awdurdodau lleol llai a'r cyrff cyhoeddus gyda gwariant is sy'n gyrru arloesedd o ran ymgysylltu â busnesau micro a bach yn y farchnad gyflenwi. Er enghraifft, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ennill gwobrau cenedlaethol ar gyfer gwthio'r ffiniau i ymgysylltu â chymunedau busnesau bach a busnesau trydydd sector.
Caffael cydweithredol
Mae rhai awdurdodau contractio yn cydweithredu drwy eu gweithgaredd caffael. Un enghraifft o hyn yw Ardal² - cytundeb cydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Torfaen a Chyngor Bro Morgannwg.
Mae caffael cydweithredol yn atal prosesu dianghenraid, ailadroddus a chostus, ac mae'n gwella ansawdd a chysondeb caffael. Mae caffael cydweithredol yn darparu gwell gwerth am arian.
Mae enghreifftiau lle mae caffael cydweithredol yn cael ei ddefnyddio yn cynnwys adeiladu ffyrdd, ysgolion neu ysbytai newydd, a rheoli gwastraff. Mae'r achosion hyn o gaffael yn aml yn cael eu rheoli drwy gytundebau fframwaith. Mae mwy ar fframweithiau yn y canllaw hwn.
Mae Ardal wedi cyhoeddi canllaw ar gyfer cyflenwyr sy'n dymuno gwneud cynigion am gontractau cydweithredol.
Mewn cymhariaeth â'r sector preifat, mae gan gaffael yn y sector cyhoeddus reoliadau llym i'w dilyn ac mae yna wahanol brosesau yn ddibynnol ar wariant y contract (£) sy'n cael ei lywodraethu gan werthoedd trothwy.
Myth
Honnwyd bod caffael cydweithredol yn cynrychioli gwerth gwariant uwch (£) gan fynd â chontractau cyhoeddus hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i gyrhaeddiad busnesau llai. Gwneir llawer mwy o ymdrech i sicrhau bod cyflenwyr o bob maint yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau cwrdd â'r prynwyr. Mae'r presenoldeb hwn yn hysbysu prynwyr am gystadleuaeth y farchnad ac yn eu helpu i lywio'r broses dendro derfynol.
¹ Bydd diwygiadau caffael yn cynnig mwy o dryloywder a thegwch a phroses dendro caffael symlach ar gyfer yr ochrau prynu a chyflenwi, ac addewid i ddarparu gwerth eithriadol am arian. ² Ardal - cytundeb cydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Torfaen a Chyngor Bro Morgannwg.
Gwerthoedd trothwy caffael
Dylai dulliau gweithredu caffael nwyddau a gwasanaethau drwy awdurdodau contractio ar draws Cymru ddechrau dod yn fwy syml a safonol dan ddeddfwriaeth newydd, ond gall y mathau o nwyddau a gwasanaethau mae pob corff cyhoeddus yn ei gaffael barhau i fod yn wahanol. Bydd hyn yn cael effaith ar y gwerthoedd trothwy a'r opsiynau llwybrau caffael angenrheidiol ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau.
Dan y diwygiad newydd, mae yna werthoedd trothwy newydd (£ gan gynnwys TAW) i'w hystyried. Gall gwerthoedd contract ddechrau o gyn lleied â £5,000, a gallwch weld o'r tabl hwn bod y gwariant trothwy yn amrywio yn ôl categori gwariant sy'n golygu bod yna gyfleoedd ar gyfer pob math a maint o fusnesau.
Math o Gytundeb / Trothwy (gan gynnwys TAW): 1 Ionawr 2024-31 Rhagfyr 2025
| Math o gytundeb | Trothwy (gan gynnwys TAW) |
|---|---|
| Contract gwaith cyfleustodau | £5,372,609 |
| Contract cyfleustodau sydd ddim yn gontract gwaith, yn gontract amddiffyn a chontract diogelwch neu gontract ysgafn. | £429,809 |
| Contract gwaith a gwasanaethau consesiwn. | £5,372,609 |
| Contract Gwaith. | £5,372,609 |
| Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau (a all fod yn gontractau cymysg sy'n cynnwys rhai elfennau gwaith) i awdurdod llywodraeth ganolog nad ydyw o fewn unrhyw res arall. | £139,688 |
| Contract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau (a all fod yn gontractau cymysg sy'n cynnwys rhai elfennau gwaith) i awdurdod llywodraeth ganolog nad ydyw o fewn unrhyw res arall. | £214,904 |
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor a hyfforddiant ar ddod o hyd i dendr ac ysgrifennu cynigion: busnescymru.llyw.cymru/pynciau-a-chyfarwyddyd/tendro-ar-gadwyn-gyflenwi
Beth yw tendro?
Os ydych chi am wybod mwy ynghylch y broses dendro a chynllunwyr teithiau caffael, mae CYD yn blatfform digidol canolog gyda gwybodaeth berthnasol ar gyfer yr ochrau prynu a chyflenwi - cyd.cymru/journey-start/
Fel nifer o broffesiynau, mae gan y maes caffael ei derminoleg ei hun. Os ydych chi'n newydd i gyflenwi'r sector cyhoeddus, gall deimlo'n heriol i ddeall byrfoddau ac acronymau yn ystod y broses dendro.
Mae'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) yn cynnig arweiniad clir ar y prif fathau o dendro³.
Mae tendr yn gynnig ffurfiol neu gais gan gyflenwr posib i ennill nwyddau a/neu wasanaethau sy'n cael eu caffael.
- Mae gwahoddiad i dendro (ITT) yn gais ffurfiol a anfonir drwy awdurdodau contractio i gyflenwyr sydd wedi'u rhag-gymeradwyo ar gyfer rhoi amcan bris o'r gwaith sydd ei angen.
- Mae cais i dendro (RTT) yn ddogfen a ddefnyddir i wahodd tendrau.
Anogir awdurdodau contractio i hysbysebu contractau sydd â gwerth dros £25,000 drwy borth tendro ar-lein fel y dangosir yn ddiweddarach yn y canllaw. Mae unrhyw beth sy'n is na £25,000 yn golygu y gellir bod yn fwy hyblyg i'r broses gaffael. Rhaid i unrhyw beth sy'n uwch na'r trothwy fel y dynodwyd yn y tabl ddilyn canllawiau caffael deddfwriaethol llym.
Nid yw'n angenrheidiol i gyflenwyr ymgolli yn y gwahanol weithdrefnau cyfreithiol, ond darperir dolen ar ddiwedd y canllaw dan Adnoddau Eraill er mwyn dysgu mwy os hoffech chi wneud hynny. Bydd y corff caffael cyfatebol yn eich arwain chi drwy'r broses berthnasol.
Fel yr eglurwyd eisoes, mae awdurdodau contractio yn defnyddio'r broses dendro berthnasol yn seiliedig ar y trothwy gwariant (£) i ganfod cyflenwr a fydd yn darparu'r gwerth gorau am arian.
Yng Nghymru, ar gyfer eitemau gwerth isel, mae yna system electronig o'r enw Dyfynbris Cyflym sy'n galluogi prynwyr cyhoeddus i sicrhau dyfynbrisiau cystadleuol yn gymharol sydyn ar gyfer gwariant sy'n is na'r trothwy.
Bydd prynwyr cyhoeddus yn sganio'r system dendro ddigidol i ddewis cyflenwyr perthnasol a'u gwahodd i gyflwyno cynnig byr a dyfynbris drwy'r Blwch Postio ar-lein.
³ Mae'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) yn cynnig arweiniad clir ar y prif fathau o dendro.
Beth yw fframwaith?
Mae fframwaith wedi'i gynllunio i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector gaffael nwyddau a gwasanaethu o restr cyflenwyr sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw. Mae gan bob fframwaith uchafswm cyllideb neu gyfyngiad gwario (£). Er mwyn galluogi system fwy cystadleuol a theg, mae'r fframwaith yn aml yn cael ei rhannu'n lotiau.
Gall y broses lotiau helpu BBaChau a VCSEau elwa fwy o gyfleoedd am gontract. Mae'r lotiau hyn yn dod yn becynnau contractio llai y gellir eu pennu yn ôl ardal ddaearyddol, math a/neu gategori gwariant.
Fel arfer, bydd gan fframwaith ddau neu fwy o gyflenwyr sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw. Gal cyrff cyhoeddus unigol dynnu ar y fframwaith pan fydd wedi'i sefydlu. Mae hyn yn arbed amser i brynwyr sy'n rheoli'r broses dendro ac mae'n ddefnydd mwy effeithiol o amser ar gyfer cyflenwyr sy'n ceisio am waith gyda sawl awdurdod contractio. Fel arfer mae fframweithiau yn bethau hirdymor, gan barhau hyd at bedair blynedd, ond dan y diwygiadau newydd, gallant gael eu hymestyn am gyfnodau hirach.
Dull amgen a ddefnyddir gan rai prynwyr cyhoeddus yw marchnad ddeinamig. Mae Deddf Caffael (2023) yn disodli systemau prynu deinamig (DPS) a systemau cymhwyso gydag 'adnodd masnachol' newydd unigol o'r enw marchnad ddeinamig.
Mae'r dull hwn yn gweithredu mewn ffordd debyg i fframweithiau ond yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyflenwyr sy'n gallu ymuno a chyflwyno cynnyrch neu wasanaethau newydd ar unrhyw adeg drwy gydol yr amserlen y cytunwyd arni.
Mae newidiadau i'r ffordd mae fframweithiau'n cael eu rheoli'n golygu eu bod yn fwy deinamig ac yn cynnig marchnadoedd deinamig hyblyg tebyg (system gaffael ddeinamig gynt). Gall contractau gael eu dyfarnu dan Broses Dendro Agored neu Gystadleuol.
Mae'r dull marchnad ddeinamig yn golygu bod gan gyflenwyr fwy o hyblygrwydd pan mae costau chwyddiannol ar ddeunyddiau, neu'r amgylchedd byd-eang yn gorfodi anwadalrwydd. Gellir diweddaru cynigion gan gyflenwyr i adlewyrchu'r hyn y gellir ei ddarparu'n synhwyrol; gelwir hyn yn brisio deinamig.
Mae'n bosib y codir ffi ar gyflenwyr os dyfernir contract iddynt drwy broses marchnad ddeinamig. Ni chodir ffi arnoch hyd nes y dyfernir contract i chi. Mae angen i ffioedd o'r fath gael eu cyfathrebu yn y cyfnod hysbysiad o dendr a gallant fod yn ganran sefydlog o amcanbris gwerth y contract a ddyfarnwyd i'r cyflenwr dan y farchnad ddeinamig.
Cymhariaeth: Fframweithiau a marchnadoedd deinamig⁴
| Fframweithiau (a gyhoeddwyd cyn Chwefror 2025) | Fframweithiau (a gyhoeddwyd cyn Chwefror 2025) | Marchnadoedd Deinamig | |
|---|---|---|---|
| Statws | Ar gau (wedi'r broses dendro) | Agored (drwy gydol yr amserlen y cytunwyd arni) | Agored |
| Cofrestru cyflenwyr | Dim ond ar ddechrau'r broses dendro y gall cyflenwyr gofrestru | Gall cyflenwyr ddechrau ar y broses ar unrhyw adeg drwy gydol y cytundeb fframwaith | Mae hyn yn dod ag agwedd fwy hyblyg; gellir ychwanegu cyflenwyr ar unrhyw adeg yn ystod hyd y prosiect |
| Sicrwydd o ennill contract | Nid yw bod ar fframwaith yn creu sicrwydd o ennill contract | Nid yw bod ar fframwaith yn creu sicrwydd o ennill contract | Unwaith y mae wedi'i gymeradwyo, bydd cyflenwyr sy'n gwneud cynnig am waith drwy'r dull marchnad ddeinamig fwy na thebyg yn ennill contractau |
| Isafswm cyflenwyr | Mae angen o leiaf dau gyflenwr wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo | Mae angen o leiaf dau gyflenwr wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo | Mae angen o leiaf un cyflenwr wedi'i gofrestru a'i gymeradwyo |
AWGRYMIADAU: Peidiwch byth â gor-addo.
Nid yn unig yw cofrestru ar fframwaith yn cynyddu eich tebygoliaeth o ennill contract, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i fodloni a meithrin perthnasoedd gyda chyflenwyr mwy. Gall hyn arwain at ddatblygiad busnes a chyfleoedd i dyfu yn y dyfodol.
⁴ Mae Deddf Caffael (2023) yn disodli systemau prynu deinamig (DPS) a systemau cymhwyso gydag 'adnodd masnachol' newydd unigol o'r enw marchnad ddeinamig.
Cam 2: Byddwch yn weladwy
Cofrestrwch eich busnes
Y cam pwysicaf yw sicrhau bod eich busnes yn weladwy i brynwyr cyhoeddus. Mae dau brif blatfform y dylai cyflenwyr gofrestru arnynt. Bydd y Canllaw hwn yn dangos i chi sut i gofrestru ar y ddau blatfform tendro.
Cyn cofrestru
Byddwch angen sefydlu'r math o fusnes, dyddiad y diwrnod masnachu cyntaf, amcangyfrif o'r trosiant, gwybodaeth gyswllt a chodau a rhifau perthnasol os yw'r busnes wedi cofrestru gyda CThEF, Tŷ'r Cwmnïau, a'i gofrestru ar gyfer TAW (Trosiant blynyddol > £80,000).
Y platfform digidol cyffredin a ddefnyddir yng Nghymru i hysbysebu cyfleoedd ar gyfer contractau yw GwerthwchiGymru. Bydd hyn yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer datblygu busnes newydd a chyfleoedd i dyfu. Dylai busnesau o bob maint sydd wedi'u lleoli yng Nghymru gofrestru gyda GwerthwchiGymru.
Mae'r platfform digidol yn hysbysebu ystod eang o gyfleoedd cefnogi cyflenwr a chyfeirio er mwyn sicrhau eich bod yn cael mynediad at y cymorth a'r cyngor cywir.
Hyd yn oed os ydych chi'n fusnes meicro neu'n fusnes bach a bod cyfleoedd yn y sector cyhoeddus yn newydd i chi, bydd sicrhau eich bod wedi cofrestru ar blatfform GwerthwchiGymru yn golygu eich bod yn dod yn weladwy i brynwyr cyhoeddus ar gyfer Dyfynbris Cyflym, sy'n berthnasol ar gyfer gwariant is neu wariant sy'n is na'r trothwy (£).
Gall gwariant sy'n is na'r trothwy amrywio ychydig yn dibynnu ar yr awdurdod contractio, ond fel arfer mae rhwng £25,000 - £30,000.
Anogir awdurdodau contractio i hysbysebu contractau sydd â gwerth dros £25,000 ar GwerthwchiGymru. Gall yr hysbysiad yn syml ddarparu e-bost cyswllt ar gyfer contractau sy'n is na'r trothwy a chontractau o werth isel (<£25,000). Bydd angen un o'r prosesau tendro wedi'u rheoleiddio ar gontractau gwerth uwch ac mae'n bosib y cewch eich cyfeirio i blatfform digidol arall ar gyfer y broses dendro, megis Bravo Solutions neu E-tender Wales. Does dim angen cofrestru gyda'r platfformau eraill hyn oni bai y cewch eich cyfarwyddo i wneud hynny.
Pan fyddwch yn cofrestru ar GwerthwchiGymru, bydd y system yn gofyn i chi fireinio'r mathau o wasanaethau neu waith y mae eich busnes yn eu darparu. Gwneir hyn drwy ddewis categorïau perthnasol (codau CPV) a darparu gwybodaeth ddisgrifiadol am eich busnes. Drwy ddarparu'r wybodaeth hon, byddwch yn derbyn diweddariadau dyddiol neu wythnosol ar y cyfleoedd mwyaf perthnasol ar gyfer eich busnes.
Mae Busnes Cymru yn cynnig ystod eang o gefnogaeth ac arweiniad i fusnesau newydd AM DDIM yma: busnescymru.llyw.cymru/pynciau-a-chyfarwyddyd/dechrau-busnes/dechrau-a-chynllunio-busnes
AWGRYMIADAU: Dechreuwch yn fach - nid yw contractau cyhoeddus wastad yn y miliynau (£). Mae Dyfynbris Cyflym yn darparu ffordd effeithiol i gyflenwyr elwa o'r cyfleoedd sydd ar gael drwy wariant cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r broses gofrestru ar-lein ar gyfer GwerthwchiGymru wedi'i ariannu'n llawn, ac yn ffordd gyflym a hawdd i'w rhoi ar waith. Cliciwch yma i ddechrau arni: gwerthwchigymru.llyw.cymru
Mae'r gwasanaeth Find a Tender NEWYDD, a adwaenir fel Y Platfform Digidol Canolog, ar gael i bob busnes ei ddefnyddio. Cyfeirir ato weithiau fel cofrestr ganolog.
Mae hwn yn blatfform ledled y DU sy'n hysbysebu cyfleoedd contract ar draws y DU a thu hwnt. Cofrestrwch yn gyntaf am GOV.UK One Login. Bydd hwn yn rhoi cod er mwyn i chi fwrw ymlaen gyda chofrestru ar Y Platfform Digidol Canolog.
Crëwch eich proffil a chofrestrwch wybodaeth amdanoch chi a'ch busnes. Dewiswch ac arbedwch eich chwiliadau, er mwyn eu teilwra a derbyn e-byst hysbysu pan fydd hysbysiadau newydd yn cyfateb i'r chwiliadau hynny.
Er mwyn eich helpu chi i gynllunio, agorwch y ddolen piblinell i gael gweld hyd at 18 mis o gontractau sy'n debygol o ddod yn y dyfodol (tudalen 20 y canllaw).
Trylowyder – Unwaith mae ymatebion tendr wedi eu cyflwyno ar-lein, mae'r Platfform Digidol Canolog yn eich galluogi chi i olrhain cynnydd eich cais, derbyn adborth os nad ydych yn llwyddiannus, a byddwch yn gallu gweld ar-lein i ba sefydliad y dyfarnwyd y contract.
AWGRYM: Ni ddylech fyth dalu i weld cyfleoedd contract y sector cyhoeddus.
Mae'r llywodraethau canolog yn y DU yn darparu platfformau tendro sydd am ddim ac yn hawdd cael mynediad atynt. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y Platfform Digidol Canolog yma: gov.uk/government/publications/procurement-act-2023-short-guides/central-digital-platform-factsheet-html
Mae rhagor o wybodaeth gan Busnes Cymru ynghylch tendro ar gael yma: busnescymru.llyw.cymru/pynciau-a-chyfarwyddyd/tendro-ar-gadwyn-gyflenwi/gwerthwchigymru-gwerthu-ir-sector-cyhoeddus
Cam 3: Arddangosfeydd cyflenwyr a digwyddiadau cwrdd â'r cyflenwr
Mynychwch gynifer ag y gallwch
Ffordd arall o wneud i'ch busnes fod yn weladwy yw drwy ei hyrwyddo mewn digwyddiadau rhwydweithio allweddol. Mae'n bwysig cadw llygad am ddigwyddiadau 'cwrdd â'r prynwr' a digwyddiadau 'Arddangosfeydd Cyflenwyr' rhanbarthol.
Mae'n bosib y bydd y rhain yn cael eu hysbysebu'n uniongyrchol dros e-bost neu eu bod wedi'u hysbysebu ar y dudalennau hafan GwerthwchiGymru a Busnes Cymru.
Nid yw'r digwyddiadau hyn wedi'u bwriadu i fod yn sianel gyfathrebu gwybodaeth un ffordd. Maent yn dod â buddion enfawr ar gyfer prynwyr a chyflenwyr.
Mae digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr yn gyfle gwerthfawr i ddysgu am ffyrdd o dyfu eich busnes, meithrin cyd-berthnasoedd a chysylltu gyda gweithwyr proffesiynol ym maes caffael cyhoeddus ac arweinwyr busnes eraill. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle pwysig a weithiau unigryw i rannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch busnes.
Cofiwch fod angen i brynwyr cyhoeddus ddeall eich busnes, yn lle rydych chi wedi'ch lleoli a'ch pwynt gwerthu unigryw. Mae yna nifer gynyddol o ddigwyddiadau cyflenwi ar y gweill. Cynlluniwch sut allwch chi lwyddo i fynychu tra'n rhedeg y busnes ar yr un pryd.
Mae'n bwysig sylweddoli bod tendrau a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru, a'r Platfform Digidol Canolog yn weledol i bawb. Gall hyn gynnwys cyflenwyr rhyngwladol sy'n gymwys i ymgeisio yn y broses dendro. Yn yr un modd, drwy gofrestru, byddwch chithau hefyd yn gallu gweld cyfleoedd contractio byd-eang.
Gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau cyflenwyr yma: wales.business-events.org.uk/cy/ ac ar waelod y dudalen yma: gwerthwchigymru.llyw.cymru. Mae'r platfform GwerthwchiGymru hefyd yn hysbysebu digwyddiadau cwrdd â'r prynwr preifat, a digwyddiadau dan arweiniad y trydydd sector.
Cam 4: Buddsoddwch yn eich busnes
Buddsoddwch yn eich busnes a dewch i adnabod eich cadwyn gyflenwi
Mae'n bwysig meithrin credadwyedd yn eich busnes sy'n ei wneud yn ddeniadol i'r prynwr cyhoeddus, ac sy'n cydymffurfio â'r gofynion. Cadwch unrhyw fanylion cofrestru ar lein wedi'u diweddaru. Mae'r un peth yn wir ar gyfer gwefannau busnesau. Diweddarwch y cynnwys a sicrhau ei fod yn apelgar.
Gall achrediad fod yn bwysig yn dibynnu ar y sector diwydiant rydych yn gweithredu ynddo, a gall fod yn amod i'r contract eich bod yn dal ardystiad arbennig.
Gall achrediad fod yn fusnes costus, felly cofiwch ddefnyddio'r cyfleoedd i gwrdd â'r prynwyr ac i siarad gyda chynghorwyr Busnes Cymru ynghylch beth yw'r gofynion tebygol ar gyfer eich busnes er mwyn iddo gydymffurfio.
Mae pob busnes sy'n ennill contractau cyhoeddus angen yswiriant ar gyfer diwydrwydd dyladwy. Ystyriwch y canlynol wrth feithrin credadwyedd yn eich busnes:
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gyda chyfyngiad o £5 miliwn o leiaf mewn perthynas ag unrhyw un neu gyfres o hawliadau,
- Yswiriant atebolrwydd cyflogwyr gyda chyfyngiad o £5 miliwn o leiaf mewn perthynas ag unrhyw un neu gyfres o hawliadau,
- Yswiriant indemniad proffesiynol gyda chyfyngiad o £5 miliwn o leiaf mewn perthynas ag unrhyw hawliad neu gyfres o hawliadau.
- Yswiriant atebolrwydd seiber gyda chyfyngiad o £1 miliwn o leiaf mewn perthynas ag unrhyw hawliad neu gyfres o hawliadau.
AWGRYM: Os ydych chi'n cyflogi ymgynghorwyr neu'n is-gontractio unrhyw ran o'r gweithiau arfaethedig, rhaid iddynt hwythau hefyd gael y sicrwydd yswiriant priodol.
Rheoli Cadwyn Gyflenwi – gwnewch eich gwiriadau diwydrwydd dyladwy eich hun. Os ydym am aros am argyfwng, yna gall fod yn rhy hwyr i'ch busnes. Pryd bynnag rydym yn wynebu argyfwng cenedlaethol neu fyd-eang megis gwrthdaro gwleidyddol, yr argyfwng ariannol yn 2008, y 'Sgandal Cig Ceffyl' yn 2013, a chyfnod pandemig Covid-19 yn 2020, mae yna wersi pwysig i'w dysgu.
Felly, mae'n hanfodol meithrin gwytnwch yn eich busnes ac yn eich cadwyn gyflenwi. Datblygu gweithrediadau ar raddfa fwy yw un o'r rhwystrau mwyaf ar gyfer busnesau llai sy'n ennill contractau cyhoeddus, felly meddyliwch ymlaen ac ystyriwch sut fyddwch yn datblygu capasiti drwy'r gadwyn gyflenwi.
Byddwch yn arweinydd busnes cyfrifol. Sicrhewch eich bod yn gwybod pwy sy'n cyflenwi eich busnes, h.y., cyflenwr eich cyflenwr ac ati. Mae cael gwelededd o'r dechrau i'r diwedd nawr yn elfen hanfodol o reoli busnes yn llwyddiannus. Ydych chi'n cael eich cyflenwadau'n fyd-eang neu'n lleol? Ystyriwch sut allwch ddod o hyd i gyflenwadau ar gyfer eich busnes mewn ffordd fwy gyfrifol.
Pan rydych yn cyflwyno cynnig, byddwch yn barod i ymateb i gwestiynau ynghylch eich cadwyn gyflenwi. Dim ond mor gryf â'ch cyflenwr gwanaf yw eich busnes. Pan mae cyflenwyr yn eich siomi, gall hyn niweidio enw da eich busnes, felly dewiswch eich cyflenwyr a'ch partneriaid busnes yn ofalus.
Cewch fwy o wybodaeth ynghylch cadwyn gyflenwi yma: busnescymru.llyw.cymru/cymorth-cadwyn-gyflenwi
Sero Net – Mae caffael cyhoeddus yn un o'r cyfranwyr mwyaf at nwyon tŷ gwydr drwy ei gadwyn gyflenwi sy'n golygu y dylai busnesau mawr a bach fod yn canolbwyntio eu hymdrechion ar leihau neu liniaru'r defnydd o garbon mewn gweithrediadau busnes a'r gadwyn gyflenwi.
Ar gyfer contractau dros y trothwy (£) disgwylir i gyflenwyr gyflwyno Cynllun Lleihau Carbon (CRP).
Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau yma: busnescymru.llyw.cymru/newyddion-a-blog/datgarboneiddio-busnesau-llyfryn.
Ers 2021, fel rhan o agenda foesegol ehangach, mae Maint Cymru hefyd yn gyrru caffael sy'n rhydd rhag dadgoedwigo yng Nghymru - sizeofwales.org.uk/news/senedd-2021-manifestos/
Mae RHAN 2 o'r Canllaw (t.18) yn cynnwys arweiniad ar fewnosod llesiant cymdeithasol ac mae'n cynnwys arweiniad ar fewnosod gwaith teg, cynhwysiant, gwrth-hiliaeth a lliniaru caethwasiaeth fodern.
Gallwch gael cefnogaeth ac arweiniad gan Busnes Cymru yma: busnescymru.llyw.cymru/tyfu-busnes
Mae rhai enghreifftiau o gynlluniau achredu ar gael yma: busnescymru.llyw.cymru/twristiaeth/cynlluniau-achredu-gwobrwyo-amgylchedd
Diwygiadau caffael sy'n effeithio ar fusnesau bach
Cyfnod rhybudd pibell gyflenwi o 18 mis – anogir awdurdodau contractio yng Nghymru i hysbysebu'r holl gyfleoedd am gontractau ar y platfform GwerthwchiGymru - gwerthwchigymru.llyw.cymru. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar ddull a chapasiti'r tîm prynu. Fodd bynnag, mae'n orfodol i awdurdodau contractio hysbysebu (ei wneud yn gyhoeddus) y biblinell o gontractau (sydd â gwerth o dros £2 miliwn) a all ddigwydd yn ystod y cyfnod o 18 mis nesaf.
Mwy o Ymgysylltu gan Gyflenwyr - Mae bob amser yn werth mynychu'r digwyddiadau 'cwrdd â'r prynwr' neu ddiwrnodau ymgysylltu â chyflenwyr, gan fod y digwyddiadau hyn yn cynnig cymaint yn fwy na chwrdd â'r prynwr yn unig! Byddwch yn ennill llawer mwy o eglurder ynghylch beth a ddisgwylir o safbwynt cynyddu eich tebygolrwydd o ennill y contract. Yr agosaf mae'n dod at y broses dendro gystadleuol, dylech dderbyn gwybodaeth ynghylch y canran y meini prawf gwerthuso.
Cadw gwerthoedd contract ar gyfer busnesau bach – dan ddeddfwriaeth caffael newydd, caiff awdurdodau contractio yn y DU eu hannog i gadw busnes ar gyfer BBaChau a VCSEau. Mae hyn yn sicrhau bod cyfran o'r gwariant yn fwy tebygol o gael ei hailfuddsoddi yn yr economi fusnes leol. Mae cael eich dyfarnu â chontract yn golygu eich bod yn gallu cyflogi pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Darperir rhagor o ganllawiau ynghylch hynny yn Rhan 2 o'r canllawiau.
Meini Prawf Gwerthuso - Bydd eich cais yn cael ei werthuso gan yr awdurdodau contractio yn ôl sawl maen prawf, gan gynnwys ansawdd, dibynadwyedd, gwerth cymdeithasol a chost. Bydd pob un o'r meini prawf wedi'w pwysoli yn ôl canran. Fel arfer bydd hyn yn cael ei gyfathrebu mewn digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr.
Telerau Talu – rhaid i'r holl awdurdodau sy'n cynnig contract dalu anfonebau cyn pen 30 diwrnod. Nodwch, maent hefyd yn disgwyl i chi a'ch busnes fabwysiadu'r un polisi ar gyfer eich cyflenwyr. Gallwch ddisgwyl i gael eich cwestiynu ynghylch hyn yn y broses dendro os nad ydych eisoes wedi'i grybwyll yn eich cynnig. Mae llif arian yn hanfodol ar gyfer datblygu busnes mewn ffordd gynaliadwy.
Yn ystod y broses dendro gystadleuol, ni ddylai cynigion gael eu dyfarnu ar sail y gost isaf bellach - neu ras i'r gwaelod fel y disgrifiwyd gan un cyflenwr - cafodd hyn ei alw'n Dendr Mwyaf Manteisiol yn Economaidd (MEAT yn Saesneg). Ar gyfer tendrau sydd wedi'u hysbysebu ar ôl 24ain Chwefror 2025, bydd contractau'n cael eu gwerthuso ar y Tendr Mwyaf Manteisiol (MAT yn Saesneg). Mae hyn yn awgrymu y dylai prynwyr fod yn dyfarnu contractau yn seiliedig ar yr un sy'n ychwanegu'r gwerth mwyaf ac nid yn seiliedig ar y rhataf neu'r gost isaf.
Mae rhestr wahardd yn dangos y cyflenwyr a ddylai gael eu heithrio rhag y broses dendro - Peidiwch â bod yn ddrwg - caiff y rhestr o'r cyflenwyr hynny a ddylai gael eu heithrio rhag y broses dendro ei rhannu gyda'r holl gyrff cyhoeddus. Gall hyn fod oherwydd llygredigaeth, twyll neu gamymddwyn. Gall awdurdodau contractio unigol gymryd y penderfyniad i eithrio'r cyflenwyr hyn.
Dau brif blatfform ar gyfer cyhoeddi cyfleoedd caffael yng Nghymru
- llyw.cymru/piblinell-gaffael-ar-gyfer-sector-cyhoeddus-cymru
- gwerthwchigymru.llyw.cymru/helpandresources/welshconstruction/localauthoritiespipelinedocuments/
Cam 5: Ysgrifennu cynigion
Awgrymiadau ar ysgrifennu cynigion⁵
Gall y canllawiau canlynol ymddangos yn amlwg, ond yn aml iawn mae'r pwyntiau hyn yn cael eu methu, ac mae'n bwysig dilyn y cyngor.
Chi sydd agosaf at eich busnes, a dim ond yn seiliedig ar gynnwys ysgrifenedig mae modd gwerthuso cynnig.
- Mae ysgrifennu cynigion da yn cymryd amser ac yn aml rhaid gwneud sawl drafft.
- Mae'r hysbysiadau piblinell a gyhoeddwyd yn eich helpu i gynllunio.
- Cadwch at y nifer geiriau (heb fod yn uwch nac yn is).
- Ail-ddarllenwch y cwestiwn a'i ateb.
- Sicrhewch fod pob honiad yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth (dylech gynnwys ffeithiau a ffigurau). Eglurwch PAM a SUT mae eich busnes yn sefyll allan?
- Gofynnwch i rywun arall ei wirio cyn cyflwyno. Gallech ofyn i rywun o'r tu allan wirio eich cais cyn i chi ei gyflwyno.
Eglurodd RHAN 1 o'r Canllaw hwn sut i ddod o hyd i gontractau cyhoeddus a gwneud cais amdanynt, gan wella ein dealltwriaeth o sut mae caffael yn y sector cyhoeddus yn gweithio, a sut mae'n gallu cael effaith sylweddol ar eich cynlluniau i dyfu eich busnes.
Mae RHAN 2 o'r Canllaw yn egluro sut i wella ysgrifennu cynigion er mwyn cael gwell cyfle o ennill contractau tra'n deall beth a olygir gan gaffael cymdeithasol gyfrifol yng Nghymru.
⁵ Awgrymiadau ar ysgrifennu cynigion.
Rhan 2: Caffael cymdeithasol gyfrifol
Blaenoriaethau strategol cenedlaethol yng Nghymru
Eglurodd RHAN 1 o'r Canllaw hwn sut i ddod o hyd i gontractau cyhoeddus a gwneud cais amdanynt, gan wella ein dealltwriaeth o sut mae caffael yn y sector cyhoeddus yn gweithio, a sut mae'n gallu cael effaith sylweddol ar eich cynlluniau i dyfu eich busnes.
Mae RHAN 2 o'r Canllaw yn egluro sut i wella ysgrifennu cynigion er mwyn cael gwell cyfle o ennill contractau tra'n deall beth a olygir gan gaffael cymdeithasol gyfrifol yng Nghymru.
Cam 6: Cyfrifoldeb cymdeithasol ar gyfer canlyniadau gwell
Caffael cymdeithasol gyfrifol
Yng Nghymru, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau contractio gyflawni caffael cymdeithasol gyfrifol. Er mwyn egluro hyn, caiff y canllaw i gyflenwyr ei seilio ar ddau ddarn o ddeddfwriaeth. Gellir dod o hyd i ddolenni gwe gyda rhagor o wybodaeth yn y troednodyn:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015⁶
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023⁷
Mae'r strategaeth gaffael ar gyfer Cymru⁸ yn gysylltiedig â datblygiad cynaliadwy a saith nod llesiant cenedlaethol wedi'u dylunio i fod o fudd i Genedlaethau'r Dyfodol. Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei datblygu o ymgyrch genedlaethol a sgwrs fawr ynghylch 'y Gymru rydym ni ei heisiau'.
Mae Ffigur 1 yn egluro mewn ffordd syml yr hyn a olygir gan lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r pileri hyn o ddatblygiad cynaliadwy weithiau'n cael eu disgrifio gan ddefnyddio termau eraill, gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol. Yng Nghymru, rydym yn cyfeirio at hyn gan amlaf fel Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.
Mae caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddull pwerus o sicrhau newid parhaus i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol er lles Cymru.
Ffigur 1: Pedwar piler datblygiad cynaliadwy
| Piler | Disgrifiad |
|---|---|
| Llesiant Cymdeithasol | Yn ymwneud â'r effaith gymdeithasol (pobl, pobl, pobl) ar weithwyr a sefydliadau'r gadwyn gyflenwi. |
| Llesiant Economaidd | Yn canolbwyntio ar dwf economaidd hirdymor. Mae hefyd yn gysylltiedig ag iechyd ariannol unigolion a chartrefi. |
| Llesiant Amgylcheddol | Yn gysylltiedig â mentrau newid hinsawdd, sero net neu garbon isel. Mae hefyd yn golygu lleihau gwastraff. |
| Llesiant Diwylliannol | Yn ymwneud â gwneud y gorau o'n treftadaeth, amgueddfeydd, llefydd o ddiddordeb hanesyddol ac amddiffyn a thyfu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg. |
Yng Nghymru, mae awdurdodau contractio yn gwario oddeutu £11 biliwn yn flynyddol ar nwyddau a gwasanaethau ar gyfer ysbytai, ysgolion, trafnidiaeth, amddiffyn, seilwaith a llawer mwy. Y nod yw sicrhau bod yr arian hwn yn darparu cymaint o fudd o ran llesiant ag sy'n bosib yng Nghymru. Yn y DU, mae'r ffigwr hwnnw dros £400 biliwn yn flynyddol.
Bydd diwygiadau caffael newydd yn trawsnewid y ffordd mae gwariant cyhoeddus yn cael ei reoli er mwyn sicrhau bod pob punt sy'n cael ei gwario yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol, a phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru⁹.
Fel y crybwyllwyd yn Rhan 1 o'r Canllaw, mae Ardal wedi'i gyflwyno fel y cytundeb cydweithredol newydd, dan arweiniad Cyngor Caerdydd ac mewn partneriaeth â Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Mae Ardal wedi ymrwymo'n llawn i ddarparu caffael cymdeithasol gyfrifol. Pwrpas cyffredinol caffael cymdeithasol gyfrifol yw fel a ganlyn¹⁰:
Er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal leol drwy ymgymryd â chaffael cyhoeddus yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae Datblygiad Cynaliadwy yn golygu bod rhaid i'r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb gyfaddawdu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Saith Nod Llesiant y Ddeddf Llesiant¹²
| Nod | Disgrifiad |
|---|---|
| Cymru Lewyrchus | Cymdeithas arloesol a chynhyrchiol sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus a hyddysg mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd o ran cyflogaeth. |
| Cymru Wydn | Cenedl sy'n diogelu ac yn gwella ei hamgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau sy'n cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol, a'r gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd. |
| Cymru Iachach | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl ar eu gorau a lle mae dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol yn cael eu deall. |
| Cymru sy'n Fwy Cyfartal | Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu amgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau cymdeithasol economaidd). |
| Cymru o Gymunedau Cydlynus | Apelgar, diogel, hyfyw, sydd â chysylltiadau da. Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan mae cyrff cyhoeddus yn gweithio'n agos gyda mentrau cymorth cymunedol yn eu hardaloedd, yn arbennig felly mewn perthynas â phobl fregus ac sydd wedi'u hynysu a dylai hyn barhau y tu hwnt i'r pandemig er mwyn helpu cysylltu cymunedau Cymru. |
| Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu | Cymdeithas sy'n cefnogi ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth, a'r Gymraeg, ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
| Cymru sy'n Gyfrifol y Fyd-eang | Cenedl sydd, pan mae'n gwneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn cymryd i ystyriaeth p'un a allai gwneud rhywbeth o'r fath gael cyfraniad positif at lesiant byd-eang. |
Mae'n ddeg mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ddod i rym; yn wreiddiol cafodd ei hysbrydoli gan ymgyrch a sgwrs genedlaethol ynghylch¹¹ Y Gymru a Garem erbyn 2050.
Mae'r Ddeddf Llesiant wedi trawsnewid y ffordd mae prynwyr o'r sector cyhoeddus yn defnyddio'r gwariant blynyddol er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae yna 56 o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys yr HOLL gynghorau neu awdurdodau sy'n contractio, y gwasanaethau brys, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, parciau cenedlaethol, cymdeithasau chwaraeon, y cyngor celfyddydau a byrddau iechyd yng Nghymru. Yn ogystal, rhaid i Brifddinas Ranbarth Caerdydd, Gofal Cymdeithasol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru fewnosod egwyddorion y Ddeddf Llesiant yn rhan o'u caffael. Rhaid i'r sefydliadau hyn hefyd adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed yn eu rhanbarth lleol.
AWGRYM: Wrth baratoi eich cynnig, mae'n bwysig arddangos y gallu i gymhwyso rhai neu'r cyfan o'r Ffyrdd o Weithio hyn drwy'r contract. Mae gweithio yn yr hirdymor ac atal yn ymddangos y ffyrdd mwyaf heriol i'w rhoi ar waith yn ymarferol.
Y 7 Nod Cenedlaethol; mae 5 yn seiliedig ar 5 Ffordd o Weithio
| Ffordd o weithio | Disgrifiad |
|---|---|
| Hirdymor | Cydbwyso anghenion yn y tymor byr gydag anghenion i ddiogelu'r gallu i fodloni anghenion hirdymor hefyd. |
| Atal | Gweithredu er mwyn atal problemau rhag digwydd neu waethygu. |
| Integreiddio | Ystyried sut allai amcanion llesiant awdurdod contractio gael effaith ar y nodau llesiant. |
| Cydweithredu | Gweithredu mewn cydweithrediad gyda rhywun arall er mwyn bodloni'r amcanion llesiant. |
| Cynnwys | Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant. |
AWGRYM: Fel cyflenwr, os yw eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn cynnig camau gweithredu sy'n ymyrryd, yn trawsnewid, neu'n ataliol, yna dylech wneud hyn yn eglur wrth ysgrifennu eich cynnig.
Mae Deddf Caffael (PA23) yn galluogi Cymru i gynnal mwy o ffocws ar fewnosod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llawn.
Mae pedwar colofn Datblygiad Cynaliadwy yn seiliedig ar y 5 Ffordd o Weithio; mae'r rhain yn hanfodol ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ôl y Ddeddf Llesiant¹³.
Mae egwyddorion y Ddeddf Llesiant yn ein helpu ni i ddeall y pwrpas cenedlaethol yng Nghymru, ond er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut all eich busnes gyfrannu at y pwrpas hwnnw, cyfeiriwch at amcanion yr Economi Sylfaenol¹⁴. Mae dull yr Economi Sylfaenol yn cyfeirio at sectorau'r diwydiant sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol sy'n cadw Cymru yn fwy gwydn fel cenedl. Er enghraifft, mae un ym mhob tair punt (£) yn cael ei gwario mewn busnesau o'r Economi Sylfaenol.
Y nod yng Nghymru yw tyfu sectorau diwydiant megis gofal cymdeithasol, ynni, cyfleustodau, bwyd, iechyd, tai, adeiladu, technoleg, trafnidiaeth, twristiaeth a manwerthu ar y stryd fawr.
Mae'r rhain yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol a fydd yn gwella iechyd, cyfoeth ac amgylchedd dinasyddion sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Anogir awdurdodau contractio a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod¹⁵, anghenion y gymuned leol a chyfleoedd i fusnesau lleol dyfu yn cael eu cefnogi'n well drwy agwedd fwy cyfrifol at gaffael.
Cydnabyddir dull yr Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru¹⁶ fel rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer adeiladu economi wydn.
Mae'n ofynnol i brynwyr a chyflenwyr cyhoeddus yng Nghymru ystyried ar y cyd y pum amcan hyn fel a ganlyn:
- Creu swyddi, mwy ohonynt, rhai gwell a rhai gwyrddach – mae'n golygu hyrwyddo gwaith teg, tâl da, cynrychiolaeth, diogelwch a dylunio llwybrau gyrfa.
- Gwella ansawdd byw mewn cartrefi – mae hyn yn gofyn am godi cyflogau, gwella fforddiadwyedd nwyddau a gwasanaethau hanfodol, a gwella iechyd a lles.
- "Gwnaed yng Nghymru" – meithrin cadwyni cyflenwi lleol, cadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru, ac adeiladu sylfaen gyflenwi wydn a chynhyrchiol.
- Cyflawni net sero - yn gofyn i fusnesau ddod o hyd i ynni glân, adnewyddadwy a hyrwyddo arferion cynhyrchu a defnyddio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
- Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol – bydd hyn yn gwella nwyddau a gwasanaethau GE, adeiladu seilwaith gwydn, ac annog prosiectau cymunedol.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch dull yr Economi Sylfaenol yma: busnescymru.llyw.cymru/yr-economi-sylfaenol
⁶ Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. ⁷ Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. ⁸ Mae'r strategaeth gaffael ar gyfer Cymru yn gysylltiedig â datblygiad cynaliadwy a saith nod llesiant cenedlaethol. ⁹ Bydd diwygiadau caffael newydd yn trawsnewid y ffordd mae gwariant cyhoeddus yn cael ei reoli. ¹⁰ Pwrpas cyffredinol caffael cymdeithasol gyfrifol. ¹¹ Y Gymru a Garem erbyn 2050. ¹² Saith Nod Llesiant y Ddeddf Llesiant. ¹³ Mae pedwar colofn Datblygiad Cynaliadwy yn seiliedig ar y 5 Ffordd o Weithio. ¹⁴ Amcanion yr Economi Sylfaenol. ¹⁵ Anogir awdurdodau contractio a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod anghenion y gymuned leol yn cael eu cefnogi. ¹⁶ Dull yr Economi Gylchol a gydnabyddir gan Lywodraeth Cymru.
Datblygiad cynaliadwy yng Nghymru
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn dod ag ymdeimlad o ddyletswydd i wella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol.
Bydd y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn newid sut mae gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei ddyrannu, a'r ffyrdd mae nwyddau a gwasanaethau'n cael eu caffael drwy gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n orfodol i gyrff cyhoeddus gyflawni'r amcanion a amlinellir gan Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd y Canllaw hwn yn ymhelaethu ar y cysyniadau o Waith Teg a Phartneriaeth Gymdeithasol, gyda ffocws nodedig ar ddatblygu 'Cymru Fwy Ffyniannus', a 'Chymru Fwy Cyfartal'.
Mae yna amser i baratoi wrth i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023 ddod i rym yn 2026 (dyddiad i'w gadarnhau), ond mae rhai newidiadau sy'n dod yn weithredol yn raddol y mae angen i gyflenwyr gymryd sylw ohonynt yn 2025 fel y dynodir yn y Canllaw hwn. Mae Gwaith Teg yn greiddiol iddo a bydd y canllaw hwn yn egluro mewn mwy o fanylder beth a olygir gyda Gwaith Teg.
Er bod cynnydd sylweddol ar effaith gymdeithasol yng Nghymru oherwydd y Ddeddf Llesiant, mae Cymru yn parhau i wynebu heriau hirsefydledig nawr ac yn y dyfodol. Mae'r heriau mawr hyn yn cynnwys newid hinsawdd, tlodi, iechyd a llesiant a gweithgaredd economaidd.
Cyflwynwyd adolygiad pum mlynedd yn nigwyddiad Uwch-gynhadledd Gweithredu dros Genedlaethau'r Dyfodol ym mis Ebrill 2025, gyda phwyslais mawr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol¹⁸ bod angen i ni i gyd weithredu ar frys er mwyn:
i. gwarchod yr amgylchedd, ii. mynd i'r afael â thlodi, ac iii. atal salwch
Dylai cyflenwyr fod yn ymwybodol o ddull y 'bartneriaeth gymdeithasol' a fydd angen mwy o ymgysylltu a chraffu gydag undebau llafur, cyflogwyr a sefydliadau drwy ddulliau arloesol a thrafodaeth agored.
Bydd yn golygu newidiadau i'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu gwariant cyhoeddus a'r ffordd mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu caffael.
Mae'r Ddeddfwriaeth Partneriaeth Gymdeithasol yn seiliedig ar 4 Prif Egwyddor.
| 4 Prif Egwyddor | Perthnasedd i Gyflenwyr | Sgôr Perthnasedd |
|---|---|---|
| The Social Partnership Council (SPC) | Bydd aelodaeth o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn cynnwys 9 cyflogwr a 9 gweithiwr o amrywiaeth o sectorau diwydiant | Canolig |
| The Social Partnership Duty (SPD) | Yn gysylltiedig â rhoi'r saith Nod Llesiant ar waith ac alinio gyda hwy | Uchel |
| Fair Work | Rhaid i gyflenwyr gymryd cyfrifoldeb llawn am sicrhau Gwaith Teg nid yn unig yn eu sefydliad eu hunain, ond ar draws y gadwyn gyflenwi. | Uchel Iawn |
| Socially Responsible Procurement | Mae hwn yn ofyniad o ran partneriaeth rhwng y corff contractio i ddyfarnu a'r cyflenwr i gyflawni mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfrifol. | Uchel |
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol:
"Ni fu erioed fwy o angen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd Cymru'n feiddgar pan ymrwymodd i lesiant cenedlaethau'r dyfodol 10 mlynedd yn ôl ac rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn teimlo'n falch o'r gyfraith arloesol hon. Ond mae Cymru'n dal i wynebu heriau sy'n profi bod angen newid mwy a chyflymach, ac mae angen i bawb deimlo bod eu bywydau'n well ac y byddant yn parhau i fod yn well"¹⁹.
¹⁸ Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Uwch-gynhadledd Gweithredu dros Genedlaethau'r Dyfodol, Ebrill 2025. ¹⁹ Dyfyniad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Gwaith teg
Mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru enw da hirsefydledig dros gyflawni buddion cymunedol eithriadol drwy gontractau mewn gwaith adeiladu, iechyd a chategorïau gwariant eraill.
Mae hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i gontractwyr llwyddiannus gyflawni gwerth ychwanegol (budd i'r gymuned) a all gynnwys cynnig cyfleoedd cyflogaeth i gymunedau bregus, prentisiaethau a lleoliadau gwaith i raddedigion.
Mae Gwaith Teg yn golygu trin eich gweithwyr gyda pharch, yn deg a heb unrhyw wahaniaethu. Dylai gweithwyr gael eu gwobrwyo'n deg, eu gwrando arnynt a'u cynrychioli, teimlo'n ddiogel yn eu swyddi a bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd gwaith iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu.
Gellir dod o hyd i Ganllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwaith Teg yma: llyw.cymru/canllaw-i-waith-teg
Caethwasiaeth Fodern - mae nifer yr atgyfeiriadau o achosion o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru a'r DU yn ehangach ar ei uchaf erioed. Yn 2024, cafwyd 563 o atgyfeiriadau yng Nghymru yn unig, a 56% ohonynt yn blant. Roedd yr achosion yr adroddwyd arnynt fwyaf yn cynnwys ecsbloetio troseddol, ecsbloetio rhywiol ac ecsbloetio llafur. Fel cyflenwr yng Nghymru, mae'n bwysig gwneud yr holl weithwyr yn ymwybodol o'r risgiau. Ceisiwch sicrhau eich bod yn defnyddio asiantaethau dibynadwy a dylech fod yn gwybod beth yw eu ffyrdd o weithio. Datblygu datganiad ysgrifenedig neu bolisi y mae pob gweithiwr yn cyfeirio ato.
Rhaid i bob sefydliad sydd â throsiant o £36 miliwn neu fwy baratoi datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Gellir dod o hyd i fwy am gaethwasiaeth fodern yma: llyw.cymru/datganiad-caethwasiaeth-fodern-llywodraeth-cymru
Gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu – mae'r camau y gall eich sefydliad eu cymryd yn cynnwys hyfforddiant gorfodol ar ddeall rhagfarn ddiarwybod, hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Sicrhau bod unrhyw recriwtio'n deg a heb unrhyw ragfarn.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – mae'n bosib y cynghorir busnesau bach a chanolig i benodi hyrwyddwr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y sefydliad neu geisio arweiniad proffesiynol.
Mae Busnes Cymru yn cynnig arweiniad strategol yma: llyw.cymru/cynllunio-strategaeth-cydraddoldeb
Un cam pwysig y gall cyflenwyr ei gymryd er mwyn datblygu credadwyedd a mynd i'r afael â'r materion hyn yw ymrwymo i'r Cod Ymddygiad – am fanylion llawn ac arweiniad: llyw.cymru/cyflogaeth-foesegol-mewn-cadwyni-cyflenwi-cod-ymarfer
Mae'n bosib y bydd cyflenwyr yn dymuno llofnodi'r Addewid Cydraddoldeb; mae hyn yn rhoi arwydd clir i randdeiliaid mewnol ac allanol eich bod chi a'ch busnes yn rhagweithiol ac wedi ymrwymo i fewnosod cynhwysiant, tegwch ac amrywiaeth yn y sefydliad. Gellir gwneud cais am yr un gwerthoedd ar draws y gadwyn gyflenwi.
Cyflog Byw Cenedlaethol – mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr i ystyried talu cyflog sy'n adlewyrchu costau byw ac sy'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu, o 1af Ebrill 2025, bod gweithwyr yn ennill £2,262 yn fwy y flwyddyn nag ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae'r Sefydliad Cyflog Byw Cenedlaethol yn egluro'r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, gyda'r olaf yn cynnig y tâl uchaf fesul awr.
Ceir rhagor o wybodaeth yma: livingwage.wales/real-living-wage-increases-in-wales/
Enghraifft o Achos
Mewn ymateb i gostau tai cynyddol, chwyddiant costau bwyd a chynnydd mewn costau byw cyffredinol, mae Cyngor Caerdydd yn talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol i'w weithwyr. Mae'r Cyngor yn credu bod talu Cyflog Byw i weithwyr yn dangos i'r gweithiwr yr ymrwymiad gwirioneddol sydd i arferion gwaith gwell.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw'r cyntaf i ennill gwobr nodedig sy'n cydnabod y modd y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod yn gyflogwr dewisol a hyrwyddo gwaith a bywyd gwaith gwell. Ceisiodd y cyngor ddod yn yrfa o ddewis yn hytrach nag yn swydd roedd pobl yn digwydd taro arni.
Mae Gorsaf Fysiau Merthyr wedi newid o nwy neu danwydd ffosil i ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn unig. Llwyddodd yr orsaf fysiau i gyflawni 100% o ddargyfeirio gwastraff, a lleihaodd garbon sy'n deillio o waith adeiladu o 100%. Gofynnir i is-gontractwyr gynyddu'r gwariant gyda busnesau lleol a gyrru cyflogaeth y bobl leol.
Enghraifft o Achos
Chwaraeon Cymru yn symud i Fframwaith Cynhwysiant. They encouraged a culture of continuous improvement both in the organisation and that of their partners.
sport.wales/partners/governance/moving-to-inclusion-framework/
Mesurau ychwanegol er mwyn mewnosod llesiant cymdeithasol
Mae TUC Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro i gael gwared ar dâl isel, contractau dim oriau ac anghyfartaledd yn ein gweithlu. Maent yn cynnig bargeinio ar y cyd er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr a rhoi diwedd ar arferion anghyfreithlon.
Gallwch ddysgu mwy yma: Gwneud Cymru'n Wlad Gwaith Teg | TUC
Er mwyn eich helpu i feithrin eich deialog ar gyfer ysgrifennu cynigion ac er mwyn deall y meini prawf gwerthuso uwchben cost, ansawdd a dibynadwyedd, mae'r tabl isod yn dangos sut mae'r mentrau hyn yn gorgyffwrdd ac yn gweithio gyda'i gilydd.
Sut mae'r ddeddfwriaeth yn gorgyffwrdd
| Haen | Cynnwys |
|---|---|
| Deddf Llesiant | Cymru Gyfartal; Cymru Wydn; Cymru Lewyrchus (gwaith gweddus) |
| Amcanion yr Economi Sylfaenol | Cynyddu ansawdd bywyd yn y cartref – mae hyn yn gofyn am godi cyflogau, gwella fforddiadwyedd nwyddau a gwasanaethau hanfodol, a gwella iechyd a llesiant. Creu swyddi, mwy ohonynt, rhai gwell a rhai gwyrddach – mae hyn yn golygu hyrwyddo gwaith teg, tâl da, cynrychiolaeth, diogelwch a dylunio llwybrau gyrfa. Annog arbrofi cydweithredol ac arloesol – bydd hyn yn gwella nwyddau a gwasanaethau GE, adeiladu seilwaith gwydn, ac annog prosiectau cymunedol. Cyflawni sero net - mae hyn yn gofyn i fusnesau ddod o hyd i ynni glân, adnewyddadwy a hyrwyddo arferion cynhyrchu a defnyddio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. "Gwnaed yng Nghymru" – meithrin cadwyni cyflenwi lleol, cadw pobl i fyw a gweithio yng Nghymru, ac adeiladu sylfaen gyflenwi gydnerth a chynhyrchiol. |
| Partneriaeth Gymdeithasol | Gwaith Teg / Dim gwahaniaethu / Gwrth-hiliaeth / Caethwasiaeth Fodern |
| Datblygiad Cynaliadwy | Cynaliadwyedd Cymdeithasol, Economaidd, Amgylcheddol, Diwylliannol |
Yn bwysig, mae mewnosod y ffyrdd hyn o weithio yn golygu mwy na dim ond ennill contractau cyhoeddus. Mae'r rhain yn werthoedd hanfodol a fydd yn gwella enw da eich busnes yn sylweddol, gan arwain at:
- Mwy o deyrngarwch a boddhad staff,
- Cynyddu morâl a chynhyrchiant gweithwyr,
- Lleihau'r tebygolrwydd o absenoldebau gan weithwyr, a
- Throsiant staff is sy'n dod â gorbenion costau y mae modd eu hatal ar gyfer y busnes.
Bydd mewnosod y gwerthoedd llesiant cymdeithasol hyn yn cael effaith bellach ar eich perthnasoedd gyda'ch cadwyn gyflenwi, gan eu gwneud yn gryfach, ac sydd hefyd yn gwneud eich busnes yn fwy gwydn.
AWGRYM: O ran gwerthuso cynigion caffael, yn y broses dendro, disgwylir i gyflenwyr roi tystiolaeth o sut maent yn cadw at arferion Gwaith Teg, gyda'r nod ar y cyd o wella ansawdd gwaith a mynediad gweithwyr i'w hawliau.
Awgrymiadau gorau er mwyn mewnosod llesiant cymdeithasol wrth ysgrifennu ceisiadau
- Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - Canllaw Hanfodion.
- Gan dynnu ar i) y 7 nod llesiant a ii) y 5 ffordd o weithio wrth ysgrifennu eich cynnig. Nid oes angen i chi gynnwys popeth. Dewiswch yr elfennau sy'n fwyaf perthnasol i'ch busnes a'r gwaith sy'n cael ei gynnig ar gyfer y contract.
- Rhowch dystiolaeth o'ch ymrwymiad i arferion gweithio teg ac arddangos sut mae eich busnes yn gwobrwyo gweithwyr ac yn cynnig sicrwydd swydd iddynt, sut rydych chi'n cynnig hyblygrwydd yn y gweithle, yn arbennig felly ar gyfer gofalwyr a rhieni sy'n gweithio. Gellir rhoi tystiolaeth o arferion gwaith teg drwy bolisïau ar gydraddoldeb a chynhwysiant, gan gael sianeli eglur ar gyfer llais y gweithiwr.
- Sicrhewch eich bod yn adnabod eich cadwyn gyflenwi o'r dechrau i'r diwedd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw arferion nad ydynt yn foesegol.
- Rhowch dystiolaeth o sut mae eich busnes yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth gyflogaeth a safonau cenedlaethol eraill.
- Eglurwch sut rydych chi'n hyrwyddo llesiant diwylliannol (e.e. cefnogi'r Gymraeg), sut mae eich busnes yn ymwneud â chyfrifoldeb byd-eang ac yn rheoli arferion cadwyn gyflenwi moesegol.
- Anogir yn fawr gweithio gyda chymunedau bregus, ac fe'i hystyrir yn ddymunol, ond byddwch yn realistig ynghylch beth ellir ei gyflawni, a'r partneriaid y gallech fod angen eu cynnwys, er mwyn gwneud iddo ddigwydd.
- Bydd angen i'ch sefydliad roi tystiolaeth bod tegwch yn cael ei gymhwyso i weithgaredd megis amodau talu - RHAID i bob cyflenwr gael ei dalu cyn pen 30 diwrnod.
- Yn aml, mae targedau cyflogaeth yn edrych yn dda ar bapur ond yn ymarferol, maent yn anodd i'w cyflawni. Byddwch yn uchelgeisiol ond peidiwch â gor-addo.
- Gall amcanion y cytunwyd arnynt newid drwy gydol hyd y contract, e.e., cyfnod yr ethol, cyflenwyr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, pandemig - cadwch gyswllt agos gyda'r cleient er mwyn atal unrhyw beth annisgwyl.
- Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau pan ofynnir i chi wneud hynny mewn digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr a dulliau eraill o gyfathrebu.
- Byddwch yn eglur ynghylch yr hyn a ddisgwylir cyn gwneud eich cynnig yn derfynol.
Cyngor cyffredinol ar ennill contractau cyhoeddus
- Yn aml, mae targedau cyflogaeth yn edrych yn dda ar bapur ond yn ymarferol, maent yn anodd i'w cyflawni. Byddwch yn uchelgeisiol ond peidiwch â gor-addo.
- Gall amcanion y cytunwyd arnynt newid drwy gydol hyd y contract, e.e., cyfnod yr ethol, cyflenwyr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, pandemig - cadwch gyswllt agos gyda'r cleient er mwyn atal unrhyw beth annisgwyl.
- Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau pan ofynnir i chi wneud hynny mewn digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr a dulliau eraill o gyfathrebu.
- Byddwch yn eglur ynghylch yr hyn a ddisgwylir cyn gwneud eich cynnig yn derfynol.
- Gall awdurdodau sy'n contractio wneud ymholiadau ynghylch unrhyw drefniadau is-gontractio y gellir eu defnyddio yn ystod y cyfnod contractio.
- Gallwch ddisgwyl derbyn adborth os nad ydych chi'n llwyddiannus yn y broses dendro.
- Mae yna gyfnod o 8 diwrnod o aros yn dilyn dyfarnu contract, felly peidiwch â phoeni os aiff pethau'n dawel am ychydig ddyddiau! Mae hyn yn galluogi i'r naill barti a'r llall dynnu'n ôl o'r broses.
Casgliad
Does dim amser gwell i ymgysylltu gydag awdurdodau contractio. Mae'r Canllaw i Gyflenwyr yng Nghymru hwn wedi cynnig CHWE Cham er mwyn dechrau cymryd y cyfleoedd i dyfu busnes a deall y diwygiadau caffael yn well.
Bydd y prif negeseuson a'r cyngor yn y canllaw hwn yn cefnogi arweinwyr busnesau o bob maint a strwythurau llywodraethu i baratoi ar gyfer diwygiadau caffael yng Nghymru, h.y., Deddf Caffael 2023, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd 2023.
Mae'r Canllaw wedi dangos y dylai hyd yn oed y cyflenwr lleiaf gael mynediad haws at gontractau sector cyhoeddus drwy broses fwy tryloyw a hyblyg. Mae'r platfformau GwerthwchiGymru a'r Platfform Digidol Canolog yn cynnwys y dolenni perthnasol. Mae yna welliannau gyda thaliadau (30 diwrnod) ond rhybuddion ynghylch cyflwyno rhestr wahardd ar gyfer y cyflenwyr hynny nad ydynt yn dilyn protocol. Mae cyflenwyr yn gyfrifol am eu busnes eu hunain ond hefyd y gadwyn gyflenwi. Mae'r Ddeddf Llesiant yn cynnig fframwaith, pecyn cymorth a mesurau ar gyfer mewnosod datblygiad cynaliadwy i wella bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Cydnabyddiaethau
Ni fyddai modd cynhyrchu'r adroddiad heb gyllid gan Lywodraeth Cymru - adran yr Economi Sylfaenol a Busnes Cymru. Mae'r canllaw wedi'i ddatblygu o ddealltwriaethau a gasglwyd drwy gyfweliadau un wrth un, a grwpiau ffocws gydag arweinwyr awdurdodau lleol, y llywodraeth ganolog, asiantaethau cefnogi cyflenwadau, a chyflenwyr. Diolch yn arbennig i bawb a oedd ynghlwm â'r cam ymgynghori. Daw'r awduriaeth o Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd.
Adnoddau eraill
- Cylchlythyr Ardal – ardal-caffael.llyw.cymru
- Busnes Cymru Tudalen Hafan | Busnes Cymru
- Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo – coalfields-regen.org.uk/programmes
- Cyd Hafan - Caffael CYD
- Cynnal Cymru Cyngor Cynaliadwyedd – Cynnal Cymru – Sustain Wales
- Cwmpas – cy.cwmpas.coop
- Cymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru – dtawales.org.uk/cy
- Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 - Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Busnes Cymdeithasol Cymru – busnescymru.llyw.cymru/busnescymdeithasolcymru/
- Cwmnïau Cymdeithasol Cymru – socialfirmswales.co.uk
- Fideos Rhannu Gwybodaeth Cyflenwyr (Rhannau 1, 2, a 3, BBaChau a VCSEau Rhannau 1, 2 a 3) – gov.uk/guidance/the-official-transforming-public-procurement-knowledge-drops#kd3knowledge-drop-for-supplierspart-1
- The Sourcing Playbook, Swyddfa Cabinet y DU, Swyddogaeth Fasnachol y DU – gov.uk/government/publications/the-sourcing-and-consultancy-playbooks/the-sourcing-playbook-html#evaluating-bids-and-contract-award
- Canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer Cyflenwyr – gov.uk/government/collections/information-and-guidance-for-suppliers
- Llywodraeth Cymru – Caffael Doethach i Gyflenwyr – llyw.cymru/caffael-cyhoeddus-doethach-yng-nghymru
- Llywodraeth Cymru – Pecyn Cymorth i Randdeiliaid – gov.wales/sites/default/files/inline-documents/2025-02/procurement-stakeholder-toolkit.pdf
- CGGC – wcva.cymru
- Beth yw fframwaith? Crown Commercial Service (CCS) – crowncommercial.gov.uk/news/what-is-a-framework-procurement-essentials
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddechrau manteisio ar y cymorth sydd ar gael, cysylltwch â:
Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 busnescymru.llyw.cymru
Sell 2 Wales sell2wales.gov.wales gwerthwchigymru.llyw.cymru
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.