Cyfarwyddyd, Document

Canllaw Arfer Da

I unedau deori a chanolfannau gweithio ar y cyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 4 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf: 4 Tachwedd 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 58.39 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Rhagarweiniad

Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffordd Ymlaen o Gefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru. Ei nod yw amlinellu sut gall sefydliadau cymorth i fusnesau fabwysiadu dull ymwybodol o’r rhywiau ar gyfer darparu eu gwasanaethau. Cafodd y dull hwn ei ddatblygu dan arweiniad Panel Arbenigol o unigolion o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol ac addysg. Cafodd Canllaw Arfer Da ei gyhoeddi i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r dull hwn, sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar sut mae adolygu a chyflwyno dull ymwybodol o’r rhywiau ar gyfer darparu gwasanaethau. 

Mewn ymateb i argymhellion y Panel, roedd Busnes Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu Canllaw Arfer Da i unedau deori a lleoliadau gweithio ar y cyd. Mae’r Canllaw hwn yn darparu cyngor ac awgrymiadau o ran sut mae darparu dull sy’n ymwybodol o’r rhywiau ar gyfer y rhai sy’n rheoli lleoliadau gweithio ar y cyd, er mwyn hybu dull mwy personol i ferched sy’n cymryd rhan.

Cyflwyniad

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Arloesi Menter, Caerffili, i gynhyrchu’r Canllaw Arfer Da ac i gynnal yr ymchwil sy’n sail i gynnwys y Canllaw hwn. 

Ymchwil sylfaenol a gynhaliwyd i gynhyrchu’r Canllaw hwn, wedi’i gasglu ynghyd drwy holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws, gan arwain at ddata meintiol ac ansoddol.

Sut gall unedau deori a chanolfannau gweithio ar y cyd gefnogi merched entrepreneuraidd yng Nghymru yn well.

Un ateb yw defnyddio lens rhywedd yn y lleoliadau hyn i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth mor effeithiol â phosibl i bawb o’r cychwyn cyntaf. 

Hanfod adnabod eich cwsmeriaid yw deall eich cynulleidfa darged. Mae angen i wasanaethau cymorth i fusnesau yng Nghymru ddilyn yr un egwyddor. Rydym yn gwybod bod dull gweithredu merched ar gyfer gweithgareddau busnes yn wahanol i ddynion yn aml, a gellir priodoli hyn yn rhannol i’r rhwystrau unigryw mae merched sy’n entrepreneuriaid yn eu hwynebu. Mae’n hollbwysig bod dull gwahanol o ddarparu cymorth i fusnesau yn cael ei ddefnyddio er mwyn i ferched elwa i’r un graddau ar ymgysylltu ag unedau deori a chanolfannau gweithio ar y cyd. Bydd y canllaw hwn yn nodi’r prif feysydd i ganolfannau menter eu hystyried ac yn awgrymu camau gweithredu ymarferol i’w cymryd er mwyn cefnogi merched entrepreneuraidd yng Nghymru i’r graddau mwyaf posibl.

Cyfathrebiadau Marchnata ac allgymorth

Mae’n bwysig bod busnesau’n tyfu. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cofio pa mor hanfodol yw “adnabod eich cwsmer”. Wrth gyfathrebu ag aelodau newydd neu ddarpar aelodau, mae’n hollbwysig ystyried rôl agweddau ar gyfathrebu fel iaith, tôn llais a chanfyddiad wrth ymgysylltu merched â’ch gwasanaethau.

Mae merched yn gweld, yn derbyn ac yn dehongli negeseuon marchnata mewn ffordd wahanol i ddynion yn aml. Canfu ein hymchwil fod merched yn tanbrisio eu cyfradd datblygu busnes a’u sgiliau entrepreneuraidd o’u cymharu â dynion, hyd yn oed pan fydd twf busnes yn gyfartal, a hynny o ganlyniad i ffactorau fel syndrom twyllwr (impostor syndrome).

O ganlyniad, rhaid i’r strategaethau ar gyfer cyfathrebiadau marchnata ac allgymorth sy’n cael eu hanelu at ferched sy’n dechrau busnes fynd i’r afael â hyn drwy annog, a heb dybio bod y gynulleidfa darged eisoes yn hyderus yn eu gallu. Mae modelau rôl yn chwarae rhan fawr yn nhaith entrepreneuraidd merched a gall eu defnyddio mewn cyfathrebiadau marchnata helpu i gynyddu sgiliau a hyder merched.

Mae merched yn ymateb i gynnwys marchnata yn wahanol hefyd. Canfuwyd bod merched yn ymateb yn fwy cadarnhaol i ddull rhagweithiol o asesu eu hanghenion cymorth i fusnesau, yn hytrach na disgwyl y byddant yn gofyn pan fydd angen cymorth penodol arnynt. Mae’n bwysig ystyried hyn wrth lunio ymgyrchoedd marchnata ac allgymorth. Roedd merched dair gwaith yn fwy tebygol na dynion o fod wedi chwilio ar y rhyngrwyd am leoliad gweithio ar y cyd. Mae hyn yn awgrymu bod ganddynt mwy o fwriad i geisio cymorth. Felly, mae’n hanfodol bod amlygrwydd a phresenoldeb ar-lein y canolfannau a’r lleoliadau gweithio ar y cyd yn apelio at ferched.

Awgrymiadau ymarferol

Defnyddio Iaith Ysgrifenedig

Dylech ystyried adolygu eich deunydd cyfathrebu ac allgymorth presennol, gan gadw llygad am eiriau penodol a allai fod yn gysylltiedig â rhagfarn ar sail rhywedd. Gall hyn gynnwys eich gwefan, eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, eich e-byst a’ch cylchlythyrau, yn ogystal â’ch deunydd print (taflenni, baneri ac ati).

Cyfathrebu 

Dylid defnyddio tôn llais gyfeillgar ac agos-atoch, yn ogystal â iaith y corff agored a defnydd priodol o ymadroddion llafar. Mae hyn yn fwy apelgar a bydd yn rhoi gwybod i unigolion eich bod yn siarad yn uniongyrchol â nhw.

Presenoldeb Ar-lein

Presenoldeb Ar-lein Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan, eich cyfryngau cymdeithasol a’ch presenoldeb ar-lein yn hygyrch ac yn apeliov at ferched o ran iaith, tôn a’u gallu i gysylltu â chi.

Ymgynghori Uniongyrchol

Pan fyddwch yn anfon cyfathrebiadau marchnata, gofynnwch i aelodau beth sydd ei eisiau neu ei angen arnynt gennych chi. Gallech chi wneud hyn drwy bleidlais neu arolwg, neu drwy ofyn yn blaen i aelodau neu ddarpar aelodau beth fyddent yn dymuno ei gael.

Rhannu Llwyddiannau a Theithiau Merched

Mae rhannu llwyddiannau, yn ogystal â hynt a helynt bywyd entrepreneuraidd yn ffordd allweddol o ddefnyddio’r effaith model rôl yn eich cyfathrebiadau marchnata, gan alluogi’r rhai heb fodel rôl swyddogol i gael eu hysbrydoli gan ferched llwyddiannus.

Anhygoel! Cymaint o bobl cymwynasgar yn gweithio o’ch cwmpas, ac yn fodlon eich helpu chi gydag unrhyw faterion sy’n codi wrth ddechrau eich busnes eich hun.

Sylfaenydd Benywaidd mewn digwyddiad - Diwrnod Rhyngwladol y Merched ICE Cymru

Amgylchedd/Lleoliad y ganolfan

Mae’r amgylchedd lle mae unrhyw weithgaredd yn digwydd yn dylanwadu ar lwyddiant y gweithgaredd. Mae’r un peth yn wir ar gyfer busnesau newydd. Canfuwyd bod cyfradd goroesi busnesau newydd a busnesau sy’n datblygu mewn canolfan fenter 16% yn uwch dros dair blynedd, o’i chymharu â’r cyfartaledd. Felly mae’n hollbwysig sicrhau bod gan y canolfannau menter hyn adnoddau digonol i hwyluso twf busnesau wedi’u sefydlu gan ferched a dynion.

Mae rhaglenni cynefino’n rhan allweddol o feithrin teimladau cryf o berthyn a chroeso ymysg aelodau sy’n ferched. Fodd bynnag ni fydd pob aelod newydd yn gallu cymryd rhan mewn rhaglenni cynefino ar ddechrau eu taith. Ynghyd â’r canfyddiad bod merched yn llai tebygol o ofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt, nodwyd bod hyn yn arwain at oedi cyn bod aelodau newydd sy’n ferched yn manteisio i’r eithaf ar fod yn yr amgylchedd canolfan.

Mae ein hymchwil wedi dangos hefyd, er mwyn cyflawni gwaith cynhyrchiol, bod angen man tawelach ar ferched i weithio ynddo, yn ogystal â chymorth penodol ar gyfer manteisio i’r eithaf ar weithio ar y cyd. Mae ein hymchwil wedi dangos, ar y cyfan, bod merched yn defnyddio’r lleoliadau gweithio ar y cyd i gyflawni gweithgareddau fel rhwydweithio a meithrin perthnasoedd busnes, yn ogystal â gwneud ffrindiau go iawn. Mae hyn yn amlygu’r angen i sicrhau bod lleoliadau gweithio ar y cyd yn addas ar gyfer bodloni’r anghenion hynny ac yn gallu cynnig mannau “tawel” pan fydd angen i sicrhau dull cytbwys.

Tynnwyd sylw at hyblygrwydd lawer gwaith yn yr ymchwil fel ffactor allweddol mewn cysylltiad â gallu merched i ddechrau a datblygu busnesau. Canfu Adolygiad Alison Rose fod 46% o ferched wedi dweud bod hyblygrwydd (yng nghyd destun cymorth i deuluoedd) yn ffactor pwysig neu bwysig iawn, o’u cymharu â dim ond 33% o ddynion. Mae anghymesuredd clir yn lefel y cyfrifoldebau gofal o ran gofal plant a gofal i bobl hŷn – mae’n fwy tebygol yn ystadegol mai merched fydd yn ysgwyddo’r rhan fwyaf. Fel gwasanaeth cymorth i fusnesau, mae ffyrdd o ystyried hyn a’i gydbwyso. Mae gofal plant yn benodol yn rhwystr mawr i ymuno o ran dechrau a datblygu busnes, wedi’i briodoli i ferched yn fwy na dynion.

Pan ofynnwyd iddynt a oedd lleoliad y ganolfan yn creu unrhyw heriau, soniodd 20% o’r merched am ddiffyg cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, pellter hir o’r cartref, problemau o ran parcio adeg gollwng plant yn yr ysgol, a rhy bell i ffwrdd o amwynderau. Er nad oedd y problemau hyn yn unigryw i ferched, roeddent wedi sôn amdanynt yn amlach na dynion.

Yn dilyn yr heriau y mae lleoliad y canolfannau’n eu creu, trafodwyd lleoliadau ar-lein hefyd. Gan ystyried bod dros 40% o ferched wedi dod o hyd i ganolfan drwy chwilio ar-lein, o’i gymharu â dim ond 30% o ddynion, mae’n hollbwysig sicrhau bod yr amgylchedd ar-lein wedi’i optimeiddio. Roedd canfyddiadau o drafodaethau’r grŵp ffocws yn cefnogi hyn ymhellach, lle roedd merched yn cytuno ei bod yn fuddiol bod yn rhan o grŵp ar lein ac nid oedd beirniadaeth: “Mae’r grŵp [ar-lein] yn fath o gymorth”... “Does neb yn eich beirniadu”. Roed y diffyg beirniadaeth gan y gymuned ar lein hefyd yn amlwg pan ofynnwyd i’r ymatebwyr am gadw eu cymhelliant, oherwydd soniwyd am diwtora a chymorth ar-lein yn hytrach na thiwtora wyneb yn wyneb.

Awgrymiadau ymarferol

Hyblygrwydd

Tynnwch sylw at y dewisiadau hyblyg sydd ar gael gennych, boed hynny’n ymwneud â phecynnau aelodaeth, prisiau neu ddiwrnodau/amseroedd agor.

Polisi Plant ar y Safle

Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i aelodau ddod â phlant i’r gweithle am gyfnod, ond efallai nad ydynt yn sicr beth yw’r polisi ar y mater hwn. Dangoswch eich polisi ‘plant ar y safle’ yn glir a’i gyfathrebu i’ch aelodau er mwyn iddynt wybod beth yw eu hawliau a’u cyfrifoldebau.

Mannau Tawel

Os oes modd, dyrannwch ystafell neu ardal ar gyfer gweithio tawel, a chyfathrebu’n glir y dylid defnyddio’r ardal hon ar gyfer gwaith tawel.

Pecyn Croeso/Cynefino

Darparwch becyn croeso i gyd-fynd â’r rhaglen gynefino a’i chrynhoi. Gallech chi gynnwys rhai o’r pynciau allweddol hyn yn y pecyn cynefino: map, amseroedd agor, rhifau ffôn pwysig, ymddygiad safonol, canllaw gweithio ar y cyd, ‘pwy ‘di pwy’ o’r staff gyda lluniau, mentoriaid, cwestiynau cyffredin ac ati, yn ogystal â thaith o amgylch y cyfleusterau. Ceisiwch wneud yn siŵr bod y daith yn cynnwys pob ardal gan gynnwys ardal dawel, mannau cyfarfod, a ffreutur os oes un ar gael.

Dylid cynnig rhaglen gynefino ar-lein, naill ai’n fyw ac ar gael ar amrywiaeth o ddyddiadau ac amseroedd, neu wedi’i recordio ymlaen llaw, gan gynnwys yr un wybodaeth â rhaglen gynefino wyneb yn wyneb, a thaith rithiol, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau a rhoi adborth. Dylid gwneud ymdrech i gyflwyno aelodau newydd i’r staff allweddol yn ystod y daith. Gwnewch yn siŵr bod y pecyn croeso ar gael yn ddigidol hefyd.

Canllaw Gweithio ar y Cyd

Darparwch ganllaw gweithio ar y cyd gan gynnwys: pam gweithio ar y cyd, manteision gweithio ar y cyd a sut mae gweithio’n effeithiol ar y cyd, er mwyn cefnogi’r aelodau hynny sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad.

Lleoliad

Er na fydd hi’n bosibl symud y ganolfan gweithio ar y cyd efallai, gwnewch yn siŵr bod llwybrau trafnidiaeth ac amwynderau wedi’u cyflwyno’n glir. Os ydych chi’n ystyried agor canolfan newydd, gwnewch yn siŵr bod digon o le parcio, bod digon o oleuni o’i amgylch, a bod cysylltiadau trafnidiaeth da ac amwynderau gerllaw. Meddyliwch am sut gallai aelodau fynychu’r ganolfan ar-lein er mwyn gweithio ar y cyd.

Elfennau Ar-lein

Dylech greu grŵp cymunedol ar-lein i aelodau o’r ganolfan. Ystyriwch gyhoeddi negeseuon am bynciau i aelodau eu trafod a rhwydweithio yn eu cylch ar-lein. Cyhoeddwch negeseuon am fentora, tiwtora a chymorth ar-lein, cyfleoedd, neu hyd yn oed ddefnyddio system fentora fewnol y grŵp ar-lein.

Mae’n anodd taro’r hoelen ar ei phen ond mae teimlad o gymorth a’ch bod yn gallu gwneud unrhyw beth – gan fod pobl eraill wedi gwneud hynny’n union.

Cael gafael ar gyllid

Dywedwyd mai cael gafael ar gyllid oedd y prif rwystr yr oedd merched yn ei wynebu wrth ddechrau busnes. Er nad oedd y broblem hon ar ei phen ei hun yn unigryw i ferched, wrth edrych yn fanylach, gwelwn fod merched yn lansio busnesau â 53% yn llai o gyfalaf na dynion, a dim ond 1% o gyllid menter sy’n cael ei roi i dîm sy’n cael ei arwain gan ferched yn unig. Roeddem wedi canfod hefyd bod merched yn dueddol o fod yn fwy amharod na dynion o gymryd risgiau o ran cael gafael ar gyllid traddodiadol a’i dderbyn, ond yn fwy tebygol o elwa ar ffynonellau cyllido arloesol, fel cyllido torfol. Roedd 83% o’r merched a ymatebodd yn teimlo y byddai bod yn aelod o ganolfan o fudd iddynt o ran codi buddsoddiad drwy gyllid torfol.

Mae tystiolaeth y bydd cynyddu ymwybyddiaeth merched o gyllid a’r lefel maen nhw’n gallu cael gafael arno yn cynyddu eu gallu i ddatblygu a rhedeg eu busnesau’n llwyddiannus. Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yn 2018 fod yr arferion gorau yn yr Unol Daleithiau – gwlad sydd ar y brig o ran perfformiad merched ym maes entrepreneuriaeth – yn nodi bod sicrhau mynediad cyfartal at gyllid i ferched a dynion, cynyddu ymwybyddiaeth o ffynonellau cyllid, ac annog rhagor o ferched i ymuno â rhwydweithiau angel neu ymgysylltu â nhw yn ffactorau allweddol o ran sicrhau eu lle ar y brig.

Er bod yr ystadegau ar gyfer gwerth ychwanegol gros busnesau sydd dan berchnogaeth mwyafrif o ferched yng Nghymru wedi cynyddu o 5.95% yn 2012 i 7.24% yn 2015, mae ffyrdd o hwyluso hyn ymhellach. Mae’r iaith a ddefnyddir wrth roi sylw i’r mater o gyllid yn hynod o bwysig. Mae merched yn ymateb yn fwy cadarnhaol i iaith â llai o bwysau’n gysylltiedig â hi nag iaith fygythiol, ac mewn gwirionedd efallai na fyddant yn sylwi ar gyfleoedd cyllido o gwbl os na chânt eu cyflwyno’n gywir. Er enghraifft, dangosodd ein hymchwil fod dynion 25% yn fwy tebygol o weld cyfathrebiadau ynghylch cyfleoedd cyllido na merched, gan awgrymu bod y cyfathrebiadau’n apelio at ddynion, ond nid at ferched.

Awgrymiadau ymarferol

laith

Adolygwch ddeunyddiau cyllido ac ystyried diwygio’r iaith a ddefnyddir. Er enghraifft, defnyddiwch “cymorth ariannol i ddatblygu eich busnes” yn hytrach na “cyllido”, a “rhannu eich syniad” yn hytrach na “cyflwyno”.

Cyfathrebu ynghylch Cyfleoedd Cyllido

Meddyliwch am fynd ati i gysylltu busnesau newydd â chyfleoedd a ffynonellau cyllido priodol a pherthnasol, yn hytrach na dim ond anfon cyfathrebiadau ynghylch y cyfleoedd cyllido.

Amseru

Efallai y bydd merched yn cymryd mwy o amser i wneud penderfyniad ynghylch cyllido, felly peidiwch â rhoi pwysau diangen ar bobl i fanteisio ar gyfleoedd cyllido.

Cyfleoedd Amrywiol

Dylech anfon cyfathrebiadau ynghylch amrywiaeth o gyfleoedd cyllido, gan gynnwys cyllido torfol ynghyd â benthyciadau a grantiau traddodiadol.

Rwyf wedi cwrdd â llawer o ferched o’r un anian. Ar hyn o bryd mae gen i fynediad at weithle wedi’i ariannu ac rwyf wedi cael fy nghyfeirio at lawer o gyfleoedd cyllido nad oeddwn i’n gwybod amdanyn nhw o’r blaen.

Sarah Sutton, sylfaenydd benywaidd mewn digwyddiad rhwydweithio ICE Cymru yn Nhreorci, Rhondda

Mentora

Yng Nghanllaw Arfer Da 2019 Llywodraeth Cymru, nodwyd bod merched yn ffafrio gwasanaeth mentora a hyfforddi dros ddull ymgynghoriaeth traddodiadol o ran cymorth i fusnesau. 

Canfu ein hymchwil fod merched yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd mentora sy’n gysylltiedig ag aelodaeth o ganolfan yn gryf o’u cymharu â dynion. Mae merched bedair gwaith yn fwy tebygol o dynnu sylw at eu gwerth. Ategir hyn gan ganfyddiadau Adolygiad Alison Rose a oedd yn awgrymu, er bod merched yn llai tebygol na dynion o adnabod entrepreneuriaid eraill neu o gael mynediad at fodelau rôl neu fentoriaid, nhw sydd fwyaf tebygol o elwa arnynt.

Canfu ein hymchwil hefyd fod merched yn elwa’n fawr ar fentora strwythuredig o ran twf ariannol yn ogystal â’r cymorth ar gyfer sgiliau datblygu personol, sy’n allweddol wrth ddatblygu busnes. Pan ofynnwyd yn uniongyrchol iddynt, “Beth gallem ni ei wneud i helpu i leihau eich anawsterau ymhellach”, roedd yr atebion yn cynnwys “rhagor o gyfleoedd mentora”. Canfuwyd, fodd bynnag, er bod mentora strwythuredig yn fuddiol i ferched sy’n berchen ar fusnes, mae hefyd yn bwysig cydnabod y gall mentora ddigwydd yn naturiol, er enghraifft ar ffurf modelau rôl, a bod y math hwn o fentora’n arwain at ganlyniadau cryfach, mwy hirhoedlog yn aml. Dywedodd 93% o ferched y byddai dysgu o brofiadau pobl eraill yn helpu i gefnogi eu twf personol, gan awgrymu y byddai argaeledd haws neu ehangach o fodelau rôl, neu gynlluniau mentora meddalach, yn fuddiol.

Awgrymiadau ymarferol

Rhaglenni Mentora

Dylech gynnig rhaglen fentora yn eich cymuned. Anelwch at gyfateb busnesau a mentoriaid ar sail eu hanghenion unigol a phenodol.

Hybu Mentora Naturiol

Nodwch arbenigwyr bodlon yn eich cymuned a rhannu eu llwyddiannau er mwyn iddynt allu gweithredu fel modelau rôl a mentoriaid naturiol/meddal.

Hybu Modelau Rôl a Hanesion Cadarnhaol

Dylech ddathlu llwyddiannau aelodau yn rheolaidd, gan gynnwys unrhyw hanesion cadarnhaol, llwyddiannau a sylw cadarnhaol yn y wasg. Rhannwch y dathliadau hyn yn y rhwydwaith a’r gymuned ar gyfryngau cymdeithasol, fforymau mewnol, a chyfathrebiadau.

Y mantais fwyaf yw dysgu sgiliau busnes drwy’r cynllun mentora.

Francesca Irving (Lunax Digital Marketing), yn cyflenwi gweithdy Clwb 5 i 9, yn Aberdâr

Rhwydweithio

Mae corff o ymchwil dibynadwy yn awgrymu bod merched yn rhwydweithio mewn ffordd wahanol i ddynion. Canfu ein hymchwil fod 50% o ferched wedi dweud eu bod yn ystyried digwyddiadau yn gyfle i rwydweithio yn ogystal â dysgu, a bod dynion yn fwy tueddol o rwydweithio mewn ffordd fwy swyddogol. Mae’r cysyniad mai merched yw ‘calon y gymuned’ wedi’i adlewyrchu yng nghanfyddiadau’r ymchwil. Mae merched yn fwy tebygol o ffurfio perthynas agos â’r rhai yn eu cymunedau ac yn ystyried eu cyfoedion a’u cyd-weithwyr busnes yn ffrindiau iddynt yn amlach nag y mae dynion. Mae’r rhwydweithiau cymorth sy’n cael eu ffurfio wedyn yn meithrin perthynas mentor/mentorai naturiol, fel y disgrifir yn yr adran mentora.

O gymharu, mae dynion yn dangos rhwydweithiau mwy rhydd a mwy eang yn ddaearyddol, sy’n cynnwys mwy o wybodaeth o ganlyniad. Mae manteision i’r ddau fath o rwydwaith ond bydd y math o rwydwaith sydd gan berchennog busnes yn effeithio ar dwf posibl y busnes, ac mae’r canfyddiadau’n dangos bod dynion yn ei chael hi’n haws na merched datblygu eu busnes ar sail eu rhwydweithiau.

Canfuwyd hefyd bod merched yn dueddol o ddechrau ym myd busnes gan feddu ar sgiliau a phrofiad gwahanol i ddynion. Gall hyn gynnwys profiad cyfyngedig o reoli, gan arwain at lai o gysylltiadau busnes yn ystod y camau cyntaf. (RBS Group, 2013).

Canfu ein hymchwil ei bod yn fwy tebygol o lawer bod dros 60% o rwydwaith proffesiynol merched yn aelodau o ganolfan, o’u cymharu â dynion. Mae hyn yn dangos bod aelodaeth o ganolfan gweithio ar y cyd yn fwy buddiol byth i ferched na dynion o ran cyfrannu at rwydwaith proffesiynol cyffredinol.

Mae hyn yn dangos y cyfleoedd mae lleoliadau gweithio ar y cyd yn eu cynnig i ferched – i gyfoethogi eu rhwydweithiau drwy ddod o hyd i gymorth emosiynol a ‘phroffesiynol’ mewn cymuned o berchnogion busnes o bob rhywedd, sy’n cymryd rhan weithredol mewn dysgu rhwng cymheiriaid a mentora anffurfiol o ddydd i ddydd. Mae’r cymunedau hyn yn ysbrydoli arloesedd ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin.

Awgrymiadau ymarferol

Dechrau Sgwrs

Ystyriwch amser ‘sgwrsio’ pwrpasol, fel amser cinio neu amser egwyl, i ganiatáu i bobl siarad a rhwydweithio heb deimlo eu bod yn amharu ar unrhyw un. Gellir defnyddio mannau cinio neu fyrddau pwrpasol i hwyluso hyn hefyd. Dylid trefnu amser panad rhithiol i’r rhai sy’n mynychu’r ganolfan o bell.

Hwyluso neu hyrwyddo digwyddiadau 

Mae merched yn aml yn rhwydweithio’n fwy effeithiol drwy ddigwyddiadau nad ydynt yn seiliedig ar rwydweithio, fel digwyddiadau dysgu. Os oes modd, ystyriwch sefydlu eich digwyddiadau eich hun ar sail anghenion y merched yn eich cymuned neu, os nad oes modd gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn hyrwyddo digwyddiadau perthnasol drwy eich cyfathrebiadau.

Iaith

Mae defnyddio iaith briodol wrth hyrwyddo digwyddiadau rhwydweithio yn hollbwysig i ennyn diddordeb merched yn y digwyddiadau hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio iaith anffurfiol ac agos-atoch, ac ystyriwch cyfnewid geiriau fel “rhwydweithio” am ddisgrifiad mwy cywir a chyfarwyddol o’r digwyddiad, er enghraifft “Digwyddiad Hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol”.

Grwpiau Rhwydweithio ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, sefydlwch grŵp rhwydweithio ar-lein, er enghraifft grŵp Facebook, i aelodau’r ganolfan. Gall staff gweinyddol gymedroli’r grŵp hwn, ond efallai y byddwch yn gweld ei fod yn fwy effeithiol drwy gael ei hunanreoleiddio gan aelodau’r gymuned. 

Hwyluso grwpiau unigol neu ganiatáu i bobl eu sefydlu

Mae manteision rhwydweithio’n fwy amlwg i ferched pan fo perthynas gyfeillgar, ddiffuant, felly dylech ystyried hwyluso grwpiau neu ganiatáu i bobl eu ffurfio a defnyddio mannau gwag pan fyddant ar gael. Gall hyn hybu rhwydweithio naturiol ac adeiladu a meithrin perthnasoedd. Dylid cyflwyno fforymau ar thema ac ystafelloedd ar-lein er mwyn peidio ag eithrio’r rhai sy’n mynychu’r ganolfan o bell.

Doeddwn i ddim yn gallu rhwydweithio’n dda iawn, nac yn hyderus yn ei wneud, ond dwi wedi gwella o ganlyniad i fod yn y ganolfan.

Digwyddiadau Cymorth i fusnesau

Canfuwyd bod digwyddiadau seiliedig ar ddysgu yn fwy atyniadol i ferched a’u bod yn elwa’n sylweddol arnynt, o’u cymharu â mathau eraill o ddigwyddiadau. Gwyddom drwy ganfyddiadau Adolygiad Alison Rose bod merched yn llai tebygol o gredu bod ganddynt y sgiliau i ddechrau, rhedeg neu ddatblygu busnes, felly nid yw’n syndod gweld y croeso da a roddwyd i ddigwyddiadau uwchsgilio a digwyddiadau seiliedig ar ddysgu. Mae ein hymchwil yn cadarnhau hyn. Gofynnodd mwy o ferched yn uniongyrchol am “ragor o ddigwyddiadau”, gan gynnwys digwyddiadau seiliedig ar ddysgu a gweithdai.

Roeddem wedi canfod hefyd bod merched yn ymateb yn dda pan ofynnir cwestiwn iddynt, yn hytrach nag aros i ferched siarad â chanolfan i ddweud beth sydd ei angen arnynt yn benodol. Felly, dylai arddull a phynciau digwyddiadau cymorth i fusnesau fod yn nwylo’r merched sy’n cymryd rhan. Mae teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a’u cefnogi yn ystod eu taith yn cynyddu’r teimladau o hyder, gan gynyddu’r siawns o lwyddo.

Mae ymchwil yn dangos bod merched yn fwy tebygol o amgyffred yr wybodaeth a roddir iddynt mewn digwyddiad os ydynt yn uniaethu â’r person sy’n cyflwyno’r wybodaeth. Mae merched yn awyddus i ddysgu ond nid ydynt yn hoffi cael eu trin yn nawddoglyd, felly mae cael cyngor gan bobl nad ydynt yn teimlo cysylltiad â nhw yn arwain at deimladau negyddol am y digwyddiad. Yn ei dro, gall hyn achosi teimlad negyddol canlyniadol tuag at drefnydd y digwyddiad.

I gloi, dywedodd 92.5% o’r merched a arolygwyd y byddent yn mynychu digwyddiad i ferched yn unig. Fodd bynnag, mewn trafodaethau pellach ar hyn dangoswyd y gall digwyddiadau o’r fath deimlo’n fygythiol i rai merched. Gofynnodd merched yn benodol am: “digwyddiadau dysgu”, “digwyddiadau ar wahanol amseroedd” a digwyddiadau sy’n “cyd-fynd â gofal plant”, yn ogystal â chyfleoedd i fynychu digwyddiadau i ddysgu am brofiadau merched eraill, a digwyddiadau sy’n cynnwys gweithgaredd.

Awgrymiadau ymarferol

Digwyddiadau Seiliedig ar Ddysgu a Gweithdai 

Os oes modd, dylech hwyluso eich digwyddiadau seiliedig ar ddysgu a’ch gweithdai eich hun, gan ystyried yr amseroedd a’r lleoliadau sydd fwyaf addas i’r merched yn eich cymuned. Gwnewch yn siŵr bod y rhain ar gael yn ddigidol yn ogystal â wyneb yn wyneb.

Gofyn i Aelodau Beth Hoffen Nhw ei Gael

Gofynnwch i’r merched sy’n aelodau o’r gymuned pa bynciau hoffen nhw gael sylw yn y digwyddiadau neu’r gweithdai, er enghraifft: marchnata, cyllid, cyfreithiol ac ati, a sut hoffen nhw i’r rhain gael eu cyflwyno.

Wedi’u Rhedeg gan Fodel Rôl

Ceisiwch drefnu bod unrhyw weithdai rydych chi’n eu hwyluso yn cael eu rhedeg gan rywun sydd ddim yn unig yn arbenigwr yn y maes, ond yn fodel rôl llwyddiannus hefyd.

Amseru

Trefnwch ddigwyddiadau ar wahanol adegau o’r diwrnod, gan gynnwys amser cinio a gyda’r nos, i ddarparu ar gyfer gwahanol drefn arferol merched. Dylech gydnabod bod rhwydweithio’n frawychus yn aml. Os ydych chi’n cynnal sesiynau rhwydweithio, gwnewch yn siŵr bod gennych chi system “cyfeillio” ar gyfer aelodau newydd.

Dwi wedi dysgu llawer o gyngor a gwybodaeth diolch i ddigwyddiadau yn y ganolfan, ac rydyn ni wedi cael ein cyflwyno i un aelod sy’n dymuno gweithio gyda ni yn rheolaidd.

Kellie Baron, Digwyddiadau menter busnes ‘Clwb 5-9’

Monitro’r ddarpariaeth ymarferol

I sicrhau bod yr arferion a ddisgrifir yn cael eu dilyn yn effeithiol a’u bod wir yn arwain at leihau’r rhwystrau mae merched yn eu hwynebu wrth ddechrau, rhedeg a datblygu eu busnes, mae’n hollbwysig monitro’r ddarpariaeth a’i dadansoddi’n briodol, gan rannu yn ôl rhywedd.

Mae’n bwysig ystyried, er mwyn cyflawni’r cam ymlaen sydd ei angen, mae angen dadansoddi’n gywir cyn ac ar ôl addasu i’r ddarpariaeth ymarferol. Dim ond bryd hynny y bydd hanes dilys i’w weld.

Drwy roi rhai mesurau syml ar waith, bydd casglu data a dadansoddi yn ôl rhywedd yn dod yn rhan hawdd ond hanfodol o’ch proses fel uned cymorth i fusnesau.

 

Awgrymiadau ymarferol

Holiaduron ac Arolygon Rheolaidd

Dylech gynnal holiaduron ac arolygon yn rheolaidd i gasglu adborth gan eich aelodau o ran a ydynt yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

Hyfforddiant ac Arolygon Staff

Gwnewch yn siŵr bod eich staff yn deall sut gall eu rolau unigol effeithio ar ymddygiad a theimladau’r merched sy’n aelodau neu’n ddarpar aelodau, a chynnig hyfforddiant ar y pwnc lle bo angen.

Monitro Data ar gyfer Digwyddiadau

Sefydlwch systemau ar gyfer monitro data seiliedig ar rywedd gan gynnwys (ymysg eraill) gweithgareddau marchnata, mynychwyr digwyddiadau, ystadegau rhwydweithio, defnydd o gynlluniau mentora ac ati.

Wrth weithio gartref, roeddwn yn teimlo weithiau ein bod wedi methu oherwydd nad oedd gennym ni le i alw’n ‘ein swyddfa ni’, felly mae hyn yn gwneud i ni deimlo’n fwy proffesiynol a’n bod yn fwy apelgar i ddarpar gleientiaid

Newidiadau iaith syml

CyfrifydduCadw cyfrifon
CyflwynoRhannu eich syniad busnes, cyflwyno, cyflwyno eich syniad, cael adborth.
EntrepreneurPerchennog busnes, perchennog busnes bach, gweithiwr llawrydd, hunangyflogedig, y rhai sy’n rhedeg busnes.
CyllidArian
Cyllido/BuddsoddiadCodi arian
RhwydweithioDigwyddiad ‘a enwir’
Dosbarth meistrGweithdy, digwyddiad

Ffynonellau cyfeiriadau a deunydd darllen

  1. Dogfennau Llywodraeth Cymru: Fframwaith, ‘Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru’ (2019)
  2. Y Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang
  3. Women Entrepreneurs: Developing collaborative ecosystems for success.’ Deloitte (2017)
  4. 'Women in Enterprise: The Untapped Potential’. Ffederasiwn y Busnesau Bach (2016)
  5. ‘Women in Enterprise: A Different Perspective’. RBS Group (2013)
  6. Adolygiad Alison Rose (2019)
  7. Burt, L. The Burt report: Inclusive Support for Women in Enterprise, 2015
  8. Men in Enterprise in Scotland’. Women’s Enterprise Scotland (2017)
  9. Canolfan Arloesi Menter Cymru Adolygiad Cymdeithasol ac Economaidd (2018)
Lawrlwytho'r ddogfen: 58.39 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.