Gall lleihau gwastraff, nid yn unig fod yn bwysig i’r amgylchedd, ond gall arbed costau mawr. Mae llawer o sefydliadau sydd wedi rhoi mesurau ar waith i leihau eu gwastraff a dod yn fwy effeithlon o ran adnoddau wedi elwa hefyd ar fwy o gymhelliant ymhlith gweithwyr ac amgylchedd gweithio gwell. Dyma rai awgrymiadau syml
- Mae’r rhan fwyaf o broblemau cyfreithlon amgylcheddol yn cael eu hachosi gan broblemau gwaredu gwastraff a gorlifiau. Dylech chi ganolbwyntio ar y meysydd hyn, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio cemegau peryglus.
- Mae dyletswydd gofal yn cynnwys diogelu gweithwyr, cymdogion, y gymuned a’r amgylchedd. Bydd angen i chi ystyried sbwriel, arogleuon, llwch a sŵn, i fodloni gofynion rheoleiddio.
- Gall cyfleu eich ‘cymwysterau gwyrdd’ eich helpu i ennill a chadw cwsmeriaid a chleientiaid newydd.
- Ysgrifennwch llif proses cam wrth gam o ddosbarthu’r deunydd crai, i becynnu ac anfon, i helpu chi nodi sut y gallwch leihau eich gwastraff.
- Ym mhob cam, rhestrwch y prif ddeunydd crai a ddefnyddir, yr ynni a’r dŵr a ddefnyddir ac unrhyw ddeunyddiau peryglus posibl.
- Amlygwch ble mae gwastraff yn cael ei greu a faint o wastraff sy’n cael ei greu
- Ystyriwch faint mae’r deunyddiau sy’n cael eu gwastraffu’n eich costio i’w prynu, eu storio a’u gwaredu.
- Peidiwch ag anghofio cynnwys costau ar gyfer deunydd pacio, carthion, ac ynni, ac ystyriwch a oes modd gwneud y ffordd y mae staff a deunyddiau’n symud o gwmpas eich eiddo yn fwy effeithlon. Chwliwch am newidiadau hawdd i’w gweithredu a fydd yn arwain at ganlyniadau ar unwaith
- Dylech flaenoriaethu rhai o’r prif broblemau a fydd yn creu’r arbedion neu’r gwelliannau amgylcheddol mwyaf.
- Ystyriwch eich cadwyn gyflenwi. Os yw’n bosibl, prynwch yn lleol i leihau allyriadau trafnidiaeth. Gweithiwch gyda chyflenwyr i ad-drefnu dosbarthiadau. Allwch chi ailddefnyddio deunydd pacio neu ei ddychwelyd i’w ailddefnyddio? A oes cyfleoedd i gyfuno dosbarthiadau cynhyrchion â chasgliadau? A oes gwasanaethau atgyweirio, ailddefnyddio neu ailwampio ar gael ar gyfer offer?
- Gwiriwch eich safle am ollyngiadau (o bibelli dŵr ac unrhyw bibelli a ddefnyddir i gludo deunyddiau crai rhwng prosesau), yna dylech atgyweirio unrhyw ollyngiadau a ganfyddwch.
- Mae Business Resource Efficiency Hub WRAP yn darparu canllawiau, gwybodaeth ac offer i helpu’r sector gweithgynhyrchu. Ewch i www.wrap.org.uk/content/business-resource-efficiency-hub
- Mae Finding Cost Savings: Resource Efficiency for SMEs yn darparu gwybodaeth gyfeirio gryno, ddefnyddiol ar effeithlonrwydd adnoddau, deddfwriaeth amgylcheddol ac offer rheoli. Mae hefyd yn cynnwys trosolwg o’r gweithgareddau y gall busnesau bach fod yn gysylltiedig â nhw. Ewch i www.wrap.org.uk/content/finding-cost-savings-resource-efficiency-smes
- Os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru gan fynd i www.naturalresourceswales.gov.uk neu ffoniwch 0300 065 3000.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.