Cyfarwyddyd, Document

Awgrymiadau da ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd - Gwasanaethau Lletygarwch a Bwyd

Gwasanaethau Lletygarwch a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Tachwedd 2024
Diweddarwyd diwethaf: 1 Tachwedd 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 21.77 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Oeddech chi’n gwybod bod bob bin ag olwynion 180 litr rydych chi’n ei lenwi â gwastraff bwyd yn costio oddeutu £200? Lluoswch y swm hwn gyda 52 wythnos, ac mae’r cyfanswm dros £10,000 y flwyddyn, gallech chi fod yn arbed hyn petaech chi’n gwneud rhai pethau’n wahanol. 

  • Amcangyfrifwyd bod y bwyd a wastraffwyd yn y DU gan y gwasanaeth lletygarwch a bwyd yn 2011 yn £2.5 biliwn y flwyddyn, a fydd yn codi i £3 biliwn y flwyddyn erbyn 2016. 
  • Ar gyfartaledd, daw 21 y cant o wastraff bwyd yn sgil bwyd yn difetha, 45 y cant wrth baratoi bwyd, a 34 y cant o blatiau defnyddwyr. 
  • Cyfanswm y gwastraff, gan gynnwys bwyd, deunydd pacio a gwastraff arall nad yw’n fwyd, a gynhyrchir bob blwyddyn mewn lleoliadau’r sector lletygarwch a bwyd, yw 2.87 miliwn tunnell. Caiff 46 y cant ohono ei ailgylchu, ei anfon ar gyfer treulio anaerobig neu ei gompostio. 
  • Dyma awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd adnoddau a lleihau costau: 
    • Ystyriwch gofyn i gyflenwyr ddosbarthu cynhyrchion mewn deunydd pacio y gellir ei ddychwelyd. Ailddefnyddiwch ddeunyddiau fel papur swigod, blychau, paledau a chratiau ar gyfer dosbarthiadau rheolaidd. Adolygwch brosesau rheoli stoc a dosbarthu bwyd ar gyfer eitemau bwyd â chyfnod silff byr. Gall hon fod yn ffordd syml o leihau gwastraff yn sgil bwyd yn difetha. 
    • Dylech osod diwylliant diffodd yn y gegin, sicrhau bod y sosbenni a’r poptai maint cywir yn cael eu defnyddio, a bod y poptai’n cael eu cynhesu ymlaen llaw am gyfnod heb fod yn hwy na’r angen. 
    • Hyfforddwch staff mewn atal gwastraff yn eu maes gweithio. Gallwch ddod o hyd i ffyrdd i atal gwastraff bwyd trwy wella cynllun bwydlen, gadael y croen ar fwyd, addasu maint dognau, rheoli stoc a chyflwyno bagiau sborion? 
    • Gofynnwch i gyflenwyr ddosbarthu cynhyrchion mewn deunydd pacio y gellir ei ddychwelyd. 
    • Ceisiwch ddod o hyd i gyflenwadau’n lleol, a phan cânt eu dosbarthu, ystyriwch a oes modd lleihau nifer y teithiau trwy eithafu llwythi a chynllunio llwybrau’n effeithiol. 
    • Gwnewch yn siŵr bod eich deunydd pacio wedi cael ei ddylunio i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu, a bod modd gwahanu’r cydrannau’n hawdd i hyrwyddo casgliadau deunyddiau ailgylchu ar wahân. 
    • Bydd gosod tapiau sy’n cau eu hunain neu sydd â synwyryddion is-goch yn lleihau faint o ddˆwr rydych yn ei ddefnyddio a gwella hylendid 
    • Pan fyddwch yn prynu offer newydd, dewiswch gynhyrchion dŵr ac ynni effeithlon, a’u gosod nhw’n gywir. Mae llawer o’r cynhyrchion hyn yn arddangos ‘Label Dŵr’ i’ch helpu chi i gymharu effeithlonrwydd dŵr cynhyrchion. 
  • Cofiwch na ellir bwydo anifeiliaid fferm â gwastraff arlwyo a rhaid ei waredu’n gywir trwy gyfleusterau trwyddedig a chymeradwy. 
  • Dylid storio olew coginio gwastraff yn gywir i osgoi gollyngiadau, a’i gasglu gan gwmnïau casglu awdurdodedig yn unig. 
  • Ystyriwch yr hierarchaeth gwastraff. Dylech geisio lleihau gwastraff fel blaenoriaeth a gwaredu i safleoedd tirlenwi fel dewis olaf yn unig, ar ôl rhoi, compostio neu dreulio anaerobig. 
  • Mae WRAP wedi llunio cyfres o daflenni gwybodaeth i gynorthwyo busnesau yn y sector gwasanaeth lletygarwch a bwyd i gymryd camau ynghylch gwastraff. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.wrap.org.uk/content/taking-action-waste-information-sheets 
  • I weld amodau cymorth am y gwasanaeth lletygarwch a bwyd WRAP, ewch i www.wrap.org.uk/category/sector/hospitality-and-food-service
Lawrlwytho'r ddogfen: 21.77 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.