Cyfarwyddyd, Document

Awgrymiadau da ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd - Effeithlonrwydd Ynni

Effeithlonrwydd Ynni

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf: 18 Hydref 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 21.28 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Gallwch weithredu nifer o fesurau arbed ynni am gost isel neu hyd yn oed heb gost o gwbl, a gall leihau costau ynni hyd at 20 y cant. Dyma rai awgrymiadau syml a all eich helpu chi i arbed ynni.

  • Gallwch gymryd camau syml i leihau eich costau ynni.
    • A yw eich staff yn chwarae eu rhan – a ydyn nhw’n diffodd offer yn y nos a phan na chânt eu defnyddio.
    • A oes synwyryddion symudiadau neu amseryddion wedi cael eu gosod mewn ardaloedd sy’n cael eu defnyddio’n achlysurol.
    • Ydych chi wedi gosod bylbiau golau ynni isel.
    • Ydych chi’n gwresogi mannau na chânt eu defnyddio.
  • Gwnewch yn siŵr bod y staff yn gwybod sut mae systemau gwresogi ac oeri’n gweithio a’u bod nhw’n gyfarwydd ag unrhyw weithrediadau effeithlonrwydd ynni cynwysedig.
  • Trwy leihau tymheredd ystafell 1˚C, gallwch leihau eich bil gwresogi cymaint â 10 y cant. Os yw eich lefelau gwresogi wedi’u gosod yn rhy uchel neu eich lefelau oeri’n rhy isel, gallech fod yn defnyddio mwy o ynni nag sy’n angenrheidiol. Dylech osod thermostatau gwres canolog rhwng 18˚ a 21˚C a dylech osod aerdymherwyr i ddod ymlaen pan mae’r tymheredd yn mynd yn uwch na 24 ˚C
  • Dylech ddefnyddio amseryddion a thermostatau i reoli systemau gwresogi ac oeri, i gynhesu swyddfeydd cyn i staff gyrraedd ac i ddiffodd pan fydd yn cyrraedd y tymheredd dymunol
  • Dylech sicrhau bod ffenestri a drysau ar gau pan mae’r systemau gwresogi neu aerdymheru ymlaen. Dylech annog staff i gau bleindiau a llenni i atal cynhesu gan yr haul neu golli gwres mewn ystafelloedd
  • Dylech ddiffodd systemau gwresogi neu oeri mewn ystafelloedd gwag. Defnyddiwch y rhain dim ond pan mae pobl yn yr ystafell
  • Gall yr ynni a ddefnyddir ar gyfer golau gyfrir am hyd at hanner bil trydan swyddfa. Mae labelu neu roi côd lliw ar switshis yn ffordd wych o hyrwyddo diwylliant ‘diffodd’ ymhlith gweithwyr. System syml yw: coch = peidiwch â’i ddiffodd, oren = gall staff penodol ei ddiffodd pan na chaiff ei ddefnyddio, a gwyrdd = gall unrhyw un ei ddiffodd pan na chaiff ei ddefnyddio
  • Gwiriwch gyda’ch darparwr trydan i sicrhau eich bod chi ar y pris cywir. Gall cymharu darlleniadau mesurydd gwirioneddol â darlleniadau ar eich bil (a all fod yn amcangyfrifon) amlygu anghysondeb a gordaliadau
  • Mesur defnydd ynni yw’r cam cyntaf i’w reoli. Bydd cyfrifo eich costau sylfaenol ar gyfer tanwydd a thrydan yn eich helpu chi i osod targedau ac amlygu meysydd sydd angen sylw ar unwaith
  • Wrth ailwampio, ystyriwch osod ffenestri dwbl neu driphlyg. Gall atal drafftiau ac insiwleiddio gwael mewn waliau, toeon neu bibellau ganiatáu i ynni ddianc. Dylech eu newid neu eu diweddaru, pa fo angen
  • Gwnewch yn siŵr nad yw ffaniau, pympiau ac offer canolog, fel tyrau oeri, boeleri ac oerwyr, yn gweithredu pan fo adeiladau’n wag, ac eithrio pan fo’r angen
  • Gwnewch yn siˆwr fod gan declynnau gyfradd ynni’r UE o A neu uwch
  • Defnyddiwch olau naturiol pan fo’n bosibl, cadwch ffenestri’n lân, ac anogwch staff i agor bleindiau yn hytrach na throi goleuadau ymlaen
  • Dylech chi lanhau tryledwyr yn rheolaidd. Gall tryledwyr budr leihau allbwn golau i 50 y cant
  • Gwnewch yn siˆwr y gellir diffodd golau â llaw ac ystyriwch osod synwyryddion golau dydd neu chanfyddwyr symudiadau i reoli pryd caiff golau ei droi ymlaen a’i ddiffodd
  • Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn helpu busnesau i leihau allyriadau carbon. Ewch i’w gwefan at www.carbontrust.co.uk
Lawrlwytho'r ddogfen: 21.28 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.