Cyfarwyddyd, Document

Awgrymiadau da ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd - Dŵr

Dŵr

Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf: 30 Hydref 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.08 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Mae cost gwirioneddol cyflenwi dŵr a gwaredu carthion wedi codi 40 y cant ers 2002. Mae eich busnes yn talu ddwywaith am ddŵr – unwaith ar gyfer ei ddarparu ac eto ar gyfer ei waredu. Bydd lleihau faint o ddŵr mae eich busnes yn ei ddefnyddio yn arbed arian o ran costau cyflenwi a biliau gwaredu carthion a gallai eich helpu chi i arbed ar gostau ynni ar gyfer cynhesu neu ar gyfer cemegau i drin dŵr. Gweler isod rai awgrymiadau syml y gallwch eu dilyn i’ch helpu chi i arbed dŵr. 

  • Mae llawer o ddŵr ac arian yn cael ei fflysio i ffwrdd. Petaech yn gwneud buddsoddiad cymharol fach mewn offer, fel argaeau seston, cyfyngwyr llif, awyryddion, a thapiau neu ddrylliau clicied ar gyfer pibelli dŵr, gallech chi wneud arbedion sylweddol. 
  • Oes gennych chi unrhyw ollyngiadau neu dapiau sy’n diferu? A yw eich tapiau’n troi i ffwrdd yn llawn? Gall tap sy’n diferu wastraffu mwy na 5,500 litr o ddŵr y flwyddyn. 
  • A yw eich ystafelloedd ymolchi yn defnyddio systemau fflysh ddeuol? Gall argaeau seston, cyfyngwyr llif neu dapiau taro leihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. 
  • Bydd gosod tapiau sy’n cau eu hunain neu sydd â synwyryddion is-goch yn lleihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio a gwella hylendid. Bydd cynnal a chadw tapiau’n rheolaidd yn sicrhau nad yw dyddodion sebon a chen yn achosi gollyngiadau na thapiau sownd. Gellid cynnal a chadw cawodydd hefyd i osgoi rhwystrau a pherfformiad is. 
  • Gallai gosod awyrydd, sy’n costio oddeutu £5, ar gawod gonfensiynol a ddefnyddir ddwywaith y dydd am bum munud, arbed oddeutu £30 y flwyddyn mewn costau dŵr a charthffosiaeth. 
  • Pan fyddwch yn prynu offer newydd, dewiswch gynhyrchion dŵr ac ynni effeithlon, a’u gosod nhw’n gywir. Mae llawer o’r cynhyrchion hyn yn arddangos ‘Label dŵr’ i’ch helpu chi i gymharu effeithlonrwydd dŵr cynhyrchion. 
  • A yw pwysedd y dŵr yn rhy uchel? Mae cyfradd llif o 5 i 6 litr y funud yn ddigonol i olchi dwylo. Mae awyryddion a chyfyngwyr llif yn atebion cost isel a all leihau’r defnydd o ddŵr hyd at 70 y cant. 
  • Os oes rhaid i dŵr poeth deithio trwy bibelli hir i gyrraedd y man lle caiff ei ddefnyddio, rhaid gwaredu llawer o ddŵr oer yn gyntaf. Efallai y gallech ddod o hyd i ffyrdd i gynhesu’r dŵr yn agosach at ble caiff ei ddefnyddio. 
  • Mae pecyn cymorth Rippleffect WRAP yn darparu cyngor a chymorth rhad ac am ddim i helpu busnesau i arbed arian trwy ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon. Ewch i www.wrap.org.uk/content/rippleffect 
  • Mae deall faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio a faint mae’n costio yn allweddol i wneud gwelliannau. Mae Water Monitoring Tool WRAP ar gael ar www.wrap.org.uk/content/water-monitoring-tool-0 
  • Gall Mogden Formula Tool helpu i bennu faint y dylech chi fod yn ei dalu am garthion. Ewch i www.wrap.org.uk/content/mogden-formula-tool-0 
  • Defnyddiwch y peiriant golchi llestri pan mae’n llawn yn unig, a chofiwch lenwi’r tegell â faint o ddŵr sydd ei angen arnoch, yn hytrach na’i lenwi a chynhesu dŵr nad ydych ei angen. 
  • Gellir defnyddio casgenni dŵr, sy’n hawdd i’w gosod, i gasglu dŵr i ddyfrhau planhigion a golchi tu allan, a gall eich helpu chi i osgoi talu am ddŵr ansawdd yfed yn ddianghenraid. 
  • Gall gollyngiadau pibelli achosi difrod i’ch eiddo a gall y gwaith atgyweirio fod yn ddrud. I’ch helpu chi i ganfod unrhyw ollyngiadau a cholledion dŵr arall, darllenwch eich mesurydd dŵr yn y nos a pheth cyntaf yn y bore, er mwyn i chi gael gweld faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio y tu allan i oriau gwaith. Cofiwch wirio eich pibellau a chysylltu â’ch cyflenwr dŵr a all helpu i ddod o hyd i ollyngiadau.
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.08 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.