Mae nifer o fathau o wastraff, ac ni chaiff ei ganfod mewn sgipiau a biniau yn unig. Dylech geisio atal gwastraff, lleihau neu ailddefnyddio, fel blaenoriaeth. Mae gwir gost gwastraff yn cynnwys gwerth y deunyddiau pan cânt eu prynu, a allai fod 5 i 20 gwaith eu cost gwaredu, a chost eu gwaredu ar ddiwedd ar eu defnydd. Gall ystyried pam mae pethau’n cael eu gwaredu helpu i atal gwastraff. Dyma rai awgrymiadau syml a all eich helpu chi i leihau gwastraff.
- Bydd cynnal adolygiad gwastraff o’ch eiddo yn eich helpu chi i ddarganfod faint o wastraff rydych chi’n ei gynhyrchu. I amlygu meysydd blaenoriaeth, rhowch systemau ar waith i fonitro eich gwastraff ac amlygu faint mae’n costio.
- Mae cysylltiad clir rhwng prynu ac atal gwastraff. Cyn i chi brynu cynnyrch, ystyriwch:
- A oes angen i chi brynu’r eitem mewn gwirionedd? Ydych chi’n prynu fwy nag sydd ei angen arnoch? A yw’r stoc yn cael ei rheoli’n effeithiol? Ydych chi’n talu am eitemau heb eu defnyddio?
- Faint o ddeunydd pacio sy’n cael ei ddefnyddio neu ei waredu? Allwch chi weithio gyda’ch cyflenwyr i leihau’r deunydd pacio?
- A ellir ail ailddefnyddio eitemau yn lle eu taflu i ffwrdd?
- Allwch chi leihau gwastraff a’r costau cysylltiedig trwy brynu eitemau mwy gwydn neu a fydd yn para’n hwy?
- Allwch chi ‘gau’r ddolen’ trwy brynu eitemau wedi’u gwneud o gynnwys wedi’i ailgylchu, fel cynhyrchion papur neu blastig?
- Ystyriwch eich cadwyn gyflenwi. Os yw’n bosibl, prynwch yn lleol i leihau allyriadau trafnidiaeth. Gweithiwch gyda chyflenwyr i ad-drefnu dosbarthiadau. Allwch chi ailddefnyddio deunydd pacio neu ei ddychwelyd i’w ailddefnyddio? A oes cyfleoedd i gyfuno dosbarthiadau cynhyrchion â chasgliadau? A oes gwasanaethau atgyweirio, ailddefnyddio neu ailwampio ar gael ar gyfer offer neu ddodrefn swyddfa?
- Dylech osgoi defnyddio eitemau tafladwy, fel cwpanau a llestri plastig, ac eitemau arlwyo unigol fel pecynnau siwgr a phlatiau papur.
- Dylech atal gwastraff bwyd trwy gadarnhau nifer y bobl fydd yn mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau a pheidio ag archebu gormod o fwyd ar eu cyfer. Ystyriwch osod peiriannau sychu dwylo yn y toiledau.
- Prynwch getris arlliw wedi’u gweithgynhyrchu a’u dychwelyd y cetris wedi’u defnyddio at gwmni a fydd yn eu hailweithgynhyrchu nhw eto.
- Papur yw’r gwastraff mwyaf cyffredin mewn swyddfeydd. Gall gweithiwr swyddfa cyffredin ddefnyddio hyd at 45 dalen o bapur y dydd, ond gellir lleihau hyn i gyn lleied ag 16 dalen y dydd trwy ymgysylltu staff a chynyddu eu hymwybyddiaeth. Dyma rai awgrymiadau syml:
- Defnyddio dwy ochr y papur i leihau defnydd hyd at 50 y cant. Gosod argraffwyr i argraffu’r ddwy ochr yn ddiofyn.
- Meddwl cyn argraffu. A yw’n angenrheidiol? Os ydyw, argraffwch 4 tudalen ar un ddalen A4. Gall gosod nodyn atgoffa ar bwys argraffwyr, llungopiwyr ac ar waelod negeseuon e-bost annog staff i argraffu llai.
- Lleihau nifer yr argraffwyr ar gael. Mae argraffwyr pen desg yn ddrud i’w rhedeg ac yn ei gwneud hi’n rhy hawdd i staff argraffu heb angen.
- Gallwch fonitro argraffu trwy roi cod mynediad personol i bob aelod o staff. Dylech osod tabl fel bod unigolion yn ymwybodol o faint o bapur maen nhw’n ei ddefnyddio.
- Dylech osgoi argraffu gormod o ddeunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd, a diweddaru eich cronfeydd data a’ch rhestrau dosbarthu’n rheolaidd. Defnyddiwch gyfathrebiadau electronig os yw’n bosibl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.