Cyfarwyddyd, Document

Awgrymiadau da ar gyfer gwella eich effeithlonrwydd - Ailgylchu

Ailgylchu

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Hydref 2024
Diweddarwyd diwethaf: 18 Hydref 2024
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.71 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.

Lleihau gwastraff ddylai fod yn flaenoriaeth. Yn gyntaf, ystyriwch a oes modd ailddefnyddio eitemau yn hytrach na’u hailgylchu. Mae modd ailgylchu oddeutu 70 y cant o wastraff swyddfa. I sefydlu system ailgylchu effeithiol yn eich sefydliad, bydd angen i chi:

  • Ddeall faint a math y gwastraff rydych chi’n ei gynhyrchu, ac yna priodoli cost i hyn. Bydd angen i chi ddeall costau prynu’r cynnyrch a chostau ei waredu. Bydd angen i chi drosi’r rhain yn ffigurau blynyddol i’ch helpu chi i ddeall yr effaith ar eich busnes a pha feysydd fydd angen i chi eu blaenoriaethu, o bosibl.
  • Labelwch finiau ailgylchu yn glir i ddangos beth y gellir ei ailgylchu yn ble.
  • Gwiriwch gynnwys eich biniau ailgylchu. A yw’r deunyddiau cywir yn cael eu rhoi yn y biniau cywir?
  • Gwiriwch eich biniau gwastraff cyffredinol i sicrhau nad oes eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu taflu yno. Gwiriwch yn ddyddiol, efallai y cewch eich synnu beth fyddwch yn ei ganfod.
  • Ystyriwch dynnu neu leihau nifer y biniau gwastraff yn eich eiddo.
  • Mae gofyniad cyfreithiol bellach i gasglu deunyddiau ailgylchu ar wahân. A yw eich cwmni casglu yn bodloni’r gofyniad hwn? Mewn swyddfa gyffredin, mae’n arferol ailgylchu papur, cerdyn, gwydr, plastig a metel ar wahân.
  • Mae ymchwil WRAP yn dangos bod pobl yn ymateb yn well i unedau ailgylchu wedi’u labelu’n glir a negeseuon ategol. I weithredu systemau arwahanu effeithiol:
    • crëwch orsafoedd ailgylchu â’r holl gynwysyddion mewn un man.
    • defnyddiwch god lliw ar gyfer y cynwysyddion i hyrwyddo cysondeb yn y busnes ac osgoi dryswch ynghylch pa eitemau y dylid eu gosod ym mha fin.
    • rhowch wybod i’r gweithwyr beth allan nhw ei ailgylchu trwy weithredu ymgyrch ymwybyddiaeth a gosod cyfarwyddiadau wrth y biniau, a.
    • gwnewch yn siˆwr bod deunydd pacio yn cael eu gwastadu fel na fydd y cynwysyddion yn cael eu llenwi gydag aer neu wagle.
  • Mae croeshalogi yn cynyddu faint o wastraff rydych chi’n ei anfon i safleoedd tirlenwir a gallai gynyddu eich costau gwaredu
  • I helpu i sicrhau bod yn eich cynllun ailgylchu yn effeithiol, mae gan WRAP Cymru ddwy set o dempledi gwaith celf dwyieithog y gallwch eu defnyddio ar gyfer negeseuon ac arwyddion, y gellir eu haddasu ar gyfer anghenion eich busnes. Ewch i www.wrapcymru.org.uk/cy/ailgylchuar-hyd-y-lle-yng-Nghymru
  • Gweithiwch gyda’ch contractwr rheoli gwastraff i sicrhau y gallwch ailgylchu ystod eang o ddeunyddiau a bod eich contract gwastraff yn bodloni anghenion eich busnes.
  • Gofynnwch eich contractwr rheoli gwastraff pa ostyngiadau sydd ar gael ar gyfer gwahanu gwastraff. Efallai y byddwch yn gallu lleihau cost eich gwasanaeth neu hyd yn oed drafod incwm ar gyfer deunyddiau wedi’u gwahanu neu eu bwndelu
  • Gwnewch yn siˆwr eich bod chi’n deall y gwasanaeth a ddarperir gan eich contractwr rheoli gwastraff a’i fod yn bodloni eich anghenion:
    • Pa mor aml caiff y biniau eu casglu? Ydyn nhw’n llawn pan cânt eu casglu? Gallech chi fod yn talu am gasglu biniau gwag neu rannol wag
    • Are there any discounts available for segregating recyclable waste?
    • A oes gwasanaethau ychwanegol, fel archwiliadau gwastraff neu gynlluniau atal gwastraff ar gael i’ch helpu chi i reoli neu leihau eich gwastraff?
    • Sut a phryd fydd dogfen ‘Dyletswydd Gofal’ yn cael ei darparu?
  • Trwy ailgylchu cymaint â phosibl, efallai y byddwch yn gallu lleihau eich costau gwaredu gwastraff. Mae ailgylchu’n costio llai nag anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi, yn enwedig os ydych chi’n gwahanu eich gwastraff
Lawrlwytho'r ddogfen: 20.71 KB, PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.